Llywodraeth y DU yn helpu cannoedd o brynwyr am y tro cyntaf yng Nghymru i ddod yn rhan o鈥檙 farchnad dai
Stephen Crabb: "Rydyn ni鈥檔 helpu cannoedd o bobl i ddringo ar ris cyntaf yr ysgol dai"

Heddiw (5 Mawrth) bu Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn canmol cynllun gwarantu morgeisi Llywodraeth y DU wrth i ffigurau newydd ddangos ei fod wedi helpu cannoedd o bobl ledled Cymru i brynu t欧.
Ers sefydlu鈥檙 cynllun yn 2013, mae 1,530 o brynwyr am y tro cyntaf yng Nghymru wedi llwyddo i brynu eu t欧 eu hunain.
Dywedodd Mr Crabb bod rhaid i Lywodraeth Cymru ymestyn ei fersiwn o鈥檙 cynllun benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu hyd at 2020 鈥� fel mae Llywodraeth y DU wedi鈥檌 wneud 鈥� i roi sicrwydd i brynwyr tai a鈥檙 diwydiant adeiladu tai yng Nghymru.
Dywedodd Stephen Crabb:
Ers gormod o amser, mae gormod o bobl wedi cael trafferth yn gwireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar d欧 鈥� ond mae ffigurau heddiw鈥檔 dangos bod hyn yn newid.
Mae cannoedd o bobl ledled Cymru wedi defnyddio ein cynllun gwarantu morgeisi i ddringo ar ris cyntaf yr ysgol dai.
Yn Lloegr, rydyn ni wedi ymestyn y cynllun benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu tan 2020. Rydw i鈥檔 gwybod bod adeiladwyr tai鈥檔 poeni nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr un ymrwymiad gyda鈥檜 cynllun eu hunain.
Mae鈥檔 rhaid i Gymru elwa o fanteision economaidd diwydiant adeiladu tai sy鈥檔 ffynnu. Rydw i鈥檔 gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru鈥檔 symud yn gyflym i roi sicrwydd i brynwyr tai ac i鈥檙 farchnad dai, fel nad yw Cymru鈥檔 cael ei gadael ar 么l.