Stori newyddion

Datganiad ar ran yr unfed ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Cadeiriodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens yr unfed ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot

Cafwyd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 6 Chwefror 2025.

Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, sef y Gwir Anrhydeddus yr Aelod Seneddol Jo Stevens, am gymeradwyaeth gan y Bwrdd i gyhoeddi 拢8.2 miliwn ar gyfer SWITCH (South Wales Industrial Transition from Carbon Hub). Bydd y prosiect hwn yn cefnogi dros 100 o swyddi ac yn cynhyrchu dros 拢87 miliwn ar gyfer economi De Cymru, gan gefnogi Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Newid a鈥檌 chenhadaeth ar gyfer twf economaidd.

Dyma鈥檙 prosiect cyntaf i dderbyn cyllid fel rhan o鈥檙 prosiectau twf ac adfywio ym Mhort Talbot. Mae鈥檔 gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, gyda phartneriaid yn y diwydiant a鈥檙 sector cyhoeddus. Mae cyllid y Bwrdd Pontio yn ychwanegol at yr 拢20 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd SWITCH yn cyflawni ymchwil i gefnogi ac uno鈥檙 newid i ddatgarboneiddio. Disgwylir y bydd rhagor o brosiectau twf ac adfywio yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Yr arian sy鈥檔 cael ei ryddhau heddiw yw鈥檙 pedwerydd cyhoeddiad o gronfa 拢80m Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot Llywodraeth y DU 鈥� sydd, ers mis Gorffennaf diwethaf, wedi cyhoeddi 拢51 miliwn i gefnogi gweithwyr a busnesau dur unigol yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel i ddiogelu swyddi a thyfu鈥檙 economi leol.

Bu鈥檙 Bwrdd hefyd yn trafod cymorth iechyd meddwl. Bydd rhagor o wybodaeth am yr ymyriadau sy鈥檔 cael eu datblygu i gefnogi iechyd meddwl yn y gymuned yn cael ei chyhoeddi yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio ar 27 Mawrth, yn dilyn cynllun peilot iechyd meddwl yng Nghanolfan Gymorth Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan Siopa Aberafan.

Cafodd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol hefyd:

  • Rhaglen ddatgarboneiddio Tata Steel UK;
  • Cynlluniau鈥檙 Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
  • Cymhorthfa Undeb Community ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnynt;
  • Cronfeydd y Bwrdd Pontio sydd eisoes wedi鈥檜 cyhoeddi, gan gynnwys ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer cronfa鈥檙 Gadwyn Gyflenwi, a chymorth sy鈥檔 cael ei ddarparu gan y gronfa Cyflogaeth a Sgiliau.

Roedd y canlynol yn bresennol: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; Rebecca Evans AoS, Ysgrifennydd y Cabinet聽 dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Sarah Jones AS, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net a鈥檙 Adran Busnes a Masnach; y Cynghorydd Steve K Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O鈥橞rien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK; Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg; David Rees, AoS Aberafan; Tom Giffard, AoS dros ranbarth Gorllewin De Cymru; Luke Fletcher AoS dros ranbarth Gorllewin De Cymru; Sarah Williams-Gardner; Anne Jessopp CBE a Katherine Bennet CBE, aelodau annibynnol o鈥檙 Bwrdd; Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, yr Undeb Cymunedol; a Jason Bartlett Swyddog Rhanbarthol ar gyfer Unite the Union.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Chwefror 2025