Datganiad i'r wasg

Y DU yn buddsoddi mwy na 拢1bn ar amddiffyn yng Nghymru

Ystadegau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer 2018-19 yn dangos mwy na 7,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan wariant amddiffyn y DU

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Ajax vehicle driving towards the camera.

Mae gwariant y DU ar amddiffyn yng Nghymru wedi cyrraedd mwy na 拢1 biliwn am y tro cyntaf (2018-19) ac yn cefnogi mwy na 7,000 o swyddi.

Mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi ffigyrau heddiw (30 Ionawr) yn dangos bod gwariant caffael yr adran yng Nghymru wedi cynyddu o 拢960m yn 2017-18 i 拢1bn y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd o 拢310 i 拢350 y pen mewn gwariant.

Mae鈥檙 prosiectau amddiffyn mawr yng Nghymru yn cynnwys cynhyrchu鈥檙 genhedlaeth nesaf o gerbydau arfog AJAX y Fyddin yn General Dynamics ym Merthyr Tudful ac Oakdale, datblygu Canolfan Llynges Frenhinol newydd gwerth 11m ym Mae Caerdydd a chytundeb gwerth 拢250m gyda Raytheon ym Mrychdin i ddarparu gwasanaeth cefnogaeth i鈥檙 Llu Awyr Brenhinol o awyrennau gwyliadwriaeth.

Amcangyfrif fod tua 7,700 o swyddi mewn amddiffyn yng Nghymru bellach yn cael eu cefnogi gan wariant amddiffyn Llywodraeth y DU, cynnydd o 6,300 yn 2017-18.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Gwariodd y DU mwy na 拢1bn ar amddiffyn gyda diwydiant Cymru鈥檙 flwyddyn diwethaf gan gefnogi miloedd o swyddi yn y sector breifat.

Mae鈥檙 buddsoddiad yma mewn busnes megis General Dynamics, Raytheon ac eraill yn gwneud Cymru鈥檔 ganolbwynt gwirioneddol i鈥檙 diwydiant amddiffyn ac un o鈥檙 lleoliadau mwyaf cystadleuol yn y byd i arloesi a darparu diogelwch.

Ymhlith y canolfannau milwrol yng Nghymru, mae cartref pencadlys Brig芒d 160 Cymru yn Aberhonddu tra bod uned lai wedi ei leoli yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan a fydd yn dod yn brif ganolfan y Fyddin yng Nghymru yn ogystal 芒 chanolfan fawr y Llu Awyr Brenhinol.

Yn 2017, adferwyd rhedfa鈥檙 Llu Awyr Brenhinol yn Fali, Ynys M么n fel rhan o waith adnewyddu gwerth 拢20m gan ymestyn ei fywyd gweithredol am 25 mlynedd arall. Mae holl beilotiaid ymladd y DU yn pasio drwy Fali cyn cyrraedd eu sgwadron ar y llinell blaen.

Mae鈥檙 ardal o amgylch Aberhonddu a Phontsenni yn gartref i gyfleusterau hyfforddi mawr y Fyddin a bob blwyddyn mae Ymarferiad y Cambrian Patr么l yn cael eu cynnal lle mae unedau milwrol o bob cwr o鈥檙 byd yn teithio i Gymru i brofi eu hunain ar y cwrs deuddydd heriol.

Yn 么l yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace:

Mae amddiffyn yn parhau i ddarparu diogelwch a ffyniant wrth i weld biliynau yn cael eu buddsoddi ar draws y DU gan gefnogi cannoedd o filoedd o swyddi dilynol.

Mae buddsoddiadau amddiffyn eraill diweddar Llywodraeth y DU yng Nghymru yn cynnwys dyfarnu cytundeb gwerth 拢82m i Qioptig sydd wedi鈥檌 lleoli yn Llanelwy i gynnal a chadw offer gwyliadwriaeth ac offer targedu dros y bum mlynedd nesaf.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Ionawr 2020