Datganiad i'r wasg

"Seibr-ddiogelwch y Deyrnas Unedig yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig"

Stephen Crabb yn ymweld ag Airbus Defence and Space

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Mae amddiffynfeydd seibr cryf yn gwbl angenrheidiol ar gyfer diogelwch hirdymor Prydain, meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw cyn ymweliad 芒 Gr诺p Airbus yng Nghasnewydd (19 Tachwedd).

Bydd yr ymweliad yn amlygu prosiectau Gr诺p Airbus sy鈥檔 darparu Atebion Cyfathrebu Hynod Ddiogel i Weinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig, a鈥檜 portffolio Seibr Ddiogelwch sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig raglen gynhwysfawr a fydd yn darparu鈥檙 genhedlaeth nesaf o seibr-ddiogelwch i Brydain. Mewn araith yng nghartref cudd-wybodaeth Prydain, GCHQ, addawodd y Canghellor gynyddu gwariant ar seibr-ddiogelwch i 拢1.9 biliwn erbyn 2020, recriwtio 1,900 o staff newydd ar draws y tair asiantaeth cudd-wybodaeth a sefydlu鈥檙 Seibr Ganolfan Genedlaethol gyntaf, a fydd yn gartref i 鈥榣u seibr鈥� pwrpasol cyntaf y wlad.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Daw ymweliad heddiw yn sgil yr ymosodiad terfysgol gwaethaf yn Ewrop ers degawd. Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg yw os ydym am gadw ein pobl yn ddiogel yn y byd modern, mae鈥檔 golygu mynd i鈥檙 afael ag achosion y bygythiadau sy鈥檔 ein hwynebu - nid dim ond delio 芒鈥檜 canlyniadau.

Dyna pam mae鈥檙 Llywodraeth hon yn dyblu buddsoddiad mewn materion seibr a chreu Canolfan Seibr Genedlaethol i helpu i鈥檔 cadw ni鈥檔 ddiogel.

Mae angen ymdrech enfawr ar y cyd i ddiogelu ein gwlad rhag seibr-ymosodiadau. Mae Airbus Defence and Space yn bartner allweddol yn yr ymdrech honno.

Wrth i ni drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus i fod y gwasanaethau digidol gorau yn y byd, rydym eisiau sicrhau bod Prydain yn darged anodd yn y seibrofod. Mae鈥檙 gwaith pwysig mae Gr诺p Airbus yn ei wneud i ddiogelu seilwaith cenedlaethol critigol a gweithio yn erbyn y bygythiad o seibr-ymosodiad yn hanfodol yn yr ymdrech hon. Rwy鈥檔 ddiolchgar iddyn nhw am y cyfle i weld hyn ar waith heddiw.

Mae Campws Casnewydd Gr诺p Airbus yn gartref i berson茅l peirianneg ac ymchwil medrus iawn sy鈥檔 gweithio ar draws pedwar busnes Gr诺p Airbus; Airbus Defence and Space, Airbus Group Innovations, Airbus Group Endeavr Wales a Testia Ltd, sydd heddiw wedi cyhoeddi contract gwasanaeth newydd gyda chwmni lleol Cardiff Aviation ar gyfer profion nad ydyn nhw鈥檔 ddinistriol ar awyrennau gweithredol.

Ychwanegodd Mr Crabb:

Mae鈥檙 sector awyrofod yn cyfrannu鈥檔 sylweddol at ein heconom茂au lleol, gan gynnal a chefnogi miloedd o swyddi i weithwyr yng Nghymru. Mae gweld cwmni byd-eang fel Gr诺p Airbus yn recriwtio busnesau bach lleol i鈥檞 gadwyn gyflenwi yn galonogol iawn, ac yn dangos cyfoeth a natur arloesol galluoedd awyrofod Cymru.

Yn ystod ei ymweliad, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn croesawu ymweliad adran Arloesi Gr诺p Airbus, sy鈥檔 cynnal ymchwil lefel uwch ym meysydd technegol Seibr-ddiogelwch, Rheoli P诺er, Ymasiad Data a Mellt ac Electrostateg drwy gydweithio gyda鈥檙 byd academaidd a鈥檙 diwydiant ehangach yng Nghymru.

Dywedodd Simon Bradley, Is-lywydd - Pennaeth Cyfarwyddiaeth Rhaglen Arloesi, Cynnyrch a Seibr-ddiogelwch Swyddfa Dechnegol Gorfforaethol Gr诺p Airbus:

Mae Gr诺p Airbus yn gwerthfawrogi ein partneriaeth barhaus gyda Llywodraethau鈥檙 Deyrnas Unedig a Chymru, felly rydym yn falch iawn fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod Airbus fel cwmni sy鈥檔 gyrru twf economaidd yng Nghymru. Mae pwysigrwydd Seibr-ddiogelwch yn cynyddu鈥檔 barhaus, ac mae鈥檙 ymchwil a鈥檙 gwaith gyda鈥檙 gorau yn y byd sy鈥檔 cael ei wneud yma yng Nghasnewydd ar flaen y gad yn y byd technolegol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2015