Stephen Crabb yn canmol r么l busnesau bach o ran hybu allforio
Mae Stephen Crabb wedi canmol r么l busnesau bach o ran hybu allforio, wrth i arolwg ddatgelu bod llyfrau archebu y rhan fwyaf ohonynt yn llenwi'n gyflym

Heddiw (9 Hydref), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi canmol r么l busnesau bach o ran hybu allforio, wrth i arolwg newydd ddatgelu bod llyfrau archebu y rhan fwyaf ohonynt yn llenwi鈥檔 gyflym.
Mae ffigurau sydd allan heddiw yn dangos bod tri chwarter cwmn茂au bach a chanolig Cymru鈥檔 dweud eu bod yn gwerthu鈥檔 dda dramor neu eu bod yn gwerthu mwy a mwy dros y m么r.
Siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol ym mrecwast busnes Siambr Fasnach De Cymru wrth i鈥檙 sefydliad gyhoeddi ei Arolwg Economaidd Chwarterol ar gyfer Cymru Gyfan. Mae鈥檙 arolwg a gasglwyd ynghyd 芒 Siambrau Canolbarth Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, yn rhoi darlun cynhwysfawr o gyflwr yr economi yn y rhanbarth.
Dywedodd Mr Crabb:
Mae ein busnesau bach yn helpu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru.
Mewn marchnad fyd-eang anodd, y cwmn茂au uchelgeisiol sydd 芒鈥檙 hyder i fod yn greadigol, sy鈥檔 ffynnu.
Busnesau bach yw hanfod ein heconomi ar gyfer menter ac mae鈥檙 cynnydd yn yr archebion sydd wedi鈥檜 nodi heddiw yn dangos bod pethau鈥檔 edrych yn dda.
Serch hynny, mae llai o fusnesau鈥檔 adrodd am welliant mewn gwerthiant allforio, felly mae鈥檔 rhaid i ni ddal ati i weithio鈥檔 galed i sicrhau鈥檙 amodau iawn i gwmn茂au dyfu a鈥檜 cefnogi yn y marchnadoedd dros y m么r.
Yn 2014, roedd busnesau bach a chanolig yng Nghymru鈥檔 cyfrif am 99.9 y cant o fusnesau yn y sector preifat, tri chwarter cyflogaeth a dros hanner (59 y cant) trosiant.
Mae鈥檙 clwstwr o brosiectau buddsoddi mawr sydd ar y gweill yn cyfleu hyder Llywodraeth y DU mewn busnesau yng Nghymru, meddai鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol wrth y rhai a oedd yn bresennol. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:
- Buddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd - y cynllun mwyaf uchelgeisiol ers datblygu鈥檙 rhwydwaith rheilffyrdd yn y 19eg ganrif.
- Cyflwyno band-eang cyflym.
- Cynnig Bargen Dinas i Gaerdydd
Dywedodd Mr Crabb fod Cymru wedi bod yn lleihau鈥檙 bwlch o ran cynhyrchiant 芒 gweddill y DU ers 2010. 鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni ddatblygu a bwrw ymlaen ar y llwybr hwn,鈥� ychwanegodd.