Datganiad i'r wasg

Neges Dydd G诺yl Dewi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

David Jones yn anfon ei ddymuniadau gorau ar gyfer Dydd G诺yl Dewi

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Welsh Flag

Ar Ddydd G诺yl Dewi, bydd pobl ar hyd a lled Cymru yn dathlu nid yn unig bywyd ein nawddsant, ond hefyd beth mae bod yn Gymro neu Gymraes yn ei olygu.

Mae ein treftadaeth Gymreig unigryw yn deillio o鈥檔 hanes, ein traddodiadau ac - yn anad dim o bosib - ein hiaith hynafol. Ond rydym hefyd yn dystion i ddyfodiad Cymru newydd; cenedl hyderus, falch sydd 芒鈥檌 golygon at y byd.

Cymru, a buddiannau Cymreig, yw calon y Llywodraeth hon.

Gan atseinio geiriau Dewi, bydd y Llywodraeth hon yn 鈥榞wneud y pethau bychain鈥� angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein cynllun tymor-hir - sef adeiladu economi cryfach a mwy cystadleuol, a chymdeithas decach i bobl Cymru.

Ond rydym yn gwneud pethau mawr, hefyd. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyhoeddi buddsoddiad 拢250 miliwn mewn carchar newydd yn Wrecsam, cefnogi cyllid ar gyfer gorsaf p诺er niwclear Wylfa Newydd ac, yn fwy diweddar, ychwanegu 拢12 miliwn at ein buddsoddiad 拢57 miliwn gwreiddiol mewn band eang cyflym iawn.

Mae鈥檙 buddsoddiad hwn eisoes yn dwyn ffrwyth. Yng Nghymru, mae gennym fwy o bobl mewn gwaith ar hyn o bryd nag erioed o鈥檙 blaen, ac mae ein cyfradd diweithdra dan gyfartaledd y DU. Mae pob swydd newydd yn golygu mwy o sicrwydd i bobl Cymru, gan eu galluogi i droi eu golygon tua鈥檙 dyfodol gyda mwy o hyder.

Rydym wedi sefydlu mesurau a fydd yn lleihau costau byw pobl Cymru. Rydym wedi cynyddu trothwyon treth incwm a rhewi鈥檙 dreth danwydd er mwyn helpu pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed i gael sicrwydd ariannol.

Mae鈥檙 Llywodraeth hon hefyd yn sefyll cornel busnesau Cymru. Rydym yn creu鈥檙 amgylchedd priodol lle gall busnesau ffynnu drwy gefnogi busnesau bach a menter gyda gwell seilwaith a threthi swyddi llai.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld mwy o fusnesau鈥檔 llwyddo a ffynnu yma yng Nghymru ac, o ganlyniad, creu cyfleoedd cyflogaeth a chyfrannu tuag at fwy o dwf economaidd.

Yr wyf yn edrych ymlaen at nodi llwyddiannau busnesau Cymru mewn derbyniad G诺yl Ddewi yn ddiweddarach yn yr wythnos yn Llundain, lle bydd nifer o westeion amlwg o gymuned fusnes Cymru鈥檔 bresennol.

Credaf yn gryf mai鈥檙 allwedd i ffyniant hirdymor Cymru fydd manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil marchnad fyd-eang gynyddol. Mae gennym eisoes rai busnesau Cymreig ardderchog yng Nghymru sy鈥檔 masnachu鈥檔 rhyngwladol, gan brofi bod Cymru heddiw鈥檔 gallu llwyddo yn y ras fyd-eang.

Yn ddiweddar, dychwelais o Oman a Malaysia, fel rhan o ymweliad i hyrwyddo鈥檙 Deyrnas Unedig fel cyrchfan fusnes. Ac mor ddiweddar ag wythnos diwethaf, croesewais ddirprwyaeth o Indonesia i Gymru i archwilio beth mwy y gellir ei wneud i gryfhau cysylltiadau busnes ac addysg rhwng Cymru ac Indonesia, er budd hirdymor economi Cymru.

Yn ddiweddarach yn y mis, gyda Masnach a Buddsoddi鈥檙 DU, byddaf yn cynnal derbyniad yng nghartref swyddogol Llysgennad Prydain ym Mharis ar gyfer busnesau Cymreig sydd eisoes yn gweithredu, neu sydd 芒 diddordeb mewn gweithredu, ym marchnad Ffrainc.

Mae鈥檔 hollbwysig ein bod yn manteisio ar dwf mewn marchnadoedd tramor, a bydd Swyddfa Cymru鈥檔 gwneud popeth o fewn ei gallu i feithrin cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau Cymreig.

Mae ein treftadaeth ddiwylliannol hefyd yn elfen allweddol o iechyd ein heconom茂au lleol.

Gydag wythnos dwristiaeth gyntaf Cymru ar droed, mae Gweinidogion Swyddfa Cymru eisoes wedi cael cyfle i brofi rhai o鈥檙 atyniadau sydd gennym ar ein stepen drws.

A gydag Uwchgynhadledd NATO i鈥檞 chynnal yn ne Cymru fis Medi, rydym eisiau sicrhau bod twristiaeth yng Nghymru - yn ogystal ag economi ehangach Cymru - yn manteisio i鈥檙 eithaf ar y sylw rhyngwladol nas gwelwyd ei debyg o鈥檙 blaen a fydd yn cael ei hoelio ar ein gwlad.

Yn 2014, byddwn hefyd yn dod ynghyd fel cenedl i nodi canmlwyddiant dechrau鈥檙 Rhyfel Mawr. Dros raglen bedair blynedd o ddigwyddiadau, byddwn yn anrhydeddu bywydau a dewrder pawb a wasanaethodd yn y rhyfel, drwy wasanaeth milwrol ac ar y ffrynt cartref. Heddiw, carwn anfon fy nghofion cynhesaf at bobl Cymru, boed hwy鈥檔 byw gartref neu鈥檔 gweithio i ffwrdd, ac yn enwedig at y rhai sy鈥檔 gwasanaethu mewn cyrchoedd milwrol ym mhedwar ban byd.

O Gemau鈥檙 Gymanwlad i ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas, bydd 2014 yn sicr o roi digon o gyfle i Gymru ddisgleirio ar y llwyfan byd-eang. Gadewch i ni ddefnyddio鈥檙 Dydd G诺yl Ddewi hwn i edrych tua鈥檙 dyfodol gydag egni ac optimistiaeth newydd.

Dydd G诺yl Dewi hapus i bawb.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David Jones AS

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Chwefror 2014