Stori newyddion

Sgamiau SMS-rwydo Myfyrwyr ar Gynnydd

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ar ddechrau 24/25 blwyddyn academaidd

Ar ddechrau鈥檙 flwyddyn academaidd 24/25, mae鈥檙 Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn atgoffa myfyrwyr i fod yn wyliadwrus o sgamiau SMS-rwydo.

Mae sgamwyr yn targedu myfyrwyr yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn wrth iddynt dderbyn eu taliad benthyciad cynhaliaeth cyntaf. Mae SLC yn disgwyl talu 拢2bn i fyfyrwyr dros dymor yr hydref a鈥檙 llynedd fe ataliwyd 拢2.9m o daliadau benthyciad cynhaliaeth rhag cael eu cymryd gan sgamiau SMS-rwydo a gwe-rwydo, lle derbyniodd myfyrwyr gyfathrebiadau ffug a gweithredu arnynt.

SMS-rwydo, sef twyll sy鈥檔 ymwneud 芒 negeseuon testun, yw鈥檙 math mwyaf poblogaidd dwyll ar hyn o bryd, gyda myfyrwyr fel arfer yn cael eu gwahodd i glicio dolen i gwblhau tasg 鈥� er enghraifft gwirio manylion banc neu gadarnhau eu gwybodaeth bersonol, gan roi cyfle i daliad gael ei ddargyfeirio i gyfrif banc twyllwr.

Ni fydd SLC byth yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu neu ddilysu eu gwybodaeth bersonol neu ariannol trwy e-bost neu neges destun, ac mae Alan Balanowski, Cyfarwyddwr Risg SLC, yn annog myfyrwyr i dalu sylw i unrhyw gyfathrebu a g芒nt gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) neu SLC yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd: 鈥淢ae dechrau neu ddychwelyd i鈥檙 brifysgol yn gyfnod cyffrous, ond mae hefyd yn brysur, gyda myfyrwyr yn rhoi trefn ar bethau ac yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd, sy鈥檔 cynnwys ymdrin 芒 gwybodaeth gan wahanol sefydliadau, gan gynnwys ni ein hunain. Ein nod yw sicrhau bod ein proses dalu yn syml i fyfyrwyr, ond rydym yn profi cynnydd mewn sgamiau SMS-rwydo ar yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod angen i fyfyrwyr fod yn effro i unrhyw ymgais bosibl i atal rhandaliad eu benthyciad cynhaliaeth.

鈥淢ae gennym ni amrywiaeth o ddulliau ataliol rydyn ni鈥檔 eu defnyddio i dargedu sgamiau, ond yr offeryn sy鈥檔 cael yr effaith fwyaf sydd gennym ni yw gweithio gyda myfyrwyr i atal twyllwyr. Os bydd myfyriwr yn derbyn neges amheus, dylai ei dileu a rhoi gwybod amdani ar unwaith, ond os bydd twyllwr yn llwyddo i gael manylion personol, yna mae鈥檔 rhaid i ni gydweithio鈥檔 gyflym i ganfod a rhwystro鈥檙 weithred鈥�.

鈥淵 llynedd, fe lwyddon ni i atal 拢2.9m o daliadau benthyciad cynhaliaeth rhag cyrraedd twyllwyr, ac rydym yn canolbwyntio ar weithio mor effeithiol ag y gallwn i amddiffyn myfyrwyr a鈥檜 cyllid.

鈥淢ae ein neges i fyfyrwyr yn eithaf syml, meddyliwch cyn clicio.鈥�

Awgrymau da鈥檙 SLC

  • Nid yw SLC na CMC yn darparu unrhyw wasanaethau trwy WhatsApp聽ac ni fyddant byth yn cychwyn cyswllt 芒 myfyriwr trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, X, Instagram a Tik Tok, i drafod eu cais neu eu hawl i gyllid myfyriwr.聽Os yw cwsmer yn derbyn cyfathrebiad gan CMC nad yw鈥檔 si诺r ohono, dylai fewngofnodi i鈥檞 gyfrif ar-lein i wirio a yw鈥檔 ddilys.
  • Gwiriwch ansawdd y cyfathrebu - yn aml bydd camsillafu, diffyg atalnodi a gramadeg gwallus yn arwyddion o we-rwydo.
  • Cadwch lygad am unrhyw e-byst, galwadau ff么n neu negeseuon testun amheus, yn enwedig o gwmpas amser taliad disgwyliedig.
  • Mae e-byst twyll a negeseuon testun yn aml yn cael eu hanfon mewn swmp at lawer o bobl ar yr un pryd ac yn annhebygol o gynnwys enw cyntaf ac enw olaf. Mae鈥檙 rhain yn dechrau fel arfer gydag 鈥� 鈥楢nnwyl Fyfyriwr鈥�.
  • Mae negeseuon sy鈥檔 cyfleu ymdeimlad o frys hefyd yn annhebygol o fod yn ddilys 鈥� er enghraifft 鈥榖ydd methu ag ymateb o fewn 24 awr yn arwain at gau y cyfrif鈥�.
  • Meddyliwch cyn clicio. Os yw e-bost neu neges destun yn cynnwys dolen, daliwch eich cyrchwr drosto i wirio ei fod yn mynd lle mae i fod. Os oes unrhyw amheuaeth, peidiwch 芒鈥檌 mentro. Ewch yn uniongyrchol at y ffynhonnell yn hytrach na chlicio ar ddolen a allai fod yn beryglus.
  • Gall twyllwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i geisio cael myfyrwyr i dalu arian neu rannu manylion personol, gan gynnwys defnyddio galwadau ff么n twyllodrus, postiadau cymdeithasol a negeseuon uniongyrchol ar lwyfannau digidol. Defnyddiwch rifau ff么n swyddogol, y cyfrif ar-lein a sianeli cyfathrebu swyddogol bob amser i wirio bod y cyswllt a dderbyniwyd yn ddilys.
  • Byddwch yn ymwybodol o鈥檙 wybodaeth rydych chi鈥檔 ei rhannu amdanoch chi鈥檆h hun ar gyfryngau cymdeithasol, ac mewn mannau eraill ar-lein, i helpu gwarchod rhag lladrad hunaniaeth. Mae lladrad hunaniaeth yn digwydd pan fydd twyllwyr yn cyrchu digon o wybodaeth am hunaniaeth person, megis ei enw, dyddiad geni, cyfeirnod cwsmer, gwybodaeth cwrs neu gyfeiriadau presennol neu flaenorol i ddynwared nhw ar-lein a thros y ff么n.
  • Mae SLC neu Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) yn anfon neges destun at fyfyrwyr yng Nghymru os oes newid wedi鈥檌 wneud i鈥檞 manylion banc. Os nad ydych wedi newid eich manylion banc ac wedi derbyn neges, cysylltwch 芒 ni ar unwaith.
  • Cymrwch olwg ar ein canllaw i nodi twyll ar聽www.gov.uk/guidance/phishing-scams-how-you-can-avoid-them

Os bydd myfyriwr yn derbyn neges amheus, dylai adrodd amdano ar unwaith trwy e-bost i [email protected] ac i Slc trwy ffonio ein llinell ymroddedig ar 0300 100 0059.聽

Mae yna hefyd amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth ychwanegol ar adnabod ac osgoi twyll gan , 聽canolfan adrodd genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer twyll a seiberdroseddu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Medi 2024