Llywodraeth y DU yn helpu mwy na 57,000 o fusnesau yng Nghymru
Mae busnesau yng Nghymru wedi elwa ar fwy na 拢2 biliwn o fenthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU i ddiogelu a chefnogi swyddi.

- Mae mwy na 55,000 o fenthyciadau gwerth mwy na 拢1.5 biliwn wedi鈥檜 cynnig o dan Gynllun Benthyciadau Ailgydio Llywodraeth y DU
- Mae mwy na 2,200 o fenthyciadau gwerth 拢503 miliwn wedi鈥檜 cynnig o dan y Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws
- Mae 97,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o鈥檙 Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
Elwodd busnesau yng Nghymru o fwy na 拢2 biliwn o fenthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU i amddiffyn a chefnogi swyddi.
Mae mwy na 57,000 o fenthyciadau wedi cefnogi busnesau ar draws pob sector, gan amddiffyn swyddi. Ond y sectorau manwerthu ac adeiladu sydd wedi elwa fwyaf, gan ddangos sut y gwnaeth cefnogaeth y llywodraeth helpu鈥檙 busnesau hynny y mae鈥檙 pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt.
Yn yr un modd, mae鈥檙 cynllun cymorth incwm hunangyflogaeth wedi bod o fudd i bobl fusnes ym mhob sector, gyda 97,000 o bobl yng Nghymru yn elwa o鈥檙 cynllun, gyda hawliad o 拢2,400 ar gyfartaledd.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:
Mae鈥檙 pandemig wedi creu ansicrwydd enfawr i weithwyr, yr hunangyflogedig a pherchnogion busnes, ond mae鈥檙 gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU wedi鈥檌 darparu wedi dod 芒 sefydlogrwydd i filoedd o fusnesau ledled Cymru.
Mae cwmn茂au mawr a bach yng Nghymru wedi derbyn mwy na 拢2 biliwn mewn benthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU i amddiffyn swyddi a bydd y busnesau hyn yn helpu i yrru鈥檙 economi wrth i ni geisio adeiladu鈥檔 么l yn gryfach ar 么l y pandemig.
Meddai Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak:
鈥淭rwy gydol yr argyfwng hwn, rydym wedi darparu mwy na 拢280 biliwn o gefnogaeth i amddiffyn swyddi a bywoliaeth pobl ledled y wlad.
Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau bod swyddi鈥檔 cael eu gwarchod a bod cyfleon yn cael eu creu. Mae cwmn茂au ledled Cymru wedi elwa o gefnogaeth trwy fenthyciadau a gefnogir gan y llywodraeth, gan gynnwys cadwyn o archfarchnadoedd sy鈥檔 gwerthu nwyddau ar gyfer anifeiliaid anwes, Pet Place, a leolir yng Nghonwy.鈥�
Meddai Sion Pritchard, rheolwr gyfarwyddwr Pet Place:
Rydyn ni bob amser wedi cynllunio ein presenoldeb ar-lein i ychwanegu at y refeniw y mae ein siopau corfforol yn ei gynhyrchu, felly roedd y cynnydd sydyn a helaeth mewn archebion ar-lein yn her fawr. Er ein bod wedi gallu adleoli ein hadnoddau yn llwyddiannus, ni fyddem wedi gallu symud mor gyflym na chwrdd 芒鈥檙 gofynion cyfalaf heb y cyllid brys gan CBILS, yn enwedig o ystyried lefel y buddsoddiad rydym wedi鈥檌 roi i mewn i鈥檔 siopau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Nid yw ein busnes cyffredinol wedi bod yn rhydd o effeithiau economaidd y pandemig presennol o bell ffordd ond, gyda chefnogaeth CBILS a鈥檔 benthycwyr, rydym wedi gallu cwrdd 芒鈥檙 her a chadw ein gweithwyr yn ddiogel a sicrhau bod ein cyflenwyr yn cael eu talu鈥檔 llawn.
Ar ddechrau鈥檙 Gaeaf, cyhoeddodd y Canghellor y bydd mwy na miliwn o fusnesau a gymerodd Fenthyciad Ailgydio nawr yn derbyn gwarchodaeth bellach rhag yr argyfwng Covid trwy ad-daliadau hyblyg, o dan y system Talu wrth Dyfu newydd, sy鈥檔 rhoi mwy o amser i fusnesau ad-dalu. Ers hynny, mae鈥檙 Llywodraeth wedi ymestyn y cynlluniau benthyciadau tan fis Mawrth, ac wedi galluogi i fusnesau ychwanegu at eu benthyciadau os oes angen.
Mae鈥檙 Llywodraeth wedi buddsoddi mwy na 拢280 biliwn trwy gydol y pandemig i amddiffyn miliynau o swyddi a busnesau, gan gynnwys ymestyn y cynlluniau hunangyflogedig a ffyrlo hyd at fis Ebrill i roi鈥檙 sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau i gynllunio dros y misoedd nesaf.