Stephen Crabb: 鈥淒atganiad yr Hydref yn cyflawni dros Gymru鈥�
Datganiad yr Hydref y Canghellor yn darparu hwb mawr i bobl a busnesau Cymru.

Heddiw (3 Rhagfyr) croesawodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb Ddatganiad yr Hydref y Canghellor fel hwb mawr i Gymru - gan gynorthwyo i greu swyddi, gyrru twf a denu buddsoddiad.
Dywedodd Mr Crabb y byddai cynlluniau鈥檙 Canghellor yn darparu cymorth gwirioneddol i bobl, busnesau a chymunedau lleol sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed 鈥� gan adeiladu economi gryfach ar draws Cymru.
Mae鈥檙 mesurau yn Natganiad yr Hydref i helpu Cymru yn cynnwys: diwygio Treth Stamp yn sylweddol i helpu pobl sydd eisiau cael blaen eu troed ar yr ysgol dai; eithrio plant rhag Toll Teithwyr Awyr ar y teithiau awyr rhataf; cael gwared 芒 chyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yng nghyswllt prentisiaid dan 25 oed; cynyddu鈥檙 lwfans personol a datganoli trethi busnes yn llawn i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Heddiw mae鈥檙 Canghellor wedi cyflwyno pecyn grymus o fesurau i yrru economi Cymru ymlaen a darparu mwy o sicrwydd economaidd ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ledled Cymru 鈥� mae Datganiad yr Hydref yn cyflawni dros Gymru.
Diolch i鈥檙 penderfyniadau anodd a wnaed gennym yn y gorffennol, mae economi鈥檙 DU yn tyfu鈥檔 gyflymach nac unrhyw wlad ddatblygedig fawr arall. Bu diweithdra鈥檔 gostwng yng Nghymru ers dwy flynedd ac mae swyddi鈥檔 cael eu creu ar draws y wlad mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.
Gwyddom fod mwy i鈥檞 wneud, a dyna pam y mae鈥檔 rhaid i ni ddal ati. Dim ond wrth lynu at ein cynllun economaidd hirdymor y byddwn yn sicrhau dyfodol gwell a mwy sicr yn ariannol ar gyfer Cymru a鈥檙 DU gyfan.
Rwy鈥檔 benderfynol ein bod am barhau i wneud y penderfyniadau iawn ar gyfer economi Cymru i sicrhau dyfodol gwell a mwy ffyniannus ar gyfer pobl Cymru.
Mae鈥檙 mesurau i helpu Cymru yn Natganiad yr Hydref yn cynnwys:
- Diwygio Treth Stamp yn sylweddol ar brynu eiddo preswyl er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon ac yn decach, gan helpu pobl sydd eisiau cael blaen eu troed ar yr ysgol dai, neu symud i fyny鈥檙 ysgol. Dan y strwythur newydd, bydd trethi鈥檔 berthnasol i gyfran y pryniant sydd o fewn pob band. Byddai dros 99% o brynwyr tai yng Nghymru wedi talu llai neu yr un lefel o Dreth Stamp pe byddai鈥檙 strwythur newydd hwn wedi bod yn ei le yn 2013/14.
- Eithrio plant dan 12 oed rhag Toll Teithwyr Awyr o 1 Mai 2015, ac o 1 Mawrth 2016 yng nghyswllt plant dan 16 oed. Yng Nghymru, bydd yr eithriad yn golygu arbediad o 拢26 ar deithiau byr rhad a 拢142 ar deithiau hir i deulu 芒 dau o blant yn teithio o Faes Awyr Caerdydd.
- Diddymu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr ar gyfer prentisiaid dan 25 oed 鈥� gallai hyn fod o fudd i gyflogwyr oddeutu 22,000 o brentisiaid yng Nghymru. Bydd hyn yn ei gwneud dros 拢500 y flwyddyn yn rhatach i gyflogi prentis sy鈥檔 ennill 拢12,000 a thros 拢1,000 y flwyddyn yn rhatach i gyflogi prentis sy鈥檔 ennill 拢16,000.
- Cynnydd yn y lwfans personol o 拢10,000 i 拢10,600 o 2015/16. Bydd oddeutu 20,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heithrio鈥檔 llwyr rhag talu treth incwm a bydd 1.1 miliwn o bobl eraill ar eu hennill o 拢94.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cael 拢123 miliwn o gyllid ychwanegol hyd 2015/16. Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm y grym gwario ychwanegol a ganiatawyd i Lywodraeth Cymru ers adolygiad gwariant 2010 dros 拢1.2 biliwn.
- Datganoli trethi busnes yn llawn, a fydd yn cynyddu hunanreolaeth ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru a rhoi鈥檙 arfau iddynt wneud economi Cymru鈥檔 fwy deinamig. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno ar setliad ariannol a fydd yn dangos 拢98.5 miliwn o gynnydd yn nyraniadau Llywodraeth Cymru sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 Gyfradd Ddidynnu Arferol (NDR) yn dilyn datganoli.
- O fis Ebrill 2015 bydd elusennau chwilio ac achub ac ambiwlansys awyr yn gymwys i wneud cais am ad-daliad TAW. Yng Nghymru, bydd y cynllun ad-daliad TAW ar gael i o leiaf 15 elusen chwilio ac achub ac elusennau ambiwlans awyr sy鈥檔 gwasanaethu鈥檙 ardal. Bydd elusennau Bad Achub yng Nghymru hefyd yn cael budd o鈥檙 cynllun. Mae ymdrechion yr elusennau hyn yn helpu i gadw鈥檙 rhai sy鈥檔 ymweld 芒鈥檙 mynyddoedd a鈥檙 arfordir yn ddiogel.
- Bydd y rhaglen Dinasoedd Cysylltiad Cyflym yn cael ei hymestyn. Mae鈥檙 cynllun ar gael ar hyn o bryd mewn 22 o ddinasoedd ledled y wlad gyda鈥檙 potensial ar gyfer 28 o ddinasoedd ychwanegol o fis Ebrill 2015. Yng Nghymru, bydd y cynlluniau yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn cael eu hymestyn am 12 mis hyd fis Mawrth 2016 ac yn parhau鈥檔 agored i鈥檙 holl fusnesau bach a chanolig, elusennau, mentrau cymdeithasol a masnachwyr unigol yn y dinasoedd. Mae oddeutu 279 o dalebau band eang i fusnesau wedi eu cyflwyno hyd yma.
- Bydd y Lwfans Cyflogaeth sy鈥檔 darparu gostyngiad o hyd at 拢2,000 i gyflogwyr ar eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael ei ymestyn o Ebrill 2015 i gynnwys unigolion sy鈥檔 cyflogi gweithwyr cefnogi a gofal ar eu cyfer eu hunain neu aelod o鈥檜 teulu. Mae oddeutu 35,000 o gyflogwyr wedi cael budd o鈥檙 lwfans cyflogaeth yn y chwe mis cyntaf ers iddo gael ei lansio ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd o 72% yn ei ddefnyddio.
- 拢60m ychwanegol ar gyfer y Cronfeydd Cenedlaethol 鈥楳ynediad i Bawb鈥� sy鈥檔 darparu cyllid i wella mynediad mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae鈥檙 gronfa鈥檔 gymwys i orsafoedd yng Nghymru a Lloegr.