Datganiad i'r wasg

Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru yw鈥檙 safle yn y du a ffefrir ar gyfer enwebiad treftadaeth y byd 2019

Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru fydd yr enwebiad nesaf a ffefrir gan y DU ar gyfer statws safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Welsh slate landscape

Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru fydd yr enwebiad nesaf a ffefrir gan y DU ar gyfer statws safle Treftadaeth y Byd UNESCO, cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Michael Ellis heddiw.

Dywedir bod yr ardal 鈥� sy鈥檔 rhedeg drwy Sir Gwynedd 鈥� 鈥渨edi darparu toeau ar gyfer y byd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg鈥� oherwydd bod llechi o鈥檙 chwareli yn cael eu hallforio o gwmpas y byd.

Cafodd y dirwedd ei hasesu ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd gan banel o arbenigwyr yn y DU yr haf hwn a bydd yn cael ei chyflwyno yn ffurfiol i UNESCO y flwyddyn nesaf

Yna bydd yn cael ei hystyried gan y Cyngor Rhyngwladol o Safleoedd a Chofebion ac wedyn gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd yn 2021. Pe bai鈥檔 cael ei chymeradwyo, bydd y Dirwedd Lechi yn ymuno 芒 safleoedd tebyg i Barc Cenedlaethol y Grand Canyon, y Great Barrier Reef ac Ardal y Llynnoedd fel Safle Dynodedig Treftadaeth y Byd.

Yna bydd yn cael ei hystyried gan y Cyngor Rhyngwladol o Safleoedd a Chofebion ac wedyn gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd yn 2021. Pe bai鈥檔 cael ei chymeradwyo, bydd y Dirwedd Lechi yn ymuno 芒 safleoedd tebyg i Barc Cenedlaethol y Grand Canyon, y Great Barrier Reef ac Ardal y Llynnoedd fel Safle Dynodedig Treftadaeth y Byd.

Pe bai鈥檔 cael ei gofrestru, hwn fyddai pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, ochr yn ochr 芒 Thirwedd Diwydiannol Blaenafon, Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd a Dyfrbont Pontcysyllte.

Dywedodd Michael Ellis, Gweinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth

Mae tirwedd llechi Gwynedd yn anferthol o bwysig. Mae鈥檌 chwareli a鈥檌 chloddfeydd anferth nid yn unig wedi llunio cefn gwlad y rhanbarth, ond hefyd adeiladau di-rif drwy鈥檙 DU a鈥檙 byd.

Mae hon yn garreg filltir hollbwysig ar y ffordd i ddod yn safle Treftadaeth Byd a鈥檙 gydnabyddiaeth fyd-eang a ddaw gyda hynny. Tra bod proses enwebu UNESCO yn drylwyr iawn, credaf y byddai鈥檙 dirwedd unigryw hon yn ychwanegiad teilwng at y rhestr.

Dywedodd Mims Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:

Mae鈥檔 rhoi pleser mawr i mi weld bod y dirwedd lechi yng Ngwynedd, sy鈥檔 adnabyddus trwy鈥檙 byd, wedi cael ei dewis fel yr enwebiad a ffefrir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Nid yn unig bod anrhydedd fel hyn yn tynnu sylw at y prydferthwch aruthrol a鈥檙 hanes sydd gan Gymru i鈥檞 cynnig, ond mae hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad a thwristiaeth. Byddai鈥檙 statws, sy鈥檔 cael ei gydnabod drwy鈥檙 byd, yn helpu i adfywio a datblygu economi鈥檙 ardaloedd llechi sydd wedi dylanwadu mor sylweddol ar gymunedau a threftadaeth Gogledd-orllewin Cymru.

Ar hyn o bryd, mae gan y DU 31 o Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill a gall enwebu un safle pob blwyddyn galendr. Enwebwyd Arsyllfa Jodrell Bank ym mis Ionawr 2018, ac yn ddiweddar mae wedi derbyn ymweliad gwerthuso gan ymgynghorwyr arbenigol UNESCO. Bydd penderfyniad yngl欧n 芒 chofrestru鈥檙 safle hwnnw yn digwydd yn ystod cyfarfod blynyddol y pwyllgor yr haf nesaf.

Bydd derbyniad Seneddol ar y Dirwedd Lechi, wedi鈥檌 fynychu gan y Gweinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth yn digwydd y prynhawn yma.

Nodiadau ar gyfer y Golygydd

  • Mae enghraifft o鈥檙 dirwedd lechi wedi鈥檌 chynnwys isod.

  • Mae Canolfan Treftadaeth y Byd yn rheoli dros 1000 o safleoedd o gwmpas y byd ac mae gan y DU 31 o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

  • Unwaith y mae enwebiad yn cael ei gyflwyno, mae ymgynghorwyr arbenigol UNESCO yn asesu鈥檙 safle ac yn gwneud argymhelliad i Bwyllgor Treftadaeth y Byd.

  • Mae鈥檙 newyddion, sy鈥檔 dod ar 么l i鈥檙 Dirwedd Lechi basio鈥檙 broses werthuso dechnegol drwyadl, yn arwydd o gefnogaeth y Llywodraeth mewn egwyddor ar gyfer enwebiad i鈥檞 gyflwyno yn ffurfiol yng nghanol 2019.

  • Yng Nghymru, roedd 1 miliwn o ymweliadau gan dwristiaid tramor yn ystod 2017, a gwariwyd 拢369 miliwn yn yr economi leol.

  • Yn ychwanegol, gwnaed 9 miliwn o deithiau dros nos i Gymru yn ystod 2017 gan breswylwyr o Brydain a gwariwyd 拢1.6 biliwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Hydref 2018 show all updates
  1. We have added the Welsh translation.

  2. First published.