Datganiad i'r wasg

Cyllid Llywodraeth y DU i arbed tafarndai ar gyfer cymunedau

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cyhoeddi 拢1.44m ar gyfer chwe phrosiect ledled Cymru fel rhan o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
  • Bydd tafarndai yng Nghymru yn cael cyfanswm o 拢694,250 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar agor ac yn gwasanaethu anghenion pobl leol.
  • Bydd yr arian yn galluogi pobl leol i adfer y tafarndai er mwyn iddynt fod o fudd i鈥檞 cymunedau.
  • Daw鈥檙 cyllid ar 么l i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyhoeddi鈥檙 dyraniadau diweddaraf o ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol sy鈥檔 werth 拢150 miliwn.

Bydd tafarndai yng Nghymru yn cael cyfanswm o 拢694,250 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar agor ac yn gwasanaethu anghenion pobl leol.

Bydd y Cross Inn a Thafarn y Crymych Arms yn Sir Benfro yn cael 拢244,250 a 拢210,000 yn y drefn honno, ac mae鈥檙 ddwy dafarn ymhlith chwe phrosiect ledled Cymru i gael cyllid gan Lywodraeth y DU.

Bydd yr arian yn galluogi pobl leol i adfer y tafarndai er mwyn iddynt fod o fudd i鈥檙 gymuned ac i ddenu ymwelwyr.

Daw鈥檙 cyllid ar 么l i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyhoeddi heddiw (30 Mehefin 2023) y dyraniadau diweddaraf o ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol sy鈥檔 werth 拢150 miliwn.

Mae鈥檙 cyhoeddiad diweddaraf yn datgan bod 拢1.44m wedi鈥檌 gyfrannu at chwe phrosiect yng Nghymru, ac mae cyfanswm y buddsoddiadau ers sefydlu鈥檙 Gronfa wedi cyrraedd 拢3.2m yng Nghymru hyd yma.

Bydd y cyllid yn helpu grwpiau cymunedol i gymryd perchnogaeth dros adeiladau lleol sydd wedi dirywio neu sydd mewn perygl o gau ac sy鈥檔 rhoi bywyd newydd iddynt. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod yr adeiladau hyn yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn creu cyfleoedd ac yn rhoi hwb i econom茂au lleol.

Erbyn hyn, mae newidiadau diweddar i鈥檙 gronfa yn golygu bod swm y cyllid y gall pob prosiect wneud cais amdano wedi cynyddu o 拢250,000 i 拢1 miliwn. Mae hyn yn ei gwneud yn haws nag erioed i grwpiau cymunedol adennill rheolaeth dros asedau lleol gwerthfawr sydd mewn perygl o gael eu colli am byth.

Dywedodd Dehenna Davison, Gweinidog Llywodraeth y DU ar gyfer Ffyniant Bro:

Rydyn ni鈥檔 falch o gefnogi pobl i reoli asedau cymunedol fel tafarndai yng Nghymru.

Mae llefydd fel hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn eu cymunedau, ac rydyn ni eisiau i bobl leol elwa arnyn nhw am gyn hired 芒 phosib.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy鈥檔 falch iawn o weld prosiectau cymunedol yng Nghymru yn denu tua 11% o鈥檙 cyfanswm sydd ar gael gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn y rownd hon o鈥檙 cyllid.

Mae hynny鈥檔 golygu bod asedau mwy gwerthfawr yng Nghymru yn cael eu hachub ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol. Tafarndai yw anadl einioes pentrefi mewn sawl ardal wledig, ac maent yn creu swyddi ac yn hybu鈥檙 economi leol. Maent hefyd yn rhoi lle i bobl leol gael cymdeithasu a dod at ei gilydd. Llongyfarchiadau i鈥檙 holl brosiectau llwyddiannus.

Dyma鈥檙 prosiectau llwyddiannus eraill yng Nghymru:

  • 拢250,000 i adnewyddu canolfan cadernid cymunedol Tabernacl Treforys yn Nhreforys, Abertawe ac i ddiogelu ased treftadaeth eiconig ar gyfer y dyfodol.
  • 拢200,000 i adfer Neuadd Les Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf, sef y lleoliad a gafodd ei ddefnyddio i enwi carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
  • 拢300,000 i Bartneriaeth Fern i ddatblygu cyfleuster i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf.
  • 拢240,000 i Westy鈥檙 Radnor Arms, ym Mhowys, i droi鈥檙 adeilad yn dafarn gymunedol.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Gorffennaf 2023 show all updates
  1. Welsh version added.

  2. First published.