Datganiad i'r wasg

Trafod hyfforddiant ar gyfer y Sector Ynni yn ystod ymweliad 芒 choleg

Guto Bebb yn ymweld a'r campws yn Llangefni

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Coleg Menai - Gr诺p Llandrillo Menai yn croesawu Guto Bebb AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru i鈥檞 Gampws yn Llangefni yr wythnos hon.

Bydd Dafydd Evans, Prif Swyddog Gweithredol Gr诺p Llandrillo Menai a Dr Ian Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Busnes y Gr诺p yn rhoi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf i鈥檙 gweinidog am sut mae鈥檙 coleg yn datblygu o ran ei genhadaeth i sicrhau bod gan bobl leol y sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd yn y Sector Ynni.

Ar 么l clywed y wybodaeth ddiweddaraf, bydd taith o amgylch Canolfannau Adeiladu ac Ynni鈥檙 coleg ynghyd 芒 chyfarfod bwrdd crwn y sector ynni a fydd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Ardal Fenter Eryri a Pharciau Eco Orthios cyn i鈥檙 gweinidog symud ymlaen i Safle Wylfa Newydd.

Mae disgwyl i lu o gyfleoedd ddod i Ynys M么n yn sgil sefydlu Gorsaf P诺er Niwclear Wylfa Newydd a phrosiectau ynni eraill, fel ynni鈥檙 tonnau a safle biomas yn safle Alwminiwm M么n gynt.

Un o bynciau tebygol y sgwrsio yn ystod yr ymweliad yw鈥檙 gwaith sydd eisoes wedi鈥檌 gyflawni gyda P诺er Niwclear Horizon.

Mewn digwyddiad lansio yng Ngholeg Menai yr wythnos hon (06/02/2017), cyhoeddodd P诺er Niwclear Horizon y byddai鈥檔 recriwtio 12 Prentis arall i ymuno 芒鈥檌 gynllun hyfforddiant, gan gynyddu nifer Prentisiaid Niwclear Horizon sydd eisoes dan hyfforddiant i 22.

Mae鈥檙 coleg hefyd wedi cyflwyno cais cynllunio i ddatblygu ei gampws yn Llangefni a fyddai鈥檔 golygu adleoli darpariaeth Peirianneg y coleg i Ganolfan Hyfforddiant Peirianneg newydd gwerth 拢15m yn Llangefni.

Dywedodd Dafydd Evans:

Edrychwn ymlaen at gyfarfod adeiladol gyda Guto yn Llangefni y bore yma. Mae鈥檔 hanfodol ein bod yn rhoi鈥檙 diweddaraf i鈥檔 cynrychiolwyr yn San Steffan ar y gwaith sy鈥檔 cael ei wneud yma yng Ngogledd-orllewin Cymru i ddatblygu Peirianneg a sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg eraill. Gyda Brexit fel cwmwl du ar y gorwel, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn cael y sgyrsiau hyn nawr er mwyn i ni baratoi ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Guto Bebb, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

Mae鈥檔 bleser gen i ymweld 芒 Choleg Menai a Wylfa heddiw i weld y dechnoleg arloesol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar economi Ynys M么n. Mae鈥檔 bwysig clywed gan sefydliadau a busnesau yng Nghymru ynghylch y problemau a鈥檙 cyfleoedd a wynebir ganddynt yn dilyn Brexit, a pharhau 芒鈥檙 sgyrsiau rydyn ni wedi bod yn eu cael drwy gydol yr haf.

Mae Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn ymdrin 芒 pholisi mewn modd cydgysylltiedig, gyda鈥檙 nod o sicrhau economi gystadleuol a medrus iawn sydd o fudd i bobl ym mhob cwr o鈥檙 wlad. Mae Coleg Menai yn enghraifft wych o sefydliad yng Ngogledd-orllewin Cymru sy鈥檔 gweithio i sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau cyflogadwyedd hanfodol ar gyfer y farchnad fyd-eang ac i weithio mewn diwydiant sy鈥檔 cael ei ddatblygu yn eu hardal leol.

Dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon:

Mae Coleg Menai a Horizon eisoes wedi dangos sut y byddwn yn gweithio gyda鈥檔 gilydd drwy baratoi鈥檙 ffordd ar gyfer y Ganolfan Hyfforddiant Peirianneg newydd a chynnig cyfleoedd i bobl ifanc leol gael prentisiaeth gyda Horizon. Byddwn yn parhau i symud ymlaen mewn partneriaeth, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i sicrhau鈥檙 manteision enfawr y bydd Wylfa Newydd yn eu cynnig i Ynys M么n a Gogledd Cymru am nifer o ddegawdau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Chwefror 2017