Mae llywodraethau'r DU a Chymru yn cydweithio i gael dau Borthladd Rhydd yng Nghymru
Mae llywodraethau'r DU a Chymru yn cadarnhau ar y cyd bod dau Borthladd Rhydd newydd, un yn Ynys M么n ac un ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau.

- Mae llywodraethau鈥檙 DU a Chymru ar y cyd yn cadarnhau fod Porthladd Rhydd Ynys M么n a鈥檙 Porthladd Rhydd Celtaidd wedi llwyddo yn eu ceisiadau i sefydlu Porthladdoedd Rhydd newydd.
- Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak yn cyhoeddi鈥檙 safleoedd llwyddiannus ar ymweliad ar y cyd 芒 Phrif Weinidog Cymru 鈥� gan gyflawni ymrwymiadau i dwf economaidd a ffyniant bro.
- Gyda chefnogaeth o hyd at 拢26 miliwn yr un o gyllid Llywodraeth y DU, bydd y ddau Borthladd Rhydd yn helpu i sicrhau ffyniant bro yng Nghymru ac yn dod 芒 swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus.
- Mae disgwyl i鈥檙 safleoedd newydd ddod 芒 thua 拢5 biliwn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus a chreu tua 20,000 o swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus.
Bydd dau Borthladd Rhydd newydd, un yn Ynys M么n a鈥檙 llall ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, yn helpu i greu swyddi, sbarduno twf a chydbwyso chyfleoedd ledled Cymru, cyhoeddodd llywodraethau鈥檙 DU a Chymru ar y cyd heddiw (dydd Iau y 23ain o Fawrth).
Wedi鈥檌 gefnogi gan hyd at 拢26 miliwn yr un o gyllid Llywodraeth y DU, amcangyfrifir y bydd y safleoedd newydd yn dod 芒 bron i 拢5 biliwn mewn buddsoddiad preifat a chyhoeddus a chreu dros 20,000 o swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus, gan helpu i roi hwb i鈥檙 economi a mynd i鈥檙 afael 芒 bylchau sy鈥檔 dal buddsoddi yn 么l ar hyn o bryd.
Mae Porthladdoedd Rhydd yn ardaloedd arbennig o fewn ffiniau鈥檙 DU lle mae rheoliadau economaidd gwahanol yn weithredol. Ochr yn ochr 芒 phecyn cynhwysfawr o fuddion, bydd y safleoedd yn mwynhau cymhellion treth a thollau i hybu buddsoddiad, gan greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yn rhai o鈥檔 cymunedau mwyaf difreintiedig.
Bydd Prif Weinidog y DU yn cwrdd 芒 Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fel rhan o gydweithio parhaus i gyflawni ar gyfer pobl ledled Cymru.
Meddai鈥檙 Prif Weinidog Rishi Sunak:
Mae Cymru鈥檔 rhan lewyrchus o鈥檙 DU, ac fe fydd y Porthladdoedd Rhydd newydd heddiw yn gweld busnesau a chyfleoedd i bobl Ynys M么n, Port Talbot ac Aberdaugleddau yn mynd o nerth i nerth.
Mae pawb yn haeddu cyfle cyfartal ac mae cydweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau鈥檙 safleoedd newydd gwych hyn.
Mae鈥檙 Porthladdoedd Rhydd heddiw yn dangos y gwaith caled sy鈥檔 cael ei wneud o ddydd i ddydd i ddod 芒 swyddi newydd ar gyfer gweithwyr medrus i gymunedau ledled Cymru a chyflawni fy addewid i ddod 芒 thwf economaidd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
Mae鈥檔 bleser gen i gadarnhau bod y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys M么n wedi鈥檜 dewis fel porthladdoedd rhydd Cymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru amcan clir i weddnewid economi Cymru a chreu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach. Bydd dynodi safleoedd porthladdoedd rhydd Cymru鈥檔 hwb i wireddu鈥檙 amcan hwnnw gan adeiladu ar y buddsoddiadau a鈥檙 partneriaethau pwysig rydym wedi鈥檜 datblygu yn y rhanbarthau hyn dros gyfnod o lawer o flynyddoedd.
Dylai鈥檙 cydweithio rhwng Llywodraethau ar raglen y porthladdoedd rhydd fod yn esiampl ar gyfer gwaith rhynglywodraethol yn y dyfodol mewn amrywiaeth o feysydd.
Meddai鈥檙 Ysgrifennydd dros Ffyniant Bro Michael Gove:
Mae gan Gymru botensial enfawr heb ei gyffwrdd, a dyna pam rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru i gytuno i gael, nid un, ond dau Borthladd Rhydd yng Nghymru.
Mae hyn yn ganlyniad cydweithio rhwng y ddwy lywodraeth i gyflawni dros Gymru, a dyma enghraifft arall eto o Gymru yn elwa o鈥檌 lle mewn Teyrnas Unedig gref.
Rwy鈥檔 gwbl hyderus y bydd y Porthladdoedd Rhydd newydd hyn yn drawsnewidiol i Gymru, gan helpu i hyrwyddo twf economaidd, ffyniant bro a lledaenu cyfleoedd.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies:
Mae creu dau Borthladd Rhydd yng Nghymru yn newyddion gwych ac yn hwb enfawr i Gymru a fydd yn hyrwyddo twf economaidd ac yn creu miloedd o swyddi.
Mae Llywodraeth y DU a鈥檙 Prif Weinidog hwn wedi ymrwymo ers amser maith i ehangu Porthladdoedd Rhydd i Gymru ac rydym wedi mynd ymhellach na chyflawni鈥檙 addewid hwnnw gyda鈥檙 ddau gais llwyddiannus a gadarnhawyd heddiw.
Mae鈥檙 rhaglen Porthladdoedd Rhydd eisoes yn dod 芒 budd i fusnesau ac yn hyrwyddo ffyniant bro mewn rhannau eraill o鈥檙 DU. Edrychaf ymlaen at weld mwy o fuddsoddi a ffyniant yng Nghymru o ganlyniad i鈥檙 cyhoeddiad hwn.
Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:
Hoffwn longyfarch y timau Celtaidd ac Ynys M么n am eu ceisiadau eithriadol i gael statws Porthladd Rhydd. Oherwydd y set rymus o gynigion a gyflwynwyd i ni, dw i鈥檔 cytuno 芒 Llywodraeth y DU y gellir cefnogi ail borthladd rhydd yng Nghymru.
Mae ein porthladdoedd yn rhan annatod o鈥檔 hanes diwydiannol cyfoethog. Nhw fydd yr injan fydd yn gyrru鈥檔 heconomi yn y dyfodol ac mae鈥檙 ceisiadau hyn wedi鈥檜 cynllunio i鈥檔 prysuro ar y daith. O ynni鈥檙 m么r i weithgynhyrchu uwch, byddant yn helpu i greu degau o filoedd o swyddi newydd 鈥� a fydd yn cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol iawn i fod yn sero-net erbyn 2050.
Bydd hyn yn ein helpu i harneisio鈥檔 potensial economaidd anferthol, yma ac yn rhyngwladol gan hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd yma yng Nghymru.
Dw i鈥檔 disgwyl ymlaen at weld ein porthladdoedd rhydd yn dod 芒 manteision economaidd a chymdeithasol ystyrlon i Gymru.
Bydd Porthladd Rhydd Ynys M么n a鈥檙 Porthladd Rhydd Celtaidd yn cefnogi busnesau i greu swyddi newydd o safon, hyrwyddo twf ac adfywio, a gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni uchelgais sero net y DU.
-
Nod Porthladd Rhydd Ynys M么n yw denu gwerth 拢1.4 biliwn o fuddsoddiad yn y sector ynni gwyrdd a chreu o leiaf 3,500 o swyddi, gan gynhyrchu hanner biliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2030. Bydd gan y Porthladd Rhydd ffocws ar dechnoleg ynni morol ac ynni carbon isel a bydd yn cychwyn ar amrywiaeth o raglenni isadeiledd gan gynnwys ailddatblygu porthladd Caergybi ac adfer y rheilffordd a鈥檙 trac.
-
Nod y Porthladd Rhydd Celtaidd yw denu buddsoddiad sylweddol o鈥檙 tu allan gan gynnwys 拢3.5 biliwn yn y diwydiant hydrogen yn ogystal 芒 chreu 16,000 o swyddi, gan gynhyrchu 拢900 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2030. Bydd y Porthladd Rhydd yn canolbwyntio ar dechnoleg carbon isel fel tyrbinau gwynt arnofiol ar y m么r, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon a biodanwydd i gefnogi gostyngiad cyflym mewn allyriadau carbon. Cefnogir hyn drwy ddatblygu safleoedd ar y tir a鈥檙 cei a dod 芒 rheilffordd segur yn 么l yn weithredol, er mwyn darparu isadeiledd i gefnogi datblygiad.
Mae Cynllun Llywodraeth y DU i Gymru yn ymrwymo i gryfhau lle Cymru o fewn Teyrnas Unedig ffyniannus, gan hyrwyddo twf economaidd, ffyniant bro a lledaenu cyfleoedd ledled Cymru.
Agorodd y gwahoddiad i gyflwyno cynigion yn gynharach eleni a chyflwynodd grwpiau eu cynigion am statws Porthladd Rhydd, a ystyriwyd ar y cyd gan lywodraethau鈥檙 DU a Chymru. Fel rhan o鈥檙 broses, roedd yn rhaid i鈥檙 lleoliadau llwyddiannus ddangos i swyddogion a gweinidogion o鈥檙 ddwy lywodraeth sut y byddent yn adfywio cymunedau lleol, sefydlu hybiau ar gyfer masnach fyd-eang a meithrin amgylchedd arloesol i gefnogi ffyniant bro.
Dilynwyd proses ddethol drylwyr ar y cyd a dangosodd yr ymgeiswyr llwyddiannus ill dau gweledigaeth gref i greu swyddi o ansawdd uchel yn y sectorau ynni gwyrdd.
Bydd llywodraethau鈥檙 DU a Chymru yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Porthladdoedd Rhydd i sicrhau eu bod yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf posib a鈥檜 bod yn dod yn weithredol cyn gynted 芒 phosibl.
Mae hyn yn adeiladu ar raglen Borthladdoedd Rhydd lwyddiannus Llywodraeth y DU yn Lloegr, lle mae pob un o鈥檙 wyth Porthladd Rhydd yn agored ar gyfer busnes, a chydweithrediad 芒 Llywodraeth yr Alban i ddarparu dau Borthladd Rhydd Gwyrdd newydd yn Inverness a Cromarty Firth a鈥檙 Firth of Forth. Fel y cyhoeddwyd yn y Gyllideb, nod Llywodraeth y DU hefyd yw sefydlu o leiaf un Parth Buddsoddi yng Nghymru, a fydd yn gweithio law yn llaw 芒鈥檙 rhaglen Porthladdoedd Rhydd i hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a ffyniant bro yng Nghymru a ledled y DU.
Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn gweithio gyda鈥檙 cynigydd aflwyddiannus i ystyried sut y gall adeiladu ar y cynlluniau sydd yn eu ceisiadau i ddarparu swyddi a thwf yn y rhanbarth y tu allan i鈥檙 rhaglen Porthladdoedd Rhydd.
Office address and general enquiries
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Contact form /gui...
General enquiries: please use this number if you are a member of the public 030 3444 0000
Media enquiries
Email [email protected]
Please use this number if you are a journalist wishing to speak to Press Office 0303 444 1209
Social media - DLUHC
Twitter -
Flickr -
LinkedIn -