Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn ymateb i ddigwyddiad Celsa
Dau yn marw a phum wedi'u hanafu yn y digwyddiad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae wedi bod yn ddiwrnod cwbl dorcalonnus i deuluoedd y ddau o weithwyr Celsa a gollodd eu bywydau mor drasig. Rwy鈥檔 cydymdeimlo鈥檔 llwyr gyda nhw a鈥檜 cydweithwyr ar yr adeg eithriadol anodd yma. Mae ein meddyliau hefyd gyda鈥檙 rhai a anafwyd.
Mae鈥檙 gwaith yn nodwedd arbennig yn nhirlun diwydiannol de Cymru, ac mae鈥檙 hyn a ddigwyddodd heddiw wedi cyffwrdd calonnau pob un ohonom.
Wrth i鈥檙 teuluoedd alaru am eu hanwyliaid, ac wrth i鈥檙 rhai a anafwyd yn y ffrwydrad ddechrau gwella, rhaid inni nawr adael i鈥檙 ymchwiliad gael ei gynnal a sicrhau bod gwersi鈥檔 cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.