Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cronfa 拢23.5m i ariannu cynnydd mewn cyflogau athrawon yng Nghymru

Ysgrifennydd Cymru: Mae鈥檙 cyllid o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyflogau athrawon

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Teacher marking

Teachers' pay

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw (13 Medi) y bydd Llywodraeth Cymru鈥檔 derbyn cyllid ychwanegol o 拢23.5m o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Addysg i gynyddu cyflogau athrawon yng Nghymru a Lloegr.

Cadarnhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns heddiw y bydd Llywodraeth Cymru鈥檔 derbyn 拢8.7m yn 2018/19 a 拢14.8m yn 2019/20, sef cost y dyfarniad cyflog i athrawon yng Nghymru.

Mae hyn i gydnabod amgylchiadau unigryw datganoli ar gyfer cyflogau athrawon yng Nghymru, lle y mae pennu鈥檙 cyflog yn fater a gadwyd yn 么l a chwrdd 芒 chost y dyfarniad wedi ei ddatganoli.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy鈥檔 hynod o falch fy mod yn gallu cadarnhau heddiw y bydd athrawon yng Nghymru yn gweld cynnydd yn eu cyflogau鈥檔 fuan, gyda鈥檙 cyllid ychwanegol yr ydym yn ei roi i Lywodraeth Cymru.

Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wneud defnydd teg o鈥檙 rheolau sy鈥檔 sail i gyllid Llywodraeth Cymru. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd hyn yn mynd beth o鈥檙 ffordd tuag at ddarparu鈥檙 ysgogiadau ychwanegol i Lywodraeth Cymru allu denu a chadw鈥檙 athrawon sydd eu hangen ar Gymru i addysgu ei phobl ifanc.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros bennu cyflogau athrawon yng Nghymru o fis Hydref 2018 pan fydd ganddynt y p诺er i benderfynu ar gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru yn y dyfodol, o flwyddyn academaidd 2019/20 ymlaen.

Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw鈥檔 dilyn y fargen gyflog gwerth biliynau o bunnoedd i staff y GIG gan Lywodraeth y DU ym mis Mawrth, y disgwylir iddi ddarparu dros 拢1.3 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru erbyn 2022/23.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Medi 2018