Llywodraeth y DU yn cynnal Uwchgynhadledd gyntaf Allforio Busnes Cymru
Alun Cairns: 'Dydyn ni erioed wedi cael cyfle gwell i allforio dramor'

Exporting is GREAT
Bydd busnesau yng Nghymru sy鈥檔 gobeithio ystyried cyfleoedd allforio byd-eang yn cael cyfle i fanteisio ar gyngor ac arweiniad gan entrepreneuriaid, perchnogion busnesau rhyngwladol a phencampwyr allforio yn Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yng Nghaerdydd heddiw (6 Mawrth).
Mae disgwyl i dros 80 o gwmn茂au o bob cwr o Gymru fynd i鈥檙 digwyddiad yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, wedi鈥檌 gynnal gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Mark Garnier, y Gweinidog Masnach Ryngwladol.
Mae Cymru eisoes yn wlad sy鈥檔 allforio. Yn 2015, mentrodd 4,000 o gwmn茂au i鈥檙 farchnad fyd-eang, sy鈥檔 werth 拢11.6 biliwn. Bydd Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yn ceisio annog mwy o fusnesau i ddilyn eu h么l troed a phrofi鈥檙 manteision sy鈥檔 dod law yn llaw 芒 sylfaen o gwsmeriaid byd-eang.
Yn 2015/16 gwelwyd Cymru yn elwa o 97 o brosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor newydd a greodd 5,443 o swyddi.
Ledled y DU, mae allforion yn cyfrannu dros 拢511 biliwn at y cynnyrch domestig gros, ond dim ond 11% o fusnesau cofrestredig Prydain sy鈥檔 allforio y tu hwnt i鈥檔 ffiniau, gan golli allan ar y cyfleoedd diderfyn i dyfu dramor.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae yna gyfleoedd busnes ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau cwmn茂au Cymru bob dydd, a hynny ym mhob gwlad ar draws y byd.
Ond rydyn ni鈥檔 gwybod bod camu i farchnadoedd newydd ac anghyfarwydd yn gallu ymddangos yn frawychus weithiau - yn enwedig nawr wrth i鈥檙 DU baratoi i adael yr UE.
Rydyn ni am ddangos bod nawr yn gyfle perffaith i gwmn茂au yng Nghymru allforio dramor. Mae gennym ni gyfle nawr i lywio ein cyfleoedd masnachu a buddsoddi uchelgeisiol ein hunain yn Ewrop a thu hwnt, a rhoi Cymru a Phrydain yn gadarn ar flaen y gad o ran masnach a buddsoddi byd-eang.
Yng Nghymru yn unig, mae鈥檙 Adran Masnach Ryngwladol wedi helpu mwy na 600 o gwmn茂au eleni i ddarparu gwasanaethau allforio - yn cynnwys cymorth gan eu staff tramor, help i fynd i sioeau masnach ryngwladol ac ymchwil allweddol i鈥檙 farchnad.
Dywedodd Mark Garnier, y Gweinidog Masnach Ryngwladol:
O foduron i鈥檙 awyrofod, mae byd o gyfleoedd busnes ar gael i gynhyrchion a gwasanaethau Cymru, ond mae llawer o fusnesau yn ansicr lle i ddechrau neu nid ydynt yn gwybod bod cefnogaeth ar gael.
Bydd yr uwchgynhadledd yma鈥檔 helpu i gysylltu cwmn茂au sy鈥檔 dechrau ar eu taith allforio drwy roi鈥檙 arbenigedd sydd ei angen arnynt. Rydyn ni am helpu mwy o fusnesau yng Nghymru a ledled y DU i adeiladu eu brand dramor wrth i ni barhau i gynyddu allforion y DU ac annog mewnfuddsoddiad.
Bydd busnesau sy鈥檔 bresennol yn Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru hefyd yn cael cyfle i wrando ar gwmn茂au sydd eisoes yn gadael eu h么l ar diriogaethau byd-eang.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Gobeithio y bydd pawb sy鈥檔 bresennol heddiw yn cael eu hysbrydoli i fod y genhedlaeth nesaf o allforwyr yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yn barod i鈥檞 cefnogi, a bydd yn gefn iddynt ar bob cam.
Allforion: Canllaw i鈥檆h Busnes
Nodiadau i Olygyddion
Mae gan Lywodraeth y DU a鈥檙 sector preifat amrywiaeth o wasanaethau ar gael i helpu allforwyr newydd ac allforwyr sy鈥檔 bodoli eisoes. Mae鈥檙 rhain wedi eu cynnwys ar un wefan, sef great.gov.uk
Lansiwyd great.gov.uk ym mis Tachwedd 2016 fel canolfan masnachu ar gyfer busnesau, a fydd yn eu helpu i gael mynediad at fusnes posibl dramor a allai fod werth miliynau o bunnoedd. Gall y ganolfan hefyd gynnig cyngor ymarferol a鈥檜 cyfeirio at gymorth i鈥檞 helpu i ennill contractau mawr. Fel rhan o鈥檔 hymgyrch i helpu mwy o fusnesau yn y DU i allforio, rydyn ni wedi cael:
-
Mwy nag 1 filiwn o ymweliadau 芒鈥檔 gwefannau allforio gyda 632,000 o ymwelwyr unigryw a 3.3 miliwn o ymweliadau 芒 thudalennau gwe unigol
-
Mwy na 72,000 o geisiadau am gyfleoedd i allforio
-
Mwy na 30,000 o gop茂au o鈥檙 canllaw hanfodol i allforio yn cael eu lawrlwytho
Drwy gofrestru, bydd busnesau yn dod yn rhan o gyfeiriadur newydd sbon o allforwyr y DU y gellir chwilio drwyddo ac y bydd y llywodraeth yn ei ddefnyddio i gyfateb eu cynnyrch a鈥檜 gwasanaethau i鈥檙 galw byd-eang.