Toyota yn dathlu 25 mlynedd o weithgynhyrchu yng Nghymru
Ymunodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS 芒鈥檙 dathlu yn ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy

Rhyddhawyd yn wreiddiol gan Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd.
Ar 6 Hydref, roedd Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd yn dathlu 25 mlynedd o weithgynhyrchu injans cerbydau yng Nghymru. Y gwesteion arbennig yn y seremoni oedd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a鈥檙 Seilwaith, Ken Skates AC.
Ers dechrau cynhyrchu injans yn 1992 mae鈥檙 ffatri wedi cynhyrchu dros 5.1 miliwn o injans / setiau injans ac yn 2010 dyma鈥檙 ffatri gyntaf y tu allan i Japan i weithgynhyrchu injan Hybrid arloesol Toyota.
Mae鈥檙 ffatri injans ar hyn o bryd yn cyflenwi i ffatr茂oedd Toyota yn Ewrop a ledled y Byd yn cynnwys Affrica, Twrci, Japan a De America. Mae鈥檙 cyfleuster gweithgynhyrchu o鈥檙 radd flaenaf yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd yn cynhyrchu injans petrol 1.6ltr ac 1.8ltr ac injans Hybrid 1.8ltr.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS:
Mae wedi bod yn bleser gweld manteision buddsoddiad hirsefydlog Toyota yng Nglannau Dyfrdwy i economi ranbarthol gogledd Cymru.
Heddiw rydyn ni鈥檔 dathlu鈥檙 swyddi cynaliadwy a gr毛wyd gan Toyota yn yr ardal, sy鈥檔 cyfrannu at economi gryfach yng Nghymru ac yn y DU. Mae hefyd yn cydnabod ymrwymiad y ffatri i dechnoleg sydd ar flaen y gad o ran injans, gan wneud Cymru yn allforiwr blaenllaw ym maes injans Hybrid.
Gan wneud sylwadau ar y garreg filltir bwysig hon, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith:
Rydw i wrth fy modd o fod yn Toyota i ddathlu 25 mlynedd o gynhyrchu injans yma ar Lannau Dyfrdwy. Fel Llywodraeth rydyn ni鈥檔 falch o鈥檔 perthynas gadarn 芒 Toyota. Yn wir, dyma un o鈥檔 prif gwmn茂au angori, ac o safbwynt strategol, mae鈥檔 eithriadol o bwysig i economi gogledd Cymru ac i economi Cymru yn gyffredinol.
Mae Toyota yn adnabyddus ac yn uchel ei barch ledled y byd. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at barhau 芒鈥檔 perthynas gynhyrchiol 芒鈥檙 cwmni ac rydw i鈥檔 ffyddiog y bydd mwy o gerrig milltir o lawer i ni eu dathlu gyda鈥檔 gilydd.
Ychwanegodd Jim Crosbie, Cyfarwyddwr Toyota Manufacturing UK:
Mae hon yn garreg filltir bwysig i ffatri Injans Toyota Manufacturing UK. Mae鈥檔 cadarnhau ymrwymiad hirdymor Toyota i鈥檙 economi ac i ddarparu swyddi ym maes gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru. Rydyn ni鈥檔 falch o fod yng Nghymru a hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru ac i lywodraethau lleol, ein cymunedau lleol ac yn arbennig i鈥檔 haelodau a鈥檔 cwsmeriaid.
Mae heddiw yn gyfle i bawb sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Toyota yng Nghymru ddathlu cyflawniadau鈥檙 25 mlynedd diwethaf ac rydw i鈥檔 edrych ymlaen at wynebu鈥檙 heriau a鈥檙 cyfleoedd newydd yn y blynyddoedd i ddod.