Datganiad i'r wasg

Mae’r DU yn ymgynghori ar gynigion i roi eglurder i’r diwydiannau creadigol a datblygwyr DA (AI) ynghylch cyfreithiau hawlfraint

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar sut y gall y llywodraeth sicrhau bod fframwaith cyfreithiol y DU ar gyfer DA a hawlfraint yn cefnogi diwydiannau creadigol y DU a’r sector DA gyda’i gilydd.

  • mae cynigion newydd yn ceisio dod â sicrwydd cyfreithiol i’r sectorau creadigol a ddeallusrwydd artiffisial ynghylch sut y defnyddir deunyddiau a ddiogelir gan hawlfraint mewn hyfforddiant model, cefnogi arloesedd a hybu twf yn y ddau sector sy’n hanfodol i’n Cynllun ar gyfer Newid
  • nod pecyn cytbwys o gynigion yw rhoi mwy o reolaeth i grewyr dros sut mae datblygwyr DA yn defnyddio eu deunydd, a gwella eu gallu i gael eu talu am ei ddefnyddio
  • bydd y cynigion hefyd yn ceisio mwy o dryloywder gan gwmnïau DA ynghylch y data a ddefnyddir i hyfforddi modelau DA ochr yn ochr â sut y caiff cynnwys a gynhyrchir gan DA ei labelu
  • bydd gan ddatblygwyr DA fynediad eang at ddeunydd i hyfforddi modelau sy’n arwain y byd yn y DU, a byddai sicrwydd cyfreithiol yn hybu mabwysiadu DA ar draws yr economi

Mae’r DU heddiw wedi lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i roi sicrwydd i’r diwydiannau creadigol a datblygwyr DA ar sut y gellir defnyddio hawlfraint i hyfforddi modelau DA. Gan gefnogi Cynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU, bydd y symudiad yn helpu i ysgogi twf ar draws y ddau sector drwy sicrhau amddiffyniad a thaliad i ddeiliaid hawliau a chefnogi datblygwyr DA i arloesi’n gyfrifol.

Mae’r ddau sector yn ganolog i Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth, a nod y cynigion hyn yw creu llwybr newydd ymlaen a fydd yn caniatáu i’r ddau ffynnu ac ysgogi twf. Mae meysydd allweddol yr ymgynghoriad yn cynnwys hybu ymddiriedaeth a thryloywder rhwng y sectorau, fel bod gan ddeiliaid hawl ddealltwriaeth well o sut mae datblygwyr DA yn defnyddio eu deunydd a sut y cafwyd hyd iddo.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn archwilio sut y gall crewyr drwyddedu a chael eu talu am ddefnyddio eu deunydd, a sut y gellir cryfhau mynediad eang at ddata o ansawdd uchel ar gyfer datblygwr DA er mwyn galluogi arloesi ar draws y sector DA yn y DU.

Bydd y cynigion hyn yn helpu datgloi potensial llawn y sector DA a’r diwydiannau creadigol i ysgogi arloesedd, buddsoddiad a ffyniant ledled y wlad, gan yrru cenhadaeth llywodraeth y DU ymlaen i sicrhau’r twf cynaliadwy uchaf yn yr G7 o dan ei Chynllun ar gyfer Newid.

Ar hyn o bryd mae ansicrwydd ynghylch sut mae cyfraith hawlfraint yn berthnasol i DA yn atal y ddau sector rhag cyrraedd eu llawn botensial. Gall ei gwneud hi’n anodd i grewyr reoli neu geisio taliad am ddefnyddio ei gwaith, ac mae’n creu risgiau cyfreithiol i gwmnïau DA, gan rwystro buddsoddiad DA, arloesi a mabwysiadu. Ar ôl i ymdrechion blaenorol i gytuno ar god ymarfer hawlfraint DA gwirfoddol fod yn aflwyddiannus, mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o gymryd camau rhagweithiol gyda’n sectorau creadigol a DA i ddarparu datrysiad ymarferol.

I fynd i’r afael â hyn, mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyflwyno eithriad i gyfraith hawlfraint ar gyfer hyfforddiant DA at ddibenion masnachol tra’n caniatáu i ddeiliaid hawliau gadw eu hawliau, fel  y gallant reoli’r defnydd o’r cynnwys. Ynghyd â gofynion tryloywder, byddai hyn yn rhoi mwy o sicrwydd a rheolaeth iddynt dros sut y defnyddir eu cynnwys ac yn eu cefnogi i daro bargeinion trwyddedu. Byddai hyn hefyd yn rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr DA ynghylch pa ddeunydd y gallant ac na allant ei ddefnyddio a sicrhau mynediad eang i ddeunydd yn y DU.

Cyn y gallai’r mesurau hyn ddod i rym, byddai angen rhagor o waith gyda’r ddau  sector i sicrhau bod unrhyw safonau a gofynion ar gyfer cadw hawliau a thryloywder yn effeithiol, yn hygyrch ac yn cael eu mabwysiadu’n eang. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer defnydd llyfn gan ddatblygwyr DA a deiliaid hawliau fel ei gilydd, gan sicrhau y gall deiliaid hawliau o bob maint gadw eu hawliau a bod unrhyw gyfundrefn yn y dyfodol yn cyflawni ein hamcanion. Byddai’r mesurau hyn yn sylfaenol i effeithiolrwydd unrhyw eithriad, ac ni fyddem yn cyflwyno eithriad hebddynt.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig gofynion newydd ar gyfer datblygwyr model DA i fod yn fwy tryloyw am eu setiau data hyfforddi enghreifftiol a sut y cânt afael arnynt. Er enghraifft, gallai fod yn ofynnol i ddatblygwyr DA ddarparu rhagor o wybodaeth am ba gynnwys y maent wedi ei ddefnyddio i hyfforddi eu modelau. Byddai hyn yn galluogi deiliaid hawliau i ddeall pryd a sut y defnyddiwyd eu cynnwys wrth hyfforddi DA.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth a Thechnoleg, Peter Kyle:  �

Mae gan y DU sector diwylliannol hyn gyfoethog ac amrywiol a sector technoleg arloesol sy’n gwthio ffiniau DA. Mae’n amlwg nad yw ein fframwaith DA a hawlfraint presennol yn cefnogi ein diwydiannau creadigol na’n sectorau DA i gystadlu ar y llwyfan byd-eang.

Dyna pam yr ydym yn gosod pecyn cytbwys o gynigion i fynd i’r afael ag ansicrwydd ynghylch sut mae cyfraith hawlfraint yn berthnasol i DdA fel y gallwn ysgogi twf parhaus yn y sector DA a’r diwydiannau creadigol, a fydd yn helpu i gyflawni ein cenhadaeth o’r twf parhaus uchaf yn yr G7 fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid.

Mae hyn i gyd yn ymwneud â phartneriaeth: cydbwyso amddiffyniadau cryf i grewyr tra’n cael gwared ar rwystrau i arloesi mewn DA; a chydweithio ar draws sectorau’r llywodraeth a diwydiant i gyflawni hyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Lisa Nandy:� �

Mae’r llywodraeth hon yn credu’n gryf y dylai fod gan ein cerddorion, awduron, artistiaid a phobl greadigol eraill y gallu i wybod a rheoli sut y defnyddir eu cynnwys gan gwmnïau DA a gallu ceisio bargeinion trwyddedu a thaliad teg. Bydd cyflawni hyn, a sicrhau sicrwydd cyfreithiol, yn helpu ein sectorau creadigol a DA i dyfu ac arloesi gyda’n gilydd mewn partneriaeth.

Rydym yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’n diwydiannau creadigol a chyfryngol o safon fyd-eang sy’n ychwanegu cymaint at ein bywyd diwylliannol ac economaidd. Byddwn yn gweithio gyda nhw a’r sector DA i ddatblygu’r system hawlfraint gliriach hon ar gyfer yr oes ddigidol a sicrhau bod unrhyw system yn ymarferol ac yn hawdd i’w defnyddio ar gyfer busnesau o bob maint.

Mae trwyddedu yn hanfodol fel modd i grewyr sicrhau taliad priodol am eu gwaith, ac mae’r cynigion hyn yn gosod y sylfaen i ddeiliaid hawliau daro bargeinion trwyddedu gyda datblygwyr DA pan fydd hawliau wedi eu cadw. Er enghraifft, gallai ffotograffydd sy’n lanlwytho ei waith i’w flog rhyngrwyd gadw ei hawliau, gyda hyder y bydd ei ddymuniadau’n cael eu parchu ac na fydd  datblygwyr DA yn defnyddio eu delweddau oni bai bod trwydded wedi’i chytuno. Byddai hyn yn cefnogi rheolaeth y diwydiannau creadigol a chyfryngol, a’u gallu i gynhyrchu refeniw o’r defnydd o’u deunydd a rhoi sicrwydd I ddatblygwyr DA am y deunydd y gallant ei gynhyrchu’n gyfreithiol.

Mae’r dull cyfunol hwn wedi’i gynllunio i gryfhau ymddiriedaeth rhwng y ddau sector, sy’n gynyddol gysylltiedig â’i gilydd, gan glirio’r ffordd i ddatblygwyr adeiladu a defnyddio’r genhedlaeth nesaf o gymwysiadau DA yn y DU yn hyderus, mewn ffordd sy’n sicrhau bod gan grewyr dynol a deiliaid hawliau ran gyffredin ym mhotensial trawsnewidiol DA.

Mae’r llywodraeth yn croesawu bargeinion trwyddedu y cytunwyd arnynt eisoes, gan gynnwys gan gwmnïau mawr yn y sectorau cerddoriaeth a chyhoeddi newyddion. Ond mae’n amlwg nad yw llawer mwy o bobl greadigol a deiliaid hawliau wedi gallu gwneud hynny o dan y drefn hawlfraint bresennol. Mae angen mwy o help ar y diwydiannau creadigol, a busnesau o bob maint, i reoli eu cynnwys a sicrhau cytundebau trwyddedu. Mae’r llywodraeth yn benderfynol o’i gwneud yn haws iddynt wneud hyn.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cydnabod materion sy’n ymwneud ag amddiffyn hawliau personoliaeth yng nghyd-destun atgynyrchiadau digidol, megis efelychiadau dwfn o unigolion, a bydd yn ceisio barn ynghylch a yw’r fframweithiau cyfreithiol presennol yn ddigon cadarn i fynd i’r afael â’r mater.   

Wrth i DA barhau i ddatblygu’n gyflym, rhaid i ymateb y DU esblygu ochr yn ochr ag ef. Mae’r llywodraeth yn croesawu barn yr holl randdeiliaid ar y cynigion hyn ac mae wedi ymrwymo i wneud cynnydd trwy gydweithio â chrewyr, deiliaid hawliau a datblygwyr DA i gyd-ddylunio’r fframwaith hawlfraint a DA cywir ar gyfer y DU, a fydd yn galluogi’r ddau sector i ffynnu.

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd yr  ymgynghoriad yn rhedeg am 10 wythnos, gan gau ar 25 Chwefror,  2025

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Chwefror 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.