Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru yn Sioe Frenhinol Cymru
Sefydliadau o Gymru a Whitehall i ddod ynghyd ar stondin C221 yn ystod digwyddiad dathlu canmlwyddiant

Bydd pobl a chwmn茂au sy鈥檔 byw, yn gweithio ac yn gwneud busnes yng Nghymru yn cael cyfle i glywed mwy am yr holl fanteision a gwasanaethau sydd ar gael iddynt drwy gynlluniau Llywodraeth y DU, wrth i adrannau gynnal eu harddangosfa fwyaf erioed yng nghanfed Sioe Frenhinol Cymru.
Yn seiliedig ar y thema 鈥楥yflawni dros Gymru鈥�, bydd adrannau o Lywodraeth y DU yn cynnwys Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion gwledig (DEFRA), yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), DVLA, yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dod ynghyd ar rodfa C, stondin 221 i gynnig cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau rhyngweithiol a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bobl yn y gwaith a gartref.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ledled y DU ac ym mhob cwr o鈥檙 byd, mae cynrychiolwyr o adrannau o Lywodraeth y DU yn gweithio鈥檔 ddiflino i ddarparu pob math o gefnogaeth i鈥檔 dinasyddion a chymorth mewn gwledydd lle mae ei angen yn ddirfawr.
Yn ystod blwyddyn arbennig i Sioe Frenhinol Cymru, mae鈥檔 bleser gweld cynifer o adrannau鈥檔 cael eu cynrychioli i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 cyfleoedd sydd ar gael i deuluoedd, busnesau a phobl sy鈥檔 gweithio ym mhob rhan o Gymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove:
Mae鈥檔 bleser gennyf fod yma yn ystod y 100fed Sioe Frenhinol Cymru, un o鈥檙 digwyddiadau amaethyddol mwyaf a gorau y flwyddyn, yn y rhan hardd hon o Gymru.
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn arddangosfa gwych ar gyfer ansawdd y da byw, bwyd, diod a chynnyrch ffermio yng Nghymru, a dylai鈥檙 holl arddangoswyr yma fod yn falch o鈥檜 cyflawniadau. Yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld popeth sy鈥檔 cael ei gynnig.
Dyma rai o uchafbwyntiau鈥檙 wythnos:
Dydd Llun
Gweithgarwch y Gweinidogion:
- Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn ymuno ag Ysgrifennydd yr Amgylchedd Michael Gove mewn cyfarfodydd gyda nifer o rhanddeiliaid amaethyddol a ffermio.
Ar stondin Llywodraeth y DU:
- Ar gychwyn y digwyddiad pedwar diwrnod yn Llanfair-ym-Muallt, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), y Weinyddiaeth Amddiffyn a鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn rhoi gwybodaeth am eu gwaith yng Nghymru, yn cynnwys y Cyfrifiad sydd ar droed yn 2021.
Ar y stondin ddydd Mawrth:
- Cyfle i sefyll prawf platiau cofrestru DVLA i gadarnhau eich bod yn ddiogel i fod ar y ffyrdd.
- Dewch i drafodaeth panel 鈥楩ood is GREAT鈥� fore Mawrth wedi鈥檌 chyflwyno gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda chyflenwyr bwyd a diod enwog o Gymru er mwyn cael cymorth i gymryd y camau nesaf ar eich taith allforio.
- Yn y prynhawn, mae鈥檙 Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal sesiwn rhoi cyngor ar fand eang.
Ar y stondin ddydd Mercher:
- Bydd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn arddangos yr offer a ddefnyddir ledled y byd i fynd i鈥檙 afael i鈥檙 heriau yn cynnwys tlodi, clefyd, ansicrwydd a gwrthdaro. Gallwch gymryd rhan yng ngweithgarwch clirio ffrwydron tir Ymddiriedolaeth Halo a siarad 芒 chynrychiolwyr o Sure Chill, y mae eu technoleg rhewi yn achub bywydau dramor.
Ar y stondin ddydd Iau:
- Cyn Wythnos Prydain Fawr Werdd ym mis Tachwedd, ymunwch 芒 chynrychiolwyr o鈥檙 Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ganfod sut gallwch chi a鈥檆h busnes elwa o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.