Datganiad i'r wasg

Cefnogaeth i鈥檙 Lluoedd Arfog o gwmpas y Bwrdd Gron

Y Farwnes Randerson yn arwain trafodaeth ar sut orau i gefnogi'r lluoedd arfog yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ar drothwy Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd fis Medi, cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru oedd y pwnc dan sylw yn Swyddfa Cymru heddiw.

Dan ofal Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, bu鈥檙 digwyddiad yn gyfle i drafod materion sy鈥檔 wynebu person茅l a chyn-filwyr y lluoedd arfog. Roedd y pynciau trafod yn cynnwys beth gellid ei wneud i sicrhau bod cymunedau鈥檙 lluoedd arfog yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ag y maent yn ei haeddu.

Dywedodd y Farwnes:

Roedd yn fraint cael cynnal y cyfarfod hwn heddiw ac, ar drothwy Uwchgynhadledd NATO, cael profi鈥檙 gefnogaeth sylweddol sydd i鈥檙 lluoedd arfog yng Nghymru.

Mae eu cyfraniad yn sylweddol a dwi鈥檔 falch o gael chwarae rhan mewn sicrhau bod gwerthfawrogiad Cymru ohonynt yn cael ei ddangos mewn ffyrdd ymarferol.

Rhannwyd gwybodaeth am y Cyfamod Lluoedd Arfog a鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael ar draws y D.U. trwy law y Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chynrychiolydd o Llywodraeth Cymru鈥檔 amlinellu鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael trwy Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru.

Rhoddodd y Gwasanaeth Disgownt Amddiffynwyr (Defence Discount Service), yr unig gorff sydd yn swyddogol yn cynnig gostyngiadau i鈥檙 lluoedd arfog, gyflwyniad ar waith ei gerdyn braint.

Mae dros 3,000 o fusnesau cenedlaethol a lleol wedi ymrwymo i ddarparu gostyngiadau i tu hwnt i 185,000 o aelodau鈥檙 lluoedd arfog sydd wedi ymuno 芒鈥檙 cynllun hyd yn hyn. Roedd y Farwnes yn falch iawn o groesawu busnesau sydd eisoes yn cynnig gostyngiadau yng Nghymru ac mae鈥檔 edrych ymlaen at groesawu nifer pellach maes o law.

Hefyd yn bresennol oedd cynrychiolwyr o ystod o elusennau sy鈥檔 cefnogi鈥檙 lluoedd arfog, a bu鈥檙 trafodaethau ar y ddarpariaeth sydd eisoes ar gael, ac sydd ar y gweill, yn gadarnhaol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2014