Neges Dydd y Cofio
Stephen Crabb: Wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, down at ein gilydd fel cenedl i ddangos nad ydym wedi anghofio am eu hymroddiad, ac na fyddwn byth yn anghofio eu haberth.

Ar Sul y Cofio, safwn gyda鈥檔 gilydd fel cenedl i dalu teyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid a鈥檔 democratiaeth.
Ar adeg fel hon, byddwn yn camu o鈥檔 bywydau prysur, ac yn oedi i feddwl cyn mwynhau鈥檙 rhyddid a鈥檙 cyfleoedd rydym wedi鈥檜 cael ar draul colli bywydau, er mwyn dweud, 鈥渄iolch鈥� a 鈥渃ofiwn amdanoch.
Yng Nghymru, mae gennym hanes milwrol hir ac anrhydeddus. Gall pob un ohonom ymfalch茂o ym mhroffesiynoldeb llwyr ac yn ymroddiad di-ildio dynion a menywod ein lluoedd arfog. Bydd pobl Cymru yn cofio鈥檔 anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.
Byddwn hefyd yn myfyrio ynghylch y rhyfeloedd sy鈥檔 digwydd ar hyn o bryd ar draws y byd, a鈥檙 aberthau dyddiol gan y rheini sy鈥檔 parhau i amddiffyn ein gwerthoedd a鈥檔 ffordd o fyw. Rydym yn meddwl amdanynt ac yn diolch iddynt, yn ogystal ag yn meddwl am eu hanwyliaid, sy鈥檔 gweld eu colli鈥檔 fawr ond yn eu cefnogi bob cam o鈥檙 ffordd.
Wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, down at ein gilydd fel cenedl i ddangos nad ydym wedi anghofio am eu hymroddiad, ac na fyddwn byth yn anghofio eu haberth.