Yr heriau a鈥檙 cyfleoedd i dwristiaeth yng Nghymru ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd
Llywodraeth y DU yn cynnal cyfarfod twristiaeth Canolbarth Cymru yn Aberystwyth

Aberystwyth
O deithiau i weld dolffiniaid ar hyd morlin Ceredigion i brofiadau beicio mynydd cyffrous, bydd gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael clywed yn uniongyrchol am gyfraniad hollbwysig y diwydiant twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru i economi Cymru yn ystod ymweliad ag Aberystwyth heddiw (26 Gorffennaf).
Cefnogi sector twristiaeth ffyniannus Cymru fydd ar frig yr agenda mewn cyfarfod bwrdd crwn a gynhelir gan Weinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb AS a Gweinidog y DU dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth, John Glen AS ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dyma鈥檙 diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd sy鈥檔 cael eu cynnal gan Lywodraeth y DU yng Nghymru wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd y Gweinidogion yn dod ag arbenigwyr o sector twristiaeth Cymru o amgylch y bwrdd i drafod yr heriau a鈥檙 cyfleoedd sy鈥檔 wynebu鈥檙 diwydiant a chlywed eu safbwyntiau ynghylch yr hyn mae angen ei wneud i sicrhau sector twristiaeth sy鈥檔 ffynnu ac yn datblygu ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017, bu 104.6 miliwn o ymweliadau dydd 芒 Chymru, gyda gwariant cysylltiedig o 拢4,346 miliwn.
Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:
Er fy mod i鈥檔 gwybod am nifer o鈥檙 llefydd gwych i ymweld 芒 nhw yng Nghymru, byddaf bob tro鈥檔 croesawu鈥檙 cyfle i siarad 芒 phobl sy鈥檔 gweithio yn y diwydiant a chael clywed am y materion sy鈥檔 eu hwynebu a鈥檙 cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
Wrth i ni symud tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae鈥檙 gwaith o wrando ac ymgysylltu wedi dod yn bwysicach nag erioed.
Prif nod Llywodraeth y DU ydy sicrhau bod lleisiau pob sector o bob rhan o鈥檙 DU yn cael eu clywed. Dyma pam rydyn ni鈥檔 dod ag arbenigwyr o sector twristiaeth Cymru ynghyd ar gyfer y cyfarfod hwn yn Aberystwyth heddiw. Rydyn ni eisiau rhoi llwyfan iddyn nhw drafod yr heriau a fydd yn codi yn sgil Brexit, ond rydyn ni hefyd eisiau clywed am y cyfleoedd gwych ar gyfer twf mewn busnes a chyflogaeth.
Mae Cymru鈥檔 aml yn cael ei hystyried fel un o鈥檙 llefydd gorau i ymweld 芒 nhw yn y byd. Rydyn ni鈥檔 benderfynol y bydd pethau鈥檔 aros felly a鈥檔 bod yn gwneud Cymru yn lle sydd hyd yn oed yn fwy deniadol ar 么l i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod ei ymweliad ag Aberystwyth, bydd Mr Bebb hefyd yn nodi buddsoddiad 拢10.5 miliwn Cronfa Dreftadaeth y Loteri i adfer yr Hen Goleg a bydd yn ymweld 芒 Sefydliad Biolegol, Amgylcheddol a Gwyddorau Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.