Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru yn annog allforio mewn cwmni wisgi Cymreig byd-eang

Guto Bebb: Mae llwyddiant Penderyn yn paratoi鈥檙 ffordd i fusnesau Cymreig eraill sicrhau llwyddiant wrth allforio

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Heddiw (9 Hydref) mae Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru yn ymweld 芒 distyllfa wisgi Penderyn yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd sy鈥檔 aros am gwmn茂au a chanddynt y cymhelliant i fentro allan i鈥檙 byd ehangach, i fasnachu ac i gynnal busnes ym mhob cwr o鈥檙 byd.

Mae Penderyn, sydd wedi鈥檌 leoli ger Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wedi datblygu ei frand yn gyflym ers ei sefydlu yn 2000. Erbyn hyn mae鈥檙 cwmni鈥檔 allforio i farchnadoedd rhyngwladol mewn 25 o wledydd gan gynnwys Tsieina, Rwsia, Awstralia ac, yn fwy diweddar, Japan, wrth i鈥檙 awydd am wisgi brag sengl a gwirodydd lleol gynyddu ledled y byd.

Trefnwyd yr ymweliad yn dilyn cenhadaeth fasnach Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ddiweddar i Japan, lle cyfarfu 芒 chwmn茂au rhyngwladol blaenllaw i drafod potensial gwych mewnfuddsoddi pellach yn y Deyrnas Unedig. Bydd Llywodraeth y DU yng Nghymru hefyd yn ceisio cyflwyno busnesau eraill o Gymru i fuddsoddwyr o Japan yr wythnos hon mewn derbyniad yn Nh欧 Gwydyr yn Llundain nos Fercher.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS:

Mae Penderyn yn enghraifft ardderchog o fusnes Cymreig lleol a chanddo enw da dros y byd i gyd. Mae鈥檙 cwmni鈥檔 arddangos cynnyrch gwych o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol ac yn paratoi鈥檙 ffordd i fusnesau Cymreig eraill sicrhau llwyddiant wrth allforio hefyd.

Mae Penderyn yn fusnes sy鈥檔 ychwanegu gwerth go iawn at economi ranbarthol Cymoedd De Cymru - o ran gweithgynhyrchu ac yn fwy diweddar hefyd yn y busnes twristiaeth. Nid yw鈥檔 syndod bod miloedd o bobl yn weld 芒鈥檙 ddistyllfa bob blwyddyn i weld ansawdd wisgi Cymreig a chryfder ein diwydiant bwyd a diod.

Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, dyma鈥檙 amser i ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer masnachu ac allforio yn bellach i ffwrdd. Bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi pob busnes Cymreig sy鈥檔 awyddus i chwilio am farchnadoedd tramor newydd.

Mae Cymru eisoes yn wlad sy鈥檔 allforio. Yn 2016 roedd dros 3,800 o fusnesau yn allforio yng Nghymru a gwerth cyfun blynyddol yr allforion yn 拢12.4 biliwn. Bellach, mae Gweinidogion yn annog busnesau eraill i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan gynnwys cymhellion ariannol a gwasanaethau paru ar-lein.

Yn ddiweddar, mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at dros 26,000 o fusnesau Cymreig oedd wedi鈥檜 nodi fel cwmn茂au allforio posib, yn ogystal ag anfon copi o鈥檙 Canllaw Allforio Cymru. Mae鈥檙 canllaw penodol i Gymru yn nodi鈥檙 ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae鈥檔 cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmn茂au yng Nghymru sy鈥檔 allforio鈥檔 llwyddiannus.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Penderyn yn ddistyllfa wisgi ac yn frand Cymreig, sy鈥檔 cynhyrchu鈥檙 wisgi cyntaf i gael ei wneud yng Nghymru ers y 19eg ganrif. Cyn hynny, roedd wisgi yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru ers y 4edd ganrif.

  • Caiff Penderyn ei ddistyllu a鈥檌 gynhyrchu yn Nistyllfa Penderyn sydd ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ym mhentref Penderyn, Rhondda Cynon Taf, yng Nghwm Cynon, lle caiff y brand ei enw. Dewiswyd y safle gan fod ganddo ei gyflenwad ei hun o dd诺r ffynnon naturiol.

  • Dechreuodd y cwmni鈥檔 wreiddiol yn 2000 fel y Welsh Whisky Company. Cyn hynny, roedd wisgi wedi bod yn cael ei ddistyllu yng Nghymru am ganrifoedd, ond daeth hynny i ben yn 1894.

  • Penderyn oedd y wisgi cyntaf i gael ei weithgynhyrchu yng Nghymru am dros ganrif pan ddechreuodd gael ei werthu ar Ddydd G诺yl Dewi yn 2004 mewn lansiad gydag EUB y Tywysog Charles. Dyma鈥檙 unig wisgi sy鈥檔 cael ei gynhyrchu yng Nghymru o hyd.

  • Agorodd y cwmni ganolfan i ymwelwyr ym mis Mehefin 2008, gyda鈥檙 Tywysog Charles, Tywysog Cymru, yn arwain y gweithgareddau. Erbyn hyn, mae dros 35,000 o ymwelwyr yn ymweld 芒鈥檙 ganolfan i ymwelwyr bob blwyddyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Hydref 2017