Stori newyddion

Sesiwn Holi ac Ateb Tata Steel/Gwaith Dur Port Talbot

Yma, ceir gwybodaeth am ymateb Llywodraeth y DU i gyhoeddiadau diweddar Tata Steel ynghylch gwaith dur Port Talbot a鈥檌 weithrediadau yn y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Tata's Port Talbot steelworks

Pa gytundeb sydd wedi鈥檌 wneud rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU?

  • Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu un o鈥檙 pecynnau cymorth mwyaf erioed i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Ar 15 Medi 2023, cytunodd Llywodraeth y DU a Tata ar gynllun a fyddai鈥檔 golygu bod y ffwrnais arc drydan yn dod i gymryd lle鈥檙 ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.

  • Bydd y ffwrnais arc yn costio 拢1.25 biliwn. Bydd Llywodraeth y DU yn talu 拢500 miliwn, a bydd Tata yn talu鈥檙 gweddill. Bydd y cynnig o osod y ffwrnais arc yn arbed 5,000 o鈥檙 8,000 o swyddi sydd mewn perygl o gael eu colli ar draws Tata Steel UK, yn ogystal 芒 miloedd yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi. Bydd hefyd yn sicrhau bod dur yn parhau i gael ei greu yng Nghymru yn y dyfodol.

  • Yn ogystal 芒 hyn, mae 拢100 miliwn wedi cael ei roi tuag at greu Bwrdd Pontio newydd. Dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd y Bwrdd hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a鈥檙 diwydiant, a fydd yn cefnogi鈥檙 rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Daw 拢80 miliwn o鈥檙 cyllid hwn gan Lywodraeth y DU, a 拢20 miliwn gan Tata.

A yw鈥檙 swm hwn o arian yn ddigon i sicrhau dyfodol y gwaith dur yng Nghymru?

  • Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi un o鈥檌 phecynnau cymorth mwyaf ar waith er mwyn datblygu dyfodol cynaliadwy i Bort Talbot, ac er mwyn diogelu鈥檙 gwaith dur yng Nghymru. Mae鈥檙 cytundeb hwn wedi arbed miloedd o swyddi yn y DU: 5,000 yn Tata, a miloedd yn fwy yng nghadwyn gyflenwi鈥檙 DU.

  • Bydd pecyn Llywodraeth y DU yn cael ei roi fel rhan o 拢1.25 biliwn a fydd yn cael ei fuddsoddi gan Tata.

Wedi talu am bron i 3,000 o ddiswyddiadau y mae鈥檙 拢500 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth y DU.

  • Mae hyn yn anghywir. Mae鈥檙 cytundeb hwn wedi arbed miloedd o swyddi dur ym Mhort Talbot, de Cymru a ledled y DU, a miloedd yn fwy yn y gadwyn gyflenwi ehangach hefyd.

  • Mae wedi achub y diwydiant dur yn ne Cymru drwy newid i ffwrneisi arc trydan, gan greu dyfodol cystadleuol a gwyrdd i鈥檙 rhanbarth.

  • Mae鈥檔 cynnig dyfodol cynaliadwy, nid yn unig i dde Cymru ond hefyd i ddiwydiannau ehangach y gadwyn gyflenwi. Yr opsiwn arall oedd cau鈥檙 ffatri gyfan a chael gwared 芒 phob swydd.

  • Roedd Tata Steel UK yn colli swm enfawr o arian - cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn - a heb gymorth gan Lywodraeth y DU, roedd yr holl waith mewn perygl o ddod i ben ac 8,000 a mwy o swyddi鈥檔 cael eu colli.

  • Fodd bynnag, rydym i gyd yn cydnabod bod hyn yn ergyd ddinistriol i gymuned Port Talbot, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i arbed swyddi a chefnogi unrhyw un sy鈥檔 colli eu gwaith. Dyna pam mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu Bwrdd Pontio Port Talbot, gyda chymorth 拢80 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU ac 拢20 miliwn gan Tata.

  • Mae Tata ei hun wedi cadarnhau na fydd yn cael unrhyw arian gan Lywodraeth y DU nes bod y gwaith adeiladu鈥檔 mynd rhagddo ar y ffwrnais arc drydan newydd.

Beth yw Bwrdd Pontio Port Talbot, a sut y bydd yn helpu鈥檙 bobl y mae cyhoeddiad Tata yn effeithio arnynt?

  • Mae Bwrdd Pontio Port Talbot yn datblygu ymateb i鈥檙 newid yng ngwaith dur Tata.

  • Mae鈥檙 Bwrdd yn cael ei gadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac mae鈥檔 dod 芒 chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Tata Steel, gwleidyddion lleol, llywodraeth leol ac ystod eang o arbenigwyr o wahanol gefndiroedd at ei gilydd. Y Dirprwy Gadeiryddion yw鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru.

  • Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi 拢80 miliwn, ac mae Tata yn darparu 拢20 miliwn ar ben hynny, gan ddod 芒 chyfanswm y cyllid ar gyfer y Bwrdd Pontio i 拢100 miliwn.

  • Unwaith y bydd canlyniad yr ymgynghoriad ffurfiol rhwng Tata a鈥檌 weithlu yn hysbys, bydd y Bwrdd yn buddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol.

  • Bydd yn darparu cymorth i鈥檙 bobl, y busnesau a鈥檙 cymunedau sy鈥檔 cael eu heffeithio gan y newid arfaethedig i waith dur CO鈧� isel ym Mhort Talbot, yn ogystal 芒 chynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd Port Talbot am y degawd nesaf.

Bydd y cytundeb yn golygu bod y DU bellach yn dibynnu ar fewnforion.

  • Mae hyn yn anghywir. Mae ffwrneisi arc trydan yn golygu y bydd y DU yn fwy hunangynhaliol o ran cynhyrchu dur, ac ni fydd yn dibynnu ar fewnforio deunyddiau crai.

  • Ar hyn o bryd, mae鈥檙 rhan fwyaf o ddur sgrap y DU yn cael ei allforio 鈥� gellid gwneud defnydd llawer gwell ohono gartref.

  • Nid ydym yn disgwyl y bydd newid i ffwrneisi arc trydan yn effeithio ar brosiectau cenedlaethol hanfodol a dur sy鈥檔 cael ei greu at ddibenion amddiffyn.

  • Hefyd, mae ffwrneisi chwyth yn dod i ddiwedd eu hoes, ac ni fyddwn yn gallu dibynnu arnynt i ddarparu鈥檙 dur sydd ei angen arnom ar gyfer dyfodol diogel a ffyniannus yn y DU. Heb ffwrneisi arc trydan, mae risg wirioneddol y byddem yn colli鈥檙 diwydiant cynhyrchu dur yn gyfan gwbl yn y DU.

Mae swyddi yn y DU yn cael eu haberthu er budd targedau gwyrdd.

  • Mae Tata wedi dweud bod yn rhaid i鈥檞 fusnesau yn y DU fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol.

  • Mae鈥檙 datblygiad arc trydan arfaethedig yn helpu i gyflawni鈥檙 ddau nod, gan gynnwys y nod o leihau colledion ariannol sylweddol y cwmni.

  • Mae cyfrifon Tata, sydd ar gael i鈥檙 cyhoedd ei gweld, yn dangos bod Tata Steel UK wedi colli 拢4 biliwn a mwy ar 么l treth ers 2007.

  • Mae Tata Steel UK yn colli dros 拢1 miliwn y dydd, ac yn dweud bod angen brys i sicrhau bod y busnes yn gynaliadwy yn ariannol.

A ystyriwyd dewisiadau eraill yn lle鈥檙 cytundeb hwn?

  • Mae Tata wedi dweud ei fod wedi ystyried dewisiadau amgen, ond nad oeddent yn hyfyw oherwydd costau gormodol neu oherwydd nad oedd y dechnoleg angenrheidiol wedi鈥檌 datblygu鈥檔 llawn ar hyn o bryd.

  • Fodd bynnag, nid yw prosiect trawsnewid Port Talbot yn atal technolegau pellach rhag cael eu rhoi ar waith mewn pryd.

Ym mha ffordd arall y mae Llywodraeth y DU yn cefnogi dyfodol Port Talbot/economi de Cymru?

  • Mae Llywodraeth y DU yn darparu cefnogaeth a buddsoddiad sylweddol i economi Port Talbot a de Cymru.

  • Mae鈥檙 prosiectau鈥檔 cynnwys datblygu鈥檙 Porthladd Rhydd Celtaidd ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, gyda chefnogaeth hyd at 拢26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, a fydd yn canolbwyntio ar dechnolegau carbon isel. Ei nod yw creu tua 16,000 o swyddi erbyn canol 2030. Mae鈥檙 M么r Celtaidd hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer gwynt arnofiol ar y m么r, a gallai unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol arwain at greu miloedd o swyddi medrus.

  • Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe 鈥� sy鈥檔 cwmpasu Port Talbot 鈥� yn parhau i ddarparu buddsoddiad ar draws y rhanbarth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2024