Stori newyddion

Datganiad ar ran y Bwrdd Pontio

Cynhaliwyd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2025.

Cynhaliwyd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2025.

Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, am gymeradwyaeth gan y Bwrdd ar gyfer cronfa iechyd meddwl a llesiant gwerth 拢3.27 miliwn, sydd wedi鈥檌 chynllunio i gefnogi gweithwyr, teuluoedd a chymunedau cysylltiedig yr effeithir arnynt. Bydd y cyllid yn cryfhau ac yn ehangu鈥檙 gwasanaethau presennol a ddarperir gan yr awdurdod lleol a phartneriaid yn y trydydd sector. Bydd y cymorth hwn yn ceisio darparu grantiau i grwpiau cymunedol, cymorth i ysgolion, a gwasanaethau iechyd meddwl ymgynghorol.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i鈥檙 cymunedau y mae trawsnewidiad Tata Steel UK yn effeithio arnynt. Drwy sicrhau bod y trydydd sector yn cael ei ariannu鈥檔 briodol a bod ganddo adnoddau priodol i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y gymuned, mae鈥檙 Bwrdd hwn yn dangos ei ymrwymiad i sicrhau鈥檙 cymorth iechyd meddwl cywir i鈥檙 rhai yr effeithir arnynt. Mae鈥檙 Bwrdd yn deall y gellir gwarchod iechyd meddwl da a chadernid yn y gymuned drwy gymryd y camau ataliol hyn, a fydd yn sicrhau gweithlu iach sydd yn ei dro yn golygu bod pobl yn osgoi salwch tymor hir, gan sicrhau swyddi a bywoliaeth a hybu twf economaidd ar gyfer y rhanbarth cyfan.

Cafodd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol hefyd:

  • Rhaglen ddatgarboneiddio Tata Steel UK;
  • Cynlluniau鈥檙 Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
  • Cronfeydd y Bwrdd Pontio sydd eisoes wedi鈥檜 cyhoeddi, gan gynnwys ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer cronfa鈥檙 Gadwyn Gyflenwi, a chymorth sy鈥檔 cael ei ddarparu gan y gronfa Cyflogaeth a Sgiliau.

Roedd y canlynol yn bresennol: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; Rebecca Evans AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Sarah Jones AS, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net a鈥檙 Adran Busnes a Masnach; Alex Norris AS Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol; y Cynghorydd Steve K Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O鈥橞rien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK; Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg; David Rees, AoS Aberafan; Tom Giffard, AoS dros ranbarth Gorllewin De Cymru; Luke Fletcher AoS dros ranbarth Gorllewin De Cymru; Sarah Williams-Gardner; Anne Jessopp CBE a Katherine Bennet CBE, aelodau annibynnol o鈥檙 Bwrdd; Tom Hoyles, Swyddog Gwleidyddiaeth, Ymchwil a鈥檙 Wasg, GMB Cymru.

-diwedd-

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2025