Datganiad i'r wasg

Mynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth modern yn y DU

Y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn cyfarfod 芒 th卯m Ymgyrch Imperial yn Heddlu Gwent

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Gwent Police

(L-R) Deputy Chief Constable Craig Guildford of Gwent Police Force, Wales Office Minister Baroness Jenny Randerson and Detective Superintendent Paul Griffiths of Operation Imperial

Heddiw (29 Ebrill), bu鈥檙 Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld 芒 Heddlu Gwent i weld y camau sy鈥檔 cael eu cymryd i fynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth modern yn y DU.

Yn ystod ei hymweliad, clywodd y Farwnes Randerson am waith t卯m Ymgyrch Imperial 鈥� sef uned a sefydlwyd i ymchwilio i honiadau o droseddau鈥檔 ymwneud 芒 chaethwasiaeth a chaethiwed.

Operation Imperial yw鈥檙 ymchwiliad mwyaf o鈥檌 fath yn y DU. Wrth iddo fynd rhagddo mae鈥檙 ymchwiliad wedi arwain at achub nifer o oedolion agored i niwed.
Rhoddodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Griffiths friff i鈥檙 Gweinidog ar gynnydd a heriau鈥檙 ymchwiliad.

Wrth siarad ar 么l yr ymweliad, dywedodd y Farwnes Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae masnachu pobl a chaethwasiaeth yn droseddau erchyll. Maent yn dirmygu ac yn israddio pobl ac yn cam-drin hawliau dynol sylfaenol mewn modd annerbyniol.

Mae mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 troseddau cudd hyn yn her anferth a chymhleth. Serch hynny, fel rydw i wedi gweld heddiw, mae Heddlu Gwent ac asiantaethau ledled y DU yn gwneud ymdrech lew a gwaith rhagorol o dda yn ceisio mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 mater atgas hwn.

Mae鈥檔 amlwg bod elfennau ynghlwm wrth lawer o鈥檙 troseddau hyn sy鈥檔 croesi ffiniau a dyna pam fy mod i鈥檔 glir iawn fy meddwl ei bod yn bwysig i ni barhau i gydweithio gyda鈥檔 cymdogion Ewropeaidd i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 troseddau hyn. Nid yw troseddwyr yn poeni dim am ffiniau rhyngwladol, felly rhaid i ni weithio鈥檔 agos 芒鈥檔 cyfeillion Ewropeaidd er mwyn eu dal a鈥檜 rhoi o flaen eu gwell.

Rhaid i ni adolygu ein hymdrechion yn barhaus. Byddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos 芒 Llywodraeth Cymru a thimau gorfodi鈥檙 gyfraith gan roi hwb pellach i鈥檔 hymdrechion i ddileu caethwasiaeth modern.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Griffiths:

Mae Operation Imperial yn ymchwiliad mawr i droseddau caethwasiaeth a chaethiwed posib sy鈥檔 bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw.

Rydw i鈥檔 teimlo ei bod yn bwysig creu mwy o ymwybyddiaeth, tynnu sylw at y camfanteisio a gwneud popeth o fewn ein gallu ni i amddiffyn rhai o鈥檙 bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni. Dydi鈥檙 dioddefwyr yma ddim yn gwybod eu bod nhw鈥檔 ddioddefwyr yn aml iawn, neu maen nhw鈥檔 ofni鈥檙 rhai sy鈥檔 eu rheoli nhw. Weithiau, mae eu hofn nhw鈥檔 eu hatal rhag gofyn am help gan yr awdurdodau ac felly byddwn yn annog unrhyw un sy鈥檔 amau bod rhywun yn cael ei drin fel yma i gysylltu ag 101 a鈥檜 helpu nhw.

Daw鈥檙 ymweliad hwn wrth i Lywodraeth y DU gymryd camau i roi terfyn ar gaethwasiaeth modern ac i warchod y dioddefwyr.

Ym mis Rhagfyr 2013, roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May AS, wedi cyhoeddi Bil drafft ar Gaethwasiaeth Modern 鈥� y cyntaf o鈥檌 fath yn Ewrop 鈥� a fydd yn sicrhau bod troseddwyr yn wynebu鈥檙 cosbau llymaf.

Nodiadau i olygyddion - Mynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth

Mae鈥檙 Bil drafft Caethwasiaeth Modern yn darparu ar gyfer:

  • Cyfnerthu a symleiddio鈥檙 troseddau caethwasiaeth a masnachu pobl presennol er mwyn cynnig eglurder a ffocws wrth ymchwilio i鈥檙 sawl sy鈥檔 masnachu pobl a鈥檜 herlyn
  • Cynyddu鈥檙 ddedfryd hiraf sydd ar gael o 14 mlynedd o garchar i garchar am oes, fel bod troseddwyr yn cael y gosb a haeddant
  • Cyflwyno Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl, a Gorchmynion Risg o Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl er mwyn cyfyngu ar weithgarwch y rheini sy鈥檔 peri risg a鈥檙 rheini sydd wedi cael eu collfarnu am droseddau caethwasiaeth a masnachu pobl fel nad ydynt yn gallu achosi rhagor o niwed
  • Creu swydd Comisiynydd Atal Caethwasiaeth er mwyn rhoi hwb i ymdrechion gorfodi鈥檙 gyfraith wrth fynd i鈥檙 afael 芒 chaethwasiaeth modern; a
  • Sefydlu dyletswydd gyfreithiol i adrodd i鈥檙 Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol am bobl sydd o bosib yn cael eu masnachu er mwyn creu darlun cliriach o natur y troseddau cudd hyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.