Stori newyddion

Trawsnewid y farchnad eiddo

Heddiw, lansiwyd ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21: Trawsnewid y farchnad eiddo.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020 i 2021 yn nodi sut y bu i鈥檔 hymateb i鈥檙 pandemig gyd-fynd 芒鈥檔 rhaglen drawsnewid barhaus i symud ymlaen tuag at ddyfodol digidol.

Mae鈥檙 flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn bwysig iawn i bawb. Mae鈥檙 disgwyliadau o ran sut y gallai ac y dylid gwerthu eiddo wedi newid am byth wrth i fanteision trafodion di-bapur ddod yn gliriach byth. Ymatebasom gyda buddsoddiadau cyflymedig i鈥檔 trawsnewid digidol a fyddai鈥檔 gwella鈥檙 sefydliad ac yn cefnogi creu marchnad eiddo wirioneddol ddigidol.

Cafodd ein r么l hanfodol gryn sylw yn ystod y pandemig. Ein blaenoriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf oedd sicrhau na fu ymyrraeth 芒 thrafodion eiddo a pharhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i鈥檔 cwsmeriaid. Trwy awtomeiddio鈥檙 gwasanaethau a ddefnyddir amlaf, sicrhawyd y gallai trafodion eiddo barhau yn ystod cyfnodau鈥檙 cyfyngiadau symud cenedlaethol a lleol. Trawsnewidiodd y sefydliad o un a oedd yn gweithredu bron yn gyfan gwbl o鈥檙 swyddfa i un lle gallai dros 90% o鈥檔 cydweithwyr ddarparu鈥檔 gwasanaethau o bell.

Fel yr unig sefydliad sy鈥檔 gysylltiedig 芒 bron pob trafodiad eiddo yng Nghymru a Lloegr, rydym mewn sefyllfa unigryw a da i yrru a chyflawni鈥檙 newidiadau sy鈥檔 ofynnol. Rydym wedi gweithio鈥檔 agos gydag ystod eang o fudd-ddeiliaid i sicrhau bod ein gwaith yn y maes hwn yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid. Mae鈥檙 dull cydweithredol hwn wedi bod yn hanfodol wrth inni ymateb i ddigwyddiadau amrywiol y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflwyno dulliau newydd arloesol a allai ddod 芒 manteision enfawr i鈥檙 broses drawsgludo yn y dyfodol.

Dywedodd y Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Simon Hayes:

Rwy鈥檔 ymfalch茂o yn y ffordd rydym wedi gweithio gyda鈥檔 gilydd gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a budd-ddeiliaid, mewn ysbryd o gydweithredu i sicrhau y gallai鈥檙 farchnad eiddo yng Nghymru a Lloegr barhau i weithredu鈥檔 effeithiol.

Gwasanaethau newydd

Cyflwynwyd llofnodion electronig and gwiriadau hunaniaeth digidol gennym fel ymateb cyflym i gyfyngiadau symud. Clywsom fod y rhain yn brif flaenoriaethau i鈥檔 cwsmeriaid. Erbyn hyn, mae鈥檙 rhain yn ddau ddarn pwysig a pharhaol o鈥檙 darlun trawsgludo digidol, sy鈥檔 galluogi trafodion a wneir yn gyfan gwbl ar-lein ac yn ddi-bapur.

Cyflwynwyd teclyn newydd i鈥檙 porthol, o鈥檙 enw View My Applications, sy鈥檔 caniat谩u i gwsmeriaid weld statws eu holl geisiadau cyfredol yn gyflym ar un sgrin. Eleni, lansiwyd ein Gwasanaeth Cofrestru Digidol arloesol. Mae hyn yn cynnwys gwirio gwallau awtomataidd, sy鈥檔 helpu cwsmeriaid i sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei darparu ym mhob cais a gyflwynir ganddynt, gan leihau oedi dilynol. Enillodd y gwasanaeth gategori Darparu Profiad Ardderchog i Gwsmeriaid yng Ngwobrau Real IT 2021.

Cynyddu niferoedd ein staff

Cynyddwyd niferoedd ein staff trwy recriwtio mwy na 500 o weithwyr cais a buddsoddwyd yn ein pobl trwy lansio鈥檙 Academi Cofrestru Tir 鈥� canolfan ragoriaeth genedlaethol i oruchwylio a chefnogi鈥檔 hyfforddiant technegol, datblygiad a rhannu gwybodaeth arbenigol. Rydym hefyd yn parhau i recriwtio cyfreithwyr arbenigol o bob rhan o鈥檙 sector i fodloni gofynion gwaith cais cymhleth heddiw.

Nid oedd mwyafrif llethol ein cydweithwyr wedi gweithio gartref cyn Mawrth 2020, ond maent wedi croesawu technoleg gweithio o bell ac wedi teimlo mwy o gysylltiad 芒鈥檙 sefydliad ac 芒鈥檌 gilydd nag erioed o鈥檙 blaen. Ein sg么r ymgysylltu 芒 staff yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020 oedd 71%, sy鈥檔 welliant o 8% ar 2019/20 a鈥檙 uchaf a gofnodwyd gennym erioed, gan ein gosod yn 18fed allan o 106 o sefydliadau llywodraethol a gymerodd ran yn yr arolwg, ac yn gyntaf ymhlith sefydliadau tebyg.

Dangosyddion perfformiad

Mae gwaith caled a menter ein cydweithwyr wrth wasanaethu ein cwsmeriaid yn ystod y flwyddyn bandemig yn cael eu hadlewyrchu yn ein dangosyddion perfformiad. Arhosodd ymddiriedaeth cwsmeriaid yn uchel 鈥� nododd 79% o gwsmeriaid ein bod naill ai鈥檔 dda neu鈥檔 rhagorol wrth sicrhau uniondeb a chywirdeb y Gofrestr Tir 鈥� 2% yn uwch nag yn 2019/20. Mae hawliadau indemniad a dangosyddion eraill ar gyfer gwall a thwyll yn parhau i fod yn isel iawn ar y cyfan ac yn gyson 芒 blynyddoedd blaenorol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2021