Datganiad i'r wasg

Hafren ddi-doll yn darparu hwb Nadoligaidd ar gyfer cymunedau a busnesau

Llywodraeth y DU yn rhoi terfyn ar dros hanner canrif o godi t芒l

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Gall gyrwyr teithio am ddim ar draws Pont Tywysog Cymru a鈥檙 Bont Hafren wreiddiol am y tro cyntaf mewn 52 blynedd o fore heddiw (dydd Llun 17 Rhagfyr).

Mae diddymiad y tollau, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU鈥檙 llynedd, yn dod wrth i filoedd o bobl teithio adref am gyfnod y Nadolig. Bydd cael gwared ar y tollau yn arbed cymudwyr rheolaidd tua 拢1400 bob blwyddyn ac yn rhoi hwb blynyddol amcangyfrifedig o dros 拢100 miliwn i economi Cymru.

Bydd busnesau hefyd yn elwa o gysylltiadau cryfach rhwng cymunedau o orllewin Cymru i Dde-orllewin Lloegr drwy ei gwneud yn haws ddefnyddwyr a gweithwyr croesi鈥檙 ffin. Codir t芒l ar y pontydd Hafren ers 1966, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns oedd y gyrrwr olaf i dalu i groesi o Loegr i Gymru (ar ddydd Sul 16 Rhagfyr).

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae rhoi terfyn ar y tollau yn garreg filltir fawr i econom茂au De Cymru a De-orllewin Lloegr, a fydd yn dileu rhwystrau hanesyddol rhwng cymunedau. Mae cael gwared ar y tollau yn golygu diwedd ar genedlaethau o bobl yn talu dim ond i groesi鈥檙 ffin, ac mae darparu hyn wedi bod yn un o鈥檓 nodau allweddol fel Ysgrifennydd Gwladol.

Wythnos cyn y Nadolig, ni fydd gyrwyr yn gorfod talu bob tro y maent yn croesi鈥檙 ffin bellach, yn golygu mwy o arian yn eu pocedi i鈥檞 helpu gyda chostau byw sy鈥檔 gadael mwy o arian iddynt wario yn eu hardaloedd lleol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth Chris Grayling:

Rydym wedi gwneud ymrwymiad yn y maniffesto i ddarparu croesfannau am ddim dros yr afon Hafren, a dyna鈥檔 union beth rydym yn gwneud.

Bydd y symudiad hwn yn rhoi 拢1,400 y flwyddyn mewn pocedi filoedd o fodurwyr sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ac yn helpu i drawsnewid yr economi yn y De-orllewin a De Cymru, yn creu cyfleoedd newydd ac yn helpu i sbarduno twf yn y dyfodol.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2018