Stephen Crabb yn croesawu Ystadegau Perfformiad y Rhaglen Waith
Stephen Crabb: 鈥淢ae鈥檙 Rhaglen Waith yn llwyddo ac mae鈥檙 Llywodraeth hon yn cael Cymru i weithio"

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yr Ystadegau sydd newydd gael eu rhyddhau ynghylch Perfformiad y Rhaglen Waith yng Nghymru.
Dywedodd:
Mae nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cael gwaith drwy鈥檙 cynllun blaenllaw hwn gan y Llywodraeth wedi cynyddu dros 50% o gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol.
Ers lansio鈥檙 rhaglen, mae 20,490 o hawlwyr yng Nghymru wedi llwyddo i osgoi diweithdra hirdymor ac wedi cael gwaith parhaol drwy Raglen Waith Llywodraeth y DU.
Mae hyn yn dangos ymhellach fod y Rhaglen Waith yn llwyddo, a bod y Llywodraeth hon yn cael Cymru i weithio.
Mae鈥檙 Rhaglen Waith yn llwyddo i weddnewid bywydau鈥檙 rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.