Datganiad Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot
Cynhaliwyd ail gyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ym Mhort Talbot ar 30 Tachwedd 2023.

Close-up image of steel being cast
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am yr ail dro dydd Iau 30 Tachwedd ar safle鈥檙 cwmni ym Mhort Talbot, lle y cytunwyd y cylch gorchwyl ac aelodaeth y ddau is-gr诺p ar gyfer Pobl, Sgiliau a Busnes; ac ar gyfer Lle ac Adfywio. Bydd yr is-grwpiau yn ysgogi partneriaid lleol ac yn casglu gwybodaeth ar ystod o raglenni cefnogaeth, gan awgrymu camau gweithredu i鈥檙 Bwrdd Pontio arb le y gellir buddsoddi鈥檙 拢100m i adeiladau gwytnwch a hyder ym Mhort Talbot a鈥檙 ardaloedd yr effeithir arnynt.
Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn cadeirio鈥檙 Bwrdd Pontio, tra bod Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, a Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, yn ddirprwy gadeiryddion. Mae aelodau鈥檙 Bwrdd yn cynnwys Nusrat Ghani, Gweinidog Diwydiant a Diogelwch Economaidd; Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot; Stephen Kinnock, AS dros Aberafan; a David Rees, AS dros Aberafan. Hefyd, croesawodd y Bwrdd dau aelod annibynnol newydd, Katherine Bennett CBE ac Anne Jessopp. Mae cynrychiolwyr o undebau llafur hefyd yn mynychu.
Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio yn cael ei gynnal yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Datganiad gan Gadeirydd Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies.
Rwy鈥檔 falch bod Llywodraeth y DU wedi gallu dod o hyd i ffordd o sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu yn Ne Cymru.
Fodd bynnag, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn gwneud popeth posib i gefnogi pobl a all gael eu heffeithio o ganlyniad i benderfyniad Tata.
-diwedd-
NODIADAU I OLYGYDDION
Cyhoeddodd Tata Steel cynigion ym mis Medi i fuddsoddi 拢1.25 biliwn, gan gynnwys grant Llywodraeth y DU gwerth hyd at 拢500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Sefydlwyd y Bwrdd Pontio ym mis Hydref i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau yr effeithir arnynt gan y trawsnewid arfaethedig i gynhyrchu dur CO鈧� isel.
Bydd gan y bwrdd fynediad i hyd at 拢100 miliwn i fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol. Bydd yn canolbwyntio ar:聽聽
- Gefnogaeth ar unwaith i鈥檙 pobl, busnesau a chumunedau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y trawsnewid arfaethedig i gynhyrchu dur CO鈧� isel ym Mhort Talbot; a
- Chynllun ar adfywio lleol a thwf economaidd ar gyfer y degawd nesaf.
Nid yw鈥檙 Bwrdd Pontio yn goruchwylio鈥檙 buddsoddiad arfaethedig o 拢1.25m mewn cynhyrchu dur CO鈧� isel yn Tata Steel UK. Mae hyn i鈥檙 cwmni i oruchwylio gydag Adran Busnes a Masnach, Llywodraeth y DU.