Datganiad i'r wasg

Band eang uwchgyflym yn cyrraedd 1,000,000 o gartrefi a busnesau ar draws y DU

Gall mwy na 190,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn awr gael mynediad i rhyngrwyd uwchgyflym diolch i raglen llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae rhaglen band eang uwchgyflym Llywodraeth y DU bellach wedi cyrraedd mwy na 1 miliwn o gartrefi a busnesau ledled y DU - gyda mwy na 190,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad i ryngrwyd uwchgyflym, dengys ffigurau gyhoeddwyd heddiw (8 Awst).

Mae鈥檙 rhaglen, ar gost o 拢1.7 ledled y DU, ar y trywydd iawn i ymestyn band eang uwchgyflym i 95% o gartrefi a busnesau鈥檙 DU erbyn 2017. Mae鈥檙 raddfa y mae y dechnoleg ffibr yn cael ei chyflwyno o dan y rhaglen yn cynyddu, gyda hyd at 40,000 o adeiladau yn ennill mynediad bob wythnos.

Mae鈥檙 rhaglen, sydd ar waith ar draws y DU gyfan, yn rhan allweddol o gynllun economaidd hirdymor y llywodraeth i sicrhau dyfodol Prydain drwy ddarparu mynediad i fand eang uwchgyflym mewn ardaloedd ble na fyddai鈥檙 sector preifat wedi cyrraedd fel arall. Bydd y rhaglen wledig gyfredol yn sicrhau enillion o 拢20 am bob 拢1 a fuddsoddir, sy鈥檔 cynrychioli gwerth am arian aruthrol.

Bydd band eang cyflymach nid yn unig yn gwella elw busnesau yn y DU, ond bydd hefyd yn creu 56,000 o swyddi ychwanegol yn y DU erbyn 2024. Disgwylir i waith y rhaglen bresennol rhoi hwb o 拢1.5 biliwn i econom茂au lleol. Erbyn 2024, bydd buddsoddiadau presennol y llywodraeth mewn band eang uwchgyflym yn rhoi hwb i econom茂au gwledig o 拢275 miliwn bob mis, neu tua 拢9 miliwn bob dydd.

Y DU sy鈥檔 darparu鈥檙 band eang uwchgyflym gorau ar hyn o bryd o鈥檙 pum economi sydd ar frig economi Ewrop a rydym hefyd ar y blaen i鈥檔 cymdogion o ran manteisio ar ddarpariaeth, bod yn gystadleuol, a phrisio. Ond mae鈥檙 llywodraeth yn cydnabod bod llawer mwy i鈥檞 wneud.

Bydd y cynlluniau presennol yn sicrhau cyflymder uwchgyflym ar gyfer 95% o鈥檙 DU, ond mae鈥檙 llywodraeth yn credu鈥檔 gryf y dylai ei gynlluniau ar gyfer y tirlun digidol gwmpasu pob ardal o鈥檙 DU.

Mae鈥檙 pwyslais yn awr ar y 95% sy鈥檔 weddill - yr ardaloedd anghysbell hynny a鈥檙 rheiny sydd anoddaf i鈥檞 cyrraedd yn y DU nad ydynt yn dod o dan y cynlluniau presennol. Mae 拢10m wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfres o brosiectau peilot sydd ar y gweill mewn 8 lleoliad ar draws y DU i ymchwilio i鈥檙 ffordd orau o daclo鈥檙 ardaloedd hyn. Bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio i hysbysu ceisiadau am gyllid yn y dyfodol, i sicrhau bod pawb yn elwa o鈥檙 trawsnewid i鈥檙 tirlun digidol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Sajid Javid:

Mae mwy na miliwn o gartrefi a busnesau bellach wedi elwa o ganlyniad i fuddsoddiad y llywodraeth mewn band eang uwchgyflym.

Mae hyn yn llwyr newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Gallwch lawrlwytho ffilmiau llawn-hyd yn gyflymach, sgwrsio ar-lein gyda theulu a ffrindiau ar draws y byd gan ddefnyddio VOIP mwy dibynadwy, a gall teuluoedd fynd ar-lein ar yr un pryd heb i鈥檞 cysylltiad arafu neu fethu.

I fusnesau, mae gwasanaeth uwchgyflym yn rhoi hwb i鈥檞 helw trwy gynyddu gwerthiant, costau is a mynediant i farchnadoedd dramor am y tro cyntaf.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:

Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw fod bron 200,000 o gartrefi a busnesau Cymru yn cael mynediad i wasanaeth uwchgyflym yn garreg filltir bwysig yng nghynlluniau uchelgeisiol y llywodraeth hon i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang addas ar gyfer yr oes ddigidol.

Mae band eang uwchgyflym yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer bywyd bob dydd, ond hefyd ar gyfer llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol. Dyna pam fo cysylltedd i gartrefi a busnesau yn un o gonglfeini ein cynllun economaidd tymor-hir i hybu twf a chryfhau economi Cymru.

O鈥檔 cadarnleoedd gwledig i ganol ein dinasoedd, rydym yn buddsoddi mewn band eang uwchgyflym i gefnogi busnesau Cymru er mwyn iddynt allu cystadlu yn y ras fyd-eang, cyrraedd marchnadoedd newydd a chreu鈥檙 swyddi hynny sydd eu hangen arnom.

Dywedodd Gavin Patterson, Prif Swyddog Gweithredol BT:

Mae cael ffibr i ardaloedd gwledig yn galed, ac yn aml yn gymhleth, ond rydym yn gwneud cynnydd gwych. Mae ein peirianwyr yn brysur, o Hampshire i Ucheldir yr Alban, yn cysylltu cartrefi a busnesau, beth bynnag yw鈥檙 her. Rydym yn gosod ceblau tanfor i鈥檙 Hebrides Allanol, yn cyrraedd pentrefi anghysbell yng Nghymru ac yn trawsnewid ardaloedd gwledig ledled Lloegr.

Mae BT wedi dod ag arbenigedd technegol at y bwrdd, yn ogystal 芒 channoedd o filiynau o bunnoedd. Mae rhai o鈥檙 prosiectau cynnar yn agos at gael eu cwblhau a bydd rhagor o arian yn cael ei ryddhau os down i fewn o dan y gyllideb, neu os yw鈥檙 pryniant o鈥檙 gwasanaeth yn fwy na鈥檙 disgwyl.

Meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd Elizabeth Truss:

Mae carreg filltir heddiw yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod o ran darparu gwasanaeth cyflymach, mwy dibynadwy i gymunedau ar draws y DU.

Trwy ein cyllido, rydym yn helpu i bontio鈥檙 bwlch rhwng ardaloedd trefol a gwledig, gan alluogi rhai o鈥檔 busnesau a鈥檙 cymunedau mwyaf ynysig i dyfu a ffynnu.

Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth go-iawn i鈥檙 economi wledig, trwy newid y ffordd y gall busnesau a defnyddwyr ddefnyddio鈥檙 rhyngrwyd a sicrhau gwell dyfodol i Brydain.

Gwybodaeth bellach:

Rhaglen llywodraeth y DU yw Superfast Prydain sy鈥檔 buddsoddi yn y seilwaith band eang a chyfathrebu ar draws y DU. Diben y buddsoddiad yw i dyfu busnesau, creu swyddi a gwneud Prydain yn fwy cystadleuol yn y ras fyd-eang. Mae tair elfen i鈥檙 portffolio:

  • 拢780m i ymestyn band eang uwchgyflym i 95% o鈥檙 DU erbyn 2017
  • 拢150m i ddarparu band eang cyflymder uchel i fusnesau mewn 22 o ddinasoedd
  • 拢150m i wella ansawdd ac argaeledd cyswllt ff么nau symudol a gwasanaethau rhwydwaith data sylfaenol

Wedi ei weinyddu ar ran y llywodraeth trwy Broadband Delivery UK, mae Superfast Prydain yn trawsnewid Prydain drwy hyrwyddo twf, galluogi sgiliau a dysgu, a gwella ansawdd bywyd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2014