Datganiad i'r wasg

Mae busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyflenwi twf economaidd i Gymru

David Jones yn ymweld 芒 busnesau yn ne Cymru sy'n gwneud argraff fawr mewn marchnadoedd allforio byd-eang

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Steve Dalton OBE, Managing Director of Sony UK technology centre with Welsh Secretary David Jones

O gewri technoleg sy鈥檔 allforio cynnyrch i gwsmeriaid ar draws y byd i gwmni fferyllol sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflym, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn gweld yr wythnos yma sut mae cwmn茂au sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru yn gwneud camau breision mewn marchnadoedd allforio rhyngwladol.

Yr wythnos hon, bydd David Jones yn ymweld 芒 Sony UK Technology Centre (UK TEC) a cwmni Biotec Service International ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld y r么l bwysig sydd gan y busnesau hyn yn nhaith Cymru tuag at adferiad.

Wrth siarad cyn yr ymweliadau, dywedodd Mr Jones:

Dyma fy nhaith gyntaf i dde Cymru ers i Ddatganiad yr Hydref gael ei gyflwyno gan y Canghellor wythnos diwethaf, ac ers i Lywodraeth y DU lansio ei strategaeth Small Business: GREAT Ambition.

Mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi ymrwymo i greu鈥檙 amodau iawn er mwyn i gwmn茂au allu buddsoddi a thyfu, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at glywed sut mae鈥檙 mesurau a gyhoeddwyd gennym wedi鈥檜 derbyn gan y busnesau y byddaf yn ymweld 芒 nhw yn ystod yr wythnos hon.

Yn ystod ei ymweliad 芒 Sony UK Technology Centre (Dydd Iau 12 Rhagfyr), cynhyrchwr systemau camera a chamer芒u darlledu a phroffesiynol, bydd Mr Jones yn cael ei groesawu a鈥檌 hebrwng o gwmpas gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Steve Dalton OBE a Rheolwr Cyffredinol y safle, Gerald Kelly. Bydd Mr Jones yn cael ei hebrwng o gwmpas y safle, a bydd yn cwrdd ag aelodau o weithlu Sony UK TEC sy鈥檔 gwneud eu marc ar sector cynhyrchu鈥檙 DU sy鈥檔 tyfu.

Yn ogystal 芒 chynhyrchu systemau camera a chamer芒u darlledu a phroffesiynol, mae鈥檙 safle鈥檔 cynnig atebion cynhyrchu trydydd parti. Yn 2012, llwyddodd Sony UK TEC i gael y gwaith o gynhyrchu鈥檙 Raspberry PI newydd gan China, gwaith cynhyrchu sy鈥檔 werth sawl miliwn o bunnoedd. Ers hynny, mae鈥檙 busnes wedi gweld llwyddiant y cyfrifiadur bach maint cerdyn credyd hwn yn mynd o nerth i nerth, ac mae nifer y cyfrifiaduron Pi sy鈥檔 cael eu cynhyrchu yn y ffatri ym Mhencoed yn cyrraedd bron i 12,000 o unedau y dydd. Oherwydd y cynnydd sydyn hwn, mae鈥檙 safle wedi cyflogi 40 unigolyn arall i ymdopi 芒 lefel y galw, a chynhyrchwyd y miliynfed Pi ym mis Hydref 2013.

Mae safle Pencoed yn rhoi gwaith i 500 o bobl, gan gynnwys 350 o weithwyr uniongyrchol, a 150 o staff yn gweithio i 28 cwmni mewn canolfan deori busnesau ar y safle. Enwyd y ffatri hon yn ne Cymru fel y Gorau ym Mhrydain yng Ngwobrau Ffatr茂oedd Gorau 2013 鈥� y tro cyntaf i gwmni yng Nghymru ennill yr anrhydedd.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:

Mae鈥檙 sector cynhyrchu yng Nghymru yn gyfrifol am oddeutu 10 y cant o鈥檙 holl swyddi yng Nghymru. 8 y cant yw鈥檙 ffigur ar gyfer y DU i gyd.

Mae Sony UK Technology Centre yn prysur bwysleisio ei enw da鈥檔 rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ym maes cynhyrchu. Mae鈥檙 gwobrau y mae wedi鈥檜 hennill, y contractau y mae鈥檔 eu hennill a鈥檙 cynnyrch y mae鈥檔 eu hallforio i gyd yn dangos ei fod yn gwmni sy鈥檔 rhagori, ac yn sicr yn brawf fod Cymru ar agor i fusnes.

Dywedodd Steve Dalton OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr, Sony UK Technology Centre:

Rydym yn croesawu ymweliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru 芒鈥檔 safle yr wythnos hon. Mae 2013 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i鈥檙 safle. Er enghraifft, mae ein contractau cynhyrchu trydydd parti wedi parhau i dyfu, rydym wedi ehangu ein portffolio cynnyrch Sony, ac rydym hefyd wedi ennill y wobr Ffatri Orau Prydain.

Mae ymweliad Mr Jones yn gyfle i ddangos y gweithgareddau busnes arloesol sy鈥檔 digwydd ar y safle. Bydd yn gweld drosto鈥檌 hun sut rydym yn rhagori yn eich galluoedd a thechnegau cynhyrchu. Mae hyn yn ein galluogi i gynhyrchu cynnyrch Sony a chynnyrch ar gyfer eraill sy鈥檔 ddibynadwy ac o safon uchel ar gyfer y farchnad fyd-eang.

Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi a datblygu rhagor ar yr hyn y mae鈥檙 safle鈥檔 ei gynnig, gan sicrhau cynaliadwyedd y safle i鈥檙 dyfodol a thrwy hynny helpu i ddatblygu a chyfrannu at yr economi leol ac economi鈥檙 DU.

Ar 么l ei ymweliad 芒 Sony UK Tec, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld 芒 Biotec Services International Limited (Biotec) 鈥� cwmni cyflenwadau clinigol blaenllaw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe鈥檌 sefydlwyd yn 1997, ac mae鈥檙 t卯m wedi tyfu鈥檔 sylweddol ac wedi meithrin partneriaethau cryf 芒 chwmn茂au biotechnoleg a fferyllol o鈥檙 radd flaenaf ar draws y byd, gan gynnwys Ewrop, UDA, Canada, Israel a Japan.

Mae鈥檙 allforion sy鈥檔 cael eu gwerthu wedi cynyddu 517% dros y pum mlynedd diwethaf ac, yn 2009, derbyniodd Biotec y wobr nodedig, Gwobr y Frenhines am Fenter yn y categori Masnach Ryngwladol i gydnabod ei sylfaen cwsmeriaid byd-eang. Yn fwy diweddar enillodd Biotec y teitl Cyflawniad mewn Busnes Rhyngwladol yng ngwobrau Siambr Siambrau Masnach Prydain

Yn ystod ei ymweliad, bydd Mr Jones yn cwrdd 芒 Keren Winmill, Prif Swyddog Gweithredol, a Fiona Withey, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Biotec, a fydd yn amlinellu cynlluniau presennol y cwmni a鈥檌 gynlluniau i鈥檙 dyfodol, ac yn ei dywys ar daith o gwmpas y safle.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Biotec, Keren Winmill:

Rydym wrth ein bodd yn cael croesawu鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol i Biotec Services. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld twf sydyn, nid yn unig yn ein refeniw, ond hefyd yng ngalluoedd ein timau a鈥檔 darpariaeth fyd-eang. Mae gennym amcanion uchelgeisiol o hyd ar gyfer y tair blynedd nesaf ac rydym wedi ymrwymo i arwain y diwydiant gyda rheoli鈥檙 gadwyn gyflenwi y rheolir ei dymheredd ar gyfer treialon clinigol a therap茂au celloedd.

Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 cwmn茂au rwyf yn ymweld 芒 nhw heddiw yn ganolfannau rhagoriaeth ynddynt eu hunain ac yn gyflogwyr hollbwysig yng Nghymru. Mae eu llwyddiannau鈥檔 pwysleisio pwysigrwydd annog mwy o fewnfuddsoddi a chyfleoedd allforio ym Mhrydain.

Er bod y cwmn茂au hyn yn llwyddiannus gartref a thramor, rydym am weld rhagor o fusnesau Cymru yn dilyn eu hesiampl. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd rhoi cymorth gweithredol i ddatblygu busnesau sydd 芒鈥檙 potensial i dyfu 鈥� rhai bach a mawr.

Mae lansio鈥檙 strategaeth Small Business: GREAT Ambition yn dangos bod y Llywodraeth hon yn gwrando ar gymuned fusnes Prydain ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i chwalu鈥檙 rhwystrau y maent yn eu hwynebu, gwella鈥檙 amgylchedd busnes a鈥檌 gwneud yn haws iddynt gyflawni鈥檜 potensial.

Mae hyn i gyd yn adeiladu ar ein hymrwymiad i fusnesau yn Natganiad yr Hydref - buddsoddi 拢250m yn rhagor ym Manc Busnes Prydain, rhewi treth ar danwydd, ymestyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, a鈥檌 gwneud yn haws cyflogi staff o dan 21 oed.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2013 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.