Datganiad i'r wasg

Prifysgol yn croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gampws y Bae

Stephen Crabb yn ymweld 芒 Champws Gwyddoniaeth ac Arloesi鈥檙 Bae ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (Dydd Iau, 15 Ionawr) bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, yn ymweld 芒 Champws Gwyddoniaeth ac Arloesi鈥檙 Bae ym Mhrifysgol Abertawe i weld y cynnydd sylweddol sydd wedi鈥檌 wneud ar y datblygiad 拢450m, sydd ar amser i agor ei ddrysau i fyfyrwyr ym mis Medi 2015.

Mae鈥檙 cwmni blaenllaw sy鈥檔 arbenigo mewn adfywio yn y DU, St. Modwen, yn datblygu鈥檙 campws gyda鈥檌 bartner adeiladu, VINCI Construction UK, ynghyd 芒 chontractwr fframwaith Prifysgol Abertawe, Leadbitter, cwmni Bouygues UK a Galliford Try. Croesawyd Mr Crabb i鈥檙 safle gan Is-ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Richard Davies, a鈥檙 Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies, sy鈥檔 arwain y gwaith datblygu a chyflawni ar Gampws y Bae.

Cafodd yr ymwelwyr eu tywys ar daith fanwl o amgylch adeiladau academaidd Campws y Bae, sy鈥檔 cynnwys adran Beirianneg o鈥檙 radd flaenaf, yr Ysgol Reolaeth a鈥檙 Neuadd Fawr odidog, sydd 芒 golygfeydd ysgubol o Fae Abertawe. Pan fydd ar agor, bydd yn gyfleuster a fydd yn cynnig ystafelloedd darlithio helaeth, bar ac awditoriwm i鈥檙 myfyrwyr, y staff a鈥檙 cyhoedd gael eu mwynhau.

Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Mae Campws newydd y Bae yn arddangos uchelgais Prifysgol Abertawe i gystadlu 芒 rhai o sefydliadau arloesol y byd, gan ddenu myfyrwyr o bob cwr o鈥檙 DU, gan hefyd gadw鈥檙 doniau academaidd gorau yma yng Nghymru.

Rydyn ni鈥檔 gwybod bod llwyddiant yn yr unfed ganrif ar hugain yn eiddo i鈥檙 econom茂au hynny a all arloesi a defnyddio gwybodaeth. Mae prifysgolion o safon fyd-eang yn hanfodol i gyflawni hynny ac mae eu cefnogi yn rhan o鈥檔 cynllun economaidd ar gyfer twf hirdymor.

Rwy鈥檔 hyderus y bydd Prifysgol Abertawe sy鈥檔 ehangu yn helpu pobl ifanc i ddatblygu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo a llywio busnesau鈥檙 dyfodol.

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

Mae Campws y Bae wedi cael ei gydnabod fel un o brosiectau economi wybodaeth blaenllaw Ewrop, a dangosodd llwyddiant Prifysgol Abertawe yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil fis Rhagfyr y llynedd ein bod wedi esgyn mwy o safleoedd nag unrhyw Brifysgol arall sy鈥檔 canolbwyntio鈥檔 wirioneddol ar ymchwil yn y DU.

Barnwyd bod naw deg y cant o ymchwil Abertawe yn cael effaith ragorol yn rhyngwladol, sy鈥檔 dangos ein cyfraniad sylweddol, cyson a gwerthfawr i ardal y ddinas, i economi Cymru, ac yn rhyngwladol.

Rydym yn falch o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb i Gampws y Bae heddiw, i鈥檞 dywys o amgylch y cyfleusterau o safon uchel a fydd yn cael eu mwynhau gan fyfyrwyr, staff a鈥檔 partneriaid diwydiannol.

Rydym hefyd yn awyddus i rannu ein gobeithion ynghylch y pethau mwy sydd i ddod wrth inni baratoi tuag at agor y Campws ym mis Medi 2015. Bydd datblygiad Campws y Bae a鈥檙 gwaith datblygu ac adnewyddu newydd ar gampws Singleton, yn galluogi Abertawe i gymryd camau hyd yn oed mwy yn y dyfodol 鈥� gan ddod 芒 ni鈥檔 sylweddol agosach at wireddu ein huchelgais o fod yn un o鈥檙 200 o Brifysgolion gorau鈥檙 Byd.

Yn dilyn y daith o amgylch y Campws, aeth Mr Crabb ati i annerch cyfarfod Clwb Busnes Bae Abertawe ar safle Campws y Bae, a drefnwyd mewn cydweithrediad 芒鈥檙 Brifysgol. Mynychwyd y cyfarfod gan tua 20 o fusnesau lleol, a gafodd eu tywys hefyd ar daith bws o amgylch Campws y Bae.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Ionawr 2015