Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn helpu mwy na 50,000 o Fusnesau yng Nghymru

Mae busnesau yng Nghymru wedi elwa o fwy na 拢1.3 biliwn o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i ddiogelu a chefnogi swyddi o ganlyniad i'r coronafeirws

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
woman typing on laptop
  • Mae mwy na 48,000 o fenthyciadau gwerth mwy na 拢1.3 biliwn wedi cael eu cynnig dan y Cynllun Benthyciadau Ailgydio
  • Mae mwy na 1,600 o fenthyciadau gwerth 拢373 miliwn wedi cael eu cynnig dan y Benthyciadau Ymyrraeth Busnes
  • Mae 82,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o鈥檙 Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

Mae busnesau yng Nghymru wedi elwa o fwy na 拢1.3 biliwn o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i ddiogelu a chefnogi swyddi.

Mae mwy na 50,000 o fenthyciadau wedi cefnogi busnesau ar draws bob sector a diogelu swyddi. Ond y sectorau manwerthu ac adeiladu sydd wedi elwa fwyaf, gan ddangos sut mae cefnogaeth y Llywodraeth y DU wedi helpu鈥檙 busnesau yr effeithiwyd arnynt galetaf gan y pandemig gan helpu i gadw pobl mewn gwaith.

Yn yr un modd, mae鈥檙 Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth wedi helpu pobl fusnes ar draws pob sector gyda 82,000 o bobl yng Nghymru yn elwa o鈥檙 CCIH gyda cheisiadau o 拢2,400 y pen ar gyfartaledd.

Yn 么l y Canghellor Rishi Sunak:

Rydym wedi darparu cefnogaeth ddigynsail i fusnesau a gweithwyr ar hyd a lled y wlad i ddiogelu swyddi a bywoliaeth.

Drwy gydol yr argyfwng, fy mlaenoriaeth i bob tro yw diogelu swyddi ac yng Nghynllun Economi鈥檙 Gaeaf, gwnaethom ddarparu cymorth ychwanegol i helpu busnesau drwy鈥檙 misoedd sydd i ddod.

Cyhoeddodd y Canghellor hefyd ar ddydd Gwener y bydd Cynllun Cymorth Swyddi yn ehangu i ddiogelu swyddi a chefnogi busnesau sy鈥檔 gorfod cau eu drysau o ganlyniad i gyfyngiadau鈥檙 coronafeirws.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Ers dechrau鈥檙 pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi diogelu miloedd o bobl a busnesau ar draws Cymru.

Dywedasom y byddem yn gwneud beth bynnag a gymeriff i ddiogelu bywoliaeth ac mae鈥檙 ffigurau yma鈥檔 dangos unwaith yn rhagor maint y gefnogaeth ariannol rydym wedi ei ddarparu.

Drwy ein Cynllun Economi鈥檙 Gaeaf a鈥檙 biliynau o bunnoedd o arian ychwanegol rydym wedi鈥檌 ddarparu i Lywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio gyda鈥檔 gilydd i wynebu鈥檙 argyfwng fwyaf y mae Cymru a鈥檙 DU wedi鈥檌 wynebu ers cenedlaethau.

Yn 么l yr Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma:

Rydym wedi darparu un o鈥檙 pecynnau mwyaf hael a chynhwysfawr yn y byd gan ddiogelu miliynau o swyddi ac achub miloedd o fusnesau.

Rwy鈥檔 gwybod bod yr amseroedd yn anodd i nifer o sectorau, gweithwyr a鈥檌 teuluoedd ond rydym yn parhau i sefyll gyda busnesau i鈥檞 helpu i adeiladu n么l yn well wrth i ni roi hwb cychwynnol i鈥檔 hadferiad economaidd.

Mae cwmn茂au ledled Cymru wedi elwa o gymorth gan gynnwys Recriwtio 121 Finance & Accounting Solutions.

Yn 么l Che Hookings, Prif Weithredwr Recruit 121:

Mae gweithredu鈥檔 gyfrifol mewn argyfwng o鈥檙 fath yn gydbwysedd anodd rhwng optimistiaeth, doethineb a phoen. Mae鈥檙 cynllun ffyrlo wedi bod yn wych i leihau鈥檙 effaith i鈥檙 unigolyn a helpu busnesau i ddal gafael ar y bobl dalentog fydd angen arnynt ar 么l yr argyfwng. Fel cwmni, rydym yn sicr wedi gwerthfawrogi ac elwa o鈥檙 cymorth yma gan Lywodraeth y DU.

Fel rhan o Gynllun Economi鈥檙 Gaeaf, cyhoeddodd y Canghellor y bydd mwy na miliwn o fusnesau a gafodd Fenthyciad Ail Gydio nawr yn cael sicrwydd pellach o argyfwng y Covid gydag ad-daliadau hyblyg dan y cynllun newydd Talu wrth Dyfu sy鈥檔 rhoi mwy o amser i fusnesau i ad-dalu.

Bydd Cynllun Economi鈥檙 Gaeaf yn parhau i ddiogelu swyddi a helpu busnesau drwy鈥檙 misoedd ansicr sydd i ddod wrth i ni fabwysiadu ymateb newydd i鈥檙 feirws, gan gynnwys ymestyn y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth a thoriad o 15% mewn TAW i鈥檙 sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Hydref 2020