Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Dyfed yn cydnabod 12 o bobl

Mae ymdrechion 12 o bobl o bob rhan o Ddyfed, gan gynnwys saith cad茅t ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Dyfed Lord-Lieutenant standing with Certificate of Merit recipients and the Lord-Lieutenant Cadets of Dyfed. RFCA for Wales copyright.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan Miss Sara Edwards, yn y seremoni ym Marics Picton, Caerfyrddin, ddydd Iau 20 Chwefror.

Y pump oedd Lefftenant Aled Davies o Gadetiaid M么r Aberdaugleddau; Lefftenant Steven Grant o Gadetiaid M么r Abergwaun; Jane Sanders, Swyddog Gwarant o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; Lisa Bevan, Hyfforddwr Sifil o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol a Richard Fisher, Rhingyll Hedfan, sydd hefyd o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.

Cafodd llwyddiannau saith o gadetiaid yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a鈥檜 dathlu yn ystod y digwyddiad, lle鈥檙 oedd dros 120 o bobl yn bresennol.

Bu Chloe Faulkner, y Prif Gad茅t o Gadetiaid M么r Llanelli; Finley Fells, y Prif Gad茅t o Gadetiaid M么r Abergwaun; Zuzanna Radkowska, y Rhingyll Cad茅t o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Archie Measey, Uwch-ringyll Sgwadron Gad茅t o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Mariana Lemon, Rhingyll Cad茅t o Gadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol Dyfed a Morgannwg; Katy Moyes, Rhingyll Hedfan y Cadetiaid o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol a Laura Edwards, Rhingyll Hedfan y Cadetiaid o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, i gyd yn s么n wrth y gynulleidfa am eu hamser gyda鈥檙 cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu gwaith dros y 12 mis diwethaf.

Mae r么l y cadetiaid hyn yn para tan fis Medi ac mae鈥檔 cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda鈥檙 Arglwydd Raglaw mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Dewiswyd y saith ar gyfer r么l anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar 么l cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal 芒 chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser rhydd gyda鈥檙 nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) 鈥� sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2025