Stori newyddion

Gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiwn holi ac ateb rhithiol gydag arweinwyr busnes yng Nghymru

Mae Gweinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn tanlinellu ymrwymiad ar y cyd i gefnogi busnesau drwy'r pandemig COVID-19 parhaus

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Top left: Heather Myers. Top right: Welsh Government Deputy Minister Lee Waters AM. Bottom left: UK Government Minister Nadhim Zahawi. Bottom right: UK Government Minister for Wales David TC Davies.

Top left: Heather Myers (Chair of Q&A & CEO of South and Mid Wales Chambers of Commerce). Top right: Welsh Government Deputy Minister for the Economy and Transport Lee Waters AM. Bottom left: UK Government Minister for Business and Industry Nadhim Zahawi. Bottom right: UK Government Minister for Wales David TC Davies.

Mae Gweinidog Cymru Llywodraeth y DU David TC Davies, y Gweinidog Busnes a Diwydiant Nadhim Zahawi, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru Lee Waters, wedi cynnal rhith gyfarfod bwrdd crwn gyda chynrychiolwyr o fyd busnes o bob cwr o Gymru i drafod heriau parhaus COVID-19.

Roedd y gweinidogion yn tanlinellu ymrwymiad y naill lywodraeth a鈥檙 llall i wneud beth bynnag sydd ei angen i gefnogi busnesau drwy her unigryw a pharhaus pandemig y coronafeirws a pharhau i gydweithio ar ymateb y cyd.

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, a oedd yn cynnwys nifer o unigolion blaenllaw o gorfforaethau rhyngwladol mawr, cwmn茂au cyfreithiol blaenllaw a rhai o fusnesau bach-meicro Cymru, dywedodd y Gweinidog Davies ei fod yn cydnabod pryderon arweinwyr busnes a鈥檜 gweithwyr ac fe dynnodd sylw at y pecyn cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi鈥檌 ddarparu, gan gynnwys 拢330 biliwn o fenthyciadau wedi鈥檜 gwarantu gan Lywodraeth y DU a鈥檙 Cynllun Cadw Swyddi a gafodd ei lansio wythnos yma.

Amlinellodd y Gweinidog Davies a鈥檙 Gweinidog Zahawi yr ymrwymiad parhaus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 coronafeirws yng Nghymru, gan nodi bod dros 拢2 biliwn o gyllid nawr wedi cael ei roi i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU i ddelio 芒鈥檙 argyfwng hwn.

Roedd Dirprwy Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru Lee Waters hefyd yn tynnu sylw at y cymorth mae鈥檙 weinyddiaeth ddatganoledig wedi鈥檌 ddarparu gan gynnwys rhyddhad ardrethi busnes a grantiau i fusnesau bach. Roedd cynrychiolwyr o fusnesau ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys dur, addysg uwch a鈥檙 diwydiant adeiladu, wedi rhoi adborth pwysig ynghylch sut mae鈥檙 pandemig yn effeithio ar eu busnesau ac ar eu gweithwyr.

Cafwyd trafodaethau hefyd ynghylch sut bydd y ddwy lywodraeth a busnesau yn cydweithio ar yr adferiad ar 么l y pandemig a sicrhau cryfder economi Cymru i鈥檙 dyfodol.

Dywedodd Gweinidog Cymru Llywodraeth y DU David TC Davies:

Rydyn ni鈥檔 hynod ddiolchgar am yr adborth onest sydd wedi cael ei roi gan fusnesau yng Nghymru. Mae鈥檔 caniat谩u i ni ddatblygu pecynnau cymorth sy鈥檔 gwneud byd o wahaniaeth i gwmn茂au a鈥檜 gweithwyr, gan ddiogelu swyddi a鈥檙 economi.

Byddaf yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru, gan wneud beth bynnag sydd ei angen er mwyn i ni allu mynd drwy鈥檙 cyfnod unigryw ac anodd hwn.

Dywedodd Gweinidog Busnes a Diwydiant Llywodraeth y DU, Nadim Zahawi:

Mae hi鈥檔 hanfodol ein bod ni鈥檔 clywed gan fusnesau sy鈥檔 wynebu pwysau鈥檙 argyfwng coronafeirws, ac rydyn ni鈥檔 gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu鈥檙 cymorth hollbwysig sydd ei angen ar fusnesau Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiogelu swyddi a pharatoi鈥檙 ffordd ar gyfer adferiad economaidd yng Nghymru, ac ar draws gweddill y DU, wrth i ni wynebu鈥檙 pandemig byd-eang hwn.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Ebrill 2020