Stephen Crabb AS yn cael ei ailbenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Stephen Crabb: 鈥淏yddaf yn llais cryf wrth fwrdd y Cabinet ac yn parhau i sicrhau llwyddiannau i Gymru."

Heddiw (11 Mai), ailbenodwyd Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac fe addawodd yn syth y byddai鈥檔 defnyddio鈥檌 ddylanwad yn y Cabinet i sicrhau mwy o lwyddiannau i Gymru.
Ac yntau鈥檔 siarad ar 么l cyfarfod 芒鈥檙 Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing, dywedodd Stephen Crabb:
Mae鈥檙 canlyniadau anhygoel a welsom yn oriau m芒n fore Gwener yn ategu鈥檙 hyn rwyf wedi bod yn ei glywed gan bobl ledled Cymru. Mae pobl yn dechrau teimlo buddion adferiad economaidd.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi dangos y gallwn greu鈥檙 amodau ar gyfer twf economaidd a rhoi Cymru ar y map drwy ddod 芒 digwyddiadau byd-eang mawr i鈥檔 gwlad. Mae gennym bellach gyfle gwych i siapio鈥檙 dyfodol a sicrhau bod Cymru yn lle gwell byth i fyw a gweithio ynddo.
Mae pobl wedi dangos eu bod yn rhannu fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru - gwlad uchelgeisiol wedi鈥檌 chodi ar sylfeini economaidd cadarn. Ein gwaith o hyn ymlaen fydd adnewyddu鈥檙 ymdeimlad o degwch yn ein cymdeithas, sicrhau bod yr adferiad economaidd yn cyrraedd pob rhan o Gymru a chryfhau ein Teyrnas Unedig.
Mae鈥檔 fraint cael bob yn rhan o hyn drwy fod yn llais cryf wrth fwrdd y Cabinet a pharhau i sicrhau llwyddiannau i Gymru.