Stephen Crabb: Bydd taith Tim Peake yn eiliad hanesyddol i鈥檙 DU yn y gofod
Caerdydd yn dathlu lansio'r gofodwr Prydeinig i'r Orsaf Ofod Ryngwladol
Science is GREAT
Ar ddydd Mawrth 15 Rhagfyr, bydd Tim Peake, gofodwr Prydeinig yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, yn lansio i鈥檙 Orsaf Ofod Ryngwladol (GOR) ar gyfer ei daith Principia.
Er mwyn nodi鈥檙 diwrnod pwysig iawn hwn, bydd Asiantaeth Ofod y DU yn cynnal 4 o ddigwyddiadau mawr ar y diwrnod lansio ym mhrifddinasoedd y wlad ac mewn 16 o ddigwyddiadau llai mewn canolfannau darganfod a gwyddoniaeth drwy鈥檙 wlad, gan roi cyfle i鈥檙 cyhoedd ffarwelio 芒 Tim ar ei ffordd a chymryd rhan yn y daith.
Mae Techniquest ym Mae Caerdydd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer teuluoedd ac ysgolion, sy鈥檔 cynnwys 鈥渃yfarfod 芒 gofodwr鈥�; clerwyr gwyddoniaeth; arddangosfeydd; cysylltiadau teledu byw i鈥檙 lansiad a digwyddiad cyhoeddus gyda鈥檙 nos sy鈥檔 RHAD AC AM DDIM yng nghanolfan wyddoniaeth Techniquest.
Drwy鈥檙 dydd bydd staff o Techniquest yng nghanol y ddinas gyda gweithgareddau clera gwyddoniaeth, aelod o staff mewn copi o siwt ofod a nwyddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gofod yn rhad ac am ddim. Bydd cysylltiad byw i鈥檙 lansiad ar sgriniau teledu mawr yng nghanol y ddinas.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi diwydiant awyrofod y DU yn llwyr - stori lwyddiant byd-eang sy鈥檔 creu swyddi a chyfleoedd ar gyfer miloedd o bobl. Gyda鈥檔 gweithlu sgiliau uchel, a鈥檔 gallu cynhyrchu o鈥檙 radd flaenaf, y mae鈥檙 sector yn ffynhonnell hanfodol o dwf a chryfder i economi Cymru.
Bydd taith Tim Peake yn eiliad hanesyddol i鈥檙 DU yn y gofod. Mae鈥檌 stori yn dangos yn eglur nad oes unrhyw gyfyngiadau ar beth a ellir ei gyflawni.
Mae鈥檔 fodel r么l pwerus ar gyfer y bobl ifanc yr ydym ni eu hangen i gryfhau gweithlu gwyddoniaeth a pheirianneg y wlad hon. Gallwn fod yn wirioneddol falch o鈥檙 hyn mae wedi鈥檌 gyflawni, a gobeithiaf fod miliynau o bobl ifanc drwy Gymru yn cael eu hysbrydoli gan ei daith anhygoel.
Mae鈥檙 diwrnod yn dod i ben gyda digwyddiad gyda鈥檙 nos ar thema gofod a fydd yn RHAD AC AM DDIM yn Techniquest o 5.30 tan 8.00p.m.
Bydd y digwyddiad gyda鈥檙 nos yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb gyda鈥檙 Gofodwr Pedro Duque sydd wedi hedfan ar daith gwennol ofod, wedi treulio amser ar fwrdd yr Orsaf Ofod Ryngwladol, ac ar hyn o bryd, mae鈥檔 Bennaeth Swyddfa Weithrediadau Hedfan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Yn ogystal, bydd cyfle i weld y sioe deulu newydd sbon Destination Space yn ogystal 芒 digon o weithgareddau ymarferol sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gofod. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys gweithdy rocedi, cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ar y gofod a gweld copi o lawn faint o grwydrwr y blaned Mawrth.
Datblygwyd Destination Space gyda Chymdeithas Canolfannau Darganfod Gwyddoniaeth y DU (ASDC) a bydd yn rhoi cyfle i deuluoedd ddysgu am daith Tim Peake drwy arbrofion ymarferol, arddangosfeydd rocedi a chyfarpar gofod. Yn ogystal, bydd y sioe ar gael yn Techniquest y flwyddyn nesaf. Datblygwyd gweithdy newydd ar gyfer ysgolion cynradd a bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru yn 2016.
Dywedodd Dr David Parker, Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y DU:
Dyn yn hedfan yn y gofod yw鈥檙 uchafbwynt mewn ymdrech t卯m gyda llawer o unigolion ymroddedig yn gweithio i gael gofodwr yn barod i fynd i鈥檙 gofod. Roeddem yn dymuno i鈥檙 rhaglen Destination Space gydnabod doniau鈥檙 bobl sy鈥檔 cefnogi Tim Peake, ac wrth wneud hynny, dangos yr holl gyfleoedd gyrfaoedd ffantastig y mae鈥檙 sector hwn yn ei gynnig i bobl ifanc.
Dywedodd Dr Anita Shaw, PSG Dros Dro Techniquest:
Bydd y gweithgareddau ar y diwrnod lansio ac sy鈥檔 cael eu cynnal yn Techniquest ac mewn ysgolion y flwyddyn nesaf, yn darparu cyfle i bawb i fod yn rhan o daith wefreiddiol Tim. Dyma ffordd ffantastig i ddarganfod mwy am y gofod a gobeithiwn y bydd y rhaglen gyffrous hon yn ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf o gynllunwyr teithiau a gwyddonwyr y gofod i ymgymryd 芒鈥檙 rhain a llawer o鈥檙 gyrfaoedd cyffrous eraill sydd ar gael i gefnogi uchelgeisiau鈥檙 diwydiant gofod yn y DU.
Nodiadau i Olygyddion:
-
Amcangyfrifir y bydd taith Principia Tim Peake yn parhau tan fis Mehefin 2016. Yn ystod yr amser hwnnw bydd yn cymryd rhan mewn llawer o arbrofion ar fwrdd y GOR.
-
Mae Cymru eisoes yn cynhyrchu 80 y cant o wydr gofod y byd ac mae鈥檔 anelu at gynhyrchu 5% o ddiwydiant gofod y DU erbyn 2030. Mae Fforwm Awyrofod Cymru yn datblygu hyn, drwy gwmn茂au awyrofod a thechnoleg yng Nghymru sy鈥檔 gweithio gyda chanolfannau ymchwil mewn prifysgolion.
Asiantaeth Ofod y DU
Mae Asiantaeth Ofod y DU wrth galon ymdrechion y DU i archwilio a chael budd o鈥檙 gofod. Mae鈥檔 gyfrifol am yr holl benderfyniadau strategol ar raglen ofod sifil y DU, ac mae鈥檔 darparu llais unigol, eglur ar gyfer uchelgeisiau gofod y DU.
Mae鈥檙 Asiantaeth yn gyfrifol am sicrhau bod y DU yn cadw ac yn meithrin gallu strategol yn y systemau, y technolegau, y wyddoniaeth a鈥檙 cymwysiadau sy鈥檔 seiliedig ar y gofod. Mae鈥檔 arwain rhaglen ofod sifil y DU er mwyn ennill twf economaidd cynaliadwy, sicrhau gwybodaeth wyddonol newydd a darparu buddion i鈥檙 holl ddinasyddion.
Mae Asiantaeth Ofod y DU yn:
- Cydlynu gweithgaredd gofod sifil y DU
- Annog ymchwil academaidd
- Cefnogi diwydiant gofod y DU
- Codi proffil gweithgareddau gofod y DU yn y wlad hon a thramor
- Cynyddu dealltwriaeth o wyddor ofod a鈥檌 buddion ymarferol
- Ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr yn y DU
- Trwyddedu lansio a gweithredu llongau gofod y DU
- Hyrwyddo cydweithredu a chyfranogi yn y rhaglen Ofod Ewropeaidd