Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r buddsoddiad mwyaf mewn ynni'r llanw yng Nghymru
Mae'r cyllid yn cadarnhau'r ymrwymiad parhaus i gyrraedd Net Sero erbyn 2050

- Llywodraeth y DU yn cyhoeddi鈥檙 buddsoddiad mwyaf mewn cenhedlaeth mewn ynni鈥檙 llanw, fydd yn gychwyn newydd i ddiwydiant ynni鈥檙 llanw yng Nghymru
- Bydd hyn yn cryfhau diogelwch ynni drwy ychwanegu at ein cyflenwad trydan adnewyddadwy amrywiol ac yn creu swyddi ledled cymunedau arfordirol Cymru
- Mae buddsoddiad heddiw mewn ynni鈥檙 llanw yn brawf pellach o ymroddiad y DU i greu sector ynni adnewyddadwy cadarn i leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil anwadal
Bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi 拢20 miliwn y flwyddyn ledled y DU mewn trydan Llif Llanw fel rhan o鈥檌 chynllun ocsiwn ynni adnewyddadwy blaenllaw, sy鈥檔 dechrau pennod newydd sbon i ddiwydiant ynni llanw Cymru a chreu swyddi ledled rhanbarthau arfordirol Cymru.
Bydd cyhoeddiad heddiw yn datgloi鈥檙 gallu dros greu sector ynni llanw ffyniannus yng Nghymru, gyda鈥檙 hwb ariannol fydd yn cefnogi technolegau morol a allai fod o fantais i Gymru gyfan a gweddill y DU.
Fel rhan o bedwaredd rownd dyraniad Cynllun Contract Gwahaniaeth y disgwylir iddo agor mis nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau y clustnodir 拢20 miliwn y flwyddyn ar gyfer prosiectau llif llanw, fydd yn rhoi cyfle i鈥檙 sector ynni morol yng Nghymru ddatblygu technolegau a lleihau costau mewn dull tebyg i鈥檞 ddiwydiant gwynt ar y m么r mwyaf blaenllaw yn y byd. Daw hyn a chyfanswm y cyllid ar gyfer y rownd dyraniad hwn i 拢285 miliwn y flwyddyn ledled y DU.
Eisoes mae gan Gymru adnoddau llif llanw rhagorol ac mae mewn lle da i chwarae rhan arweiniol mewn ynni morol ar draws y byd. Mae gan brosiect Morlais Menter M么n, a leolir oddi ar arfordir Ynys Gybi y gallu i roi Ynys M么n ar y map o ran ynni llif llanw. Gallai Ynys M么n elwa o gyllid a glustnodwyd ar gyfer y diwydiant llif llanw, ynghyd 芒鈥檙 cyfleoedd cyflogaeth sgiliau uwch y gallai鈥檙 prosiect hwn ddod i鈥檙 rhanbarth.
Dros amser, mae gan dechnolegau morol Cymru y gallu i gyfrannu鈥檔 sylweddol at ymrwymiadau datgarboneiddio鈥檙 DU a bydd yn cefnogi cannoedd o swyddi gwyrdd ledled y wlad, gyda phrosiectau ar y gweill ar hyn yn bryd yng Ngogledd Orllewin yr Alban, Gogledd Cymru ac arfordir De Lloegr.
Gall ynni鈥檙 llanw fod yn ffynhonnell gynhyrchu ddibynadwy iawn, o gofio pa mor rhagweladwy yw llanwau. Bydd cynnwys hyn yng nghymysgedd ynni carbon isel Cymru yn hwyluso priodi鈥檙 cyflenwad gyda鈥檙 galw, gan adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i greu sector ynni adnewyddadwy cadarn ei hun, i leihau鈥檙 ddibyniaeth ar danwyddau ffosil a bod yn agored i brisiau nwy anwadal dros y byd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:
Mae Cymru mewn safle delfrydol i fod yn brif ffynhonnell ynni gl芒n adnewyddadwy at y dyfodol. Mae harneisio grym ein moroedd yn gam hanfodol wrth i ni groesi鈥檙 bont i Sero Newydd erbyn 2050. Mae鈥檔 pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i greu a gwarchod swyddi sgiliau uwch ar yr un pryd.
Gyda diwydiannau p诺er gwynt a haul cadarn yn y DU, y cam naturiol nesaf yw archwilio ein galluoedd ynni鈥檙 llanw. Gyda鈥檙 buddsoddiad hwn, gall Cymru barhau i ddatblygu ei gallu fel arweinydd ym maes technoleg a diwydiant adnewyddadwy a chyfrannu at economi gwyrdd byd-eang y dyfodol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Fusnes ac Ynni Kwasi Kwarteng:
Mae Cymru, gyda鈥檌 1,200km o arfordir ac adnodd llanw rhagorol, mewn safle perffaith i fanteisio ar ynni morol, gl芒n, ac adeiladu ar ein sector gwynt ar y m么r sy鈥檔 mynd o nerth i nerth 鈥� bellach mae鈥檔 stori lwyddiannus o ran diwydiant Prydain.
Ein gobaith yw gweld ynni morol yn dilyn 么l-troed llwyddiannus technolegau adnewyddadwy eraill, lle rydym wedi gweld costau yn disgyn yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, diolch i gefnogaeth Llywodraeth y DU.
Mae鈥檙 buddsoddiad heddiw yn hwb pwysig i sicrhau y daw ynni llanw yn ffynhonnell bwysig ar gyfer y genhedlaeth nesaf o brosiectau trydan adnewyddadwy sydd eu hangen i gryfhau diogelwch ynni, wrth i ni weithio tuag at leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil anwadal.
Bydd manylion llawn pob cyhoeddiad Cytundeb dros Wahaniaeth yn cael eu rhyddhau ddydd Iau, 25 Tachwedd pan fydd Llywodraeth y DU yn amlinellu ei chynlluniau i lansio鈥檙 rownd dyrannu Cytundebau dros Wahaniaeth mwyaf erioed. Disgwylir i鈥檙 cyllid a glustnodwyd newydd hwn dros lif llanw ddod 芒 chyfanswm cyllideb y pedwerydd dyraniad i 拢285 miliwn y flwyddyn.
Y Cynllun Cytundebau dros Wahaniaeth yw prif ddull y Llywodraeth o annog buddsoddiadau mewn trydan carbon isel. Mae鈥檙 cynllun wedi helpu i sicrhau buddsoddiad newydd, sylweddol a gostyngiad yng nghostau cyfalaf rhai technolegau adnewyddadwy, megis helpu i leihau pris gwynt ar y m么r oddeutu 65%.
Bydd pedwaredd rownd y Cytundebau dros Wahaniaeth yn agor ar 13 Rhagfyr 2021. Bydd Llywodraeth y DU yn lansio鈥檙 broses ocsiwn yma gyda鈥檙 uchelgais o gefnogi hyd at 12GW o allu trydan carbon isel - sy鈥檔 fwy na鈥檙 tair rownd ddiwethaf gyda鈥檌 gilydd.
Mae鈥檙 costau yn parhau i ddisgyn wrth i dechnolegau gwyrdd ddatblygu, gydag ynni鈥檙 haul a gwynt bellach yn rhatach na gorsafoedd p诺er glo a nwy sy鈥檔 bodoli eisoes, yn y rhan fwyaf o鈥檙 byd. Mae鈥檙 diolch am hyn i arwyddion clir y llywodraeth a buddsoddiad a wnaed ymlaen llaw ac yn ystod cynhadledd COP26 ar y newid yn yr hinsawdd, ynghyd 芒 chefnogaeth a dargedwyd sy鈥檔 rhoi hwb i fuddsoddiadau yn y sector preifat, yn creu swyddi o safon uchel ac yn adeiladu diwydiannau a thechnolegau wrth i鈥檙 DU adfer yn fwy gwyrdd yn sgil y pandemig.
Mae hanes wedi dangos pa mor effeithiol yw鈥檙 cynllun wrth gadw costau i lawr - gostyngodd pris fesul uned gwynt (MWh) ar y m么r oddeutu 65% rhwng rownd y dyraniad cyntaf yn 2015 a鈥檙 rownd ddiweddaraf yn 2019.
Dywedodd y Gweinidog dros Ynni Greg Hands:
Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i fod ar flaen y gad o ran yr egin diwydiant pwysig hwn, gyda鈥檔 cynllun ocsiwn ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan hanfodol yn nod y DU o fod yn arweinydd byd-eang ym maes cynhyrchu trydan gl芒n a helpu i ostwng prisiau i ddefnyddwyr.
Mae cefnogaeth bwrpasol heddiw i ynni llif llanw yn agor pennod newydd ar gyfer cymunedau arfordirol Cymru ac yn ymestyn y posibiliadau y gall y sector ynni morol yng Nghymru chwarae rhan allweddol yn gwireddu chwyldro diwydiannol gwyrdd y DU鈥�.