Simon Hart yn croesawu cefnogaeth y Loteri Genedlaethol i B锚l-droed Cymru
Bydd pedwardeg pedwar o glybiau yng Nghynghrair Cymru yn elwa o鈥檙 gefnogaeth

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi croesawu pecyn cymorth gwerth 拢750,000 ar gyfer pob un o鈥檙 44 o glybiau Cynghrair Cymru yng Nghymru mewn partneriaeth 芒鈥檙 Loteri Genedlaethol.
Bydd y pecyn ariannol, a sefydlwyd gan Gymdeithas P锚l-droed Cymru yr FAW a鈥檙 Loteri Genedlaethol a hwylusir gan Lywodraeth y DU yn gweld clybiau mewn tair is-adran yng Nghynghrair Cymru yn derbyn cymorth tra bod gemau yn parhau i gael eu chwarae tu 么l i ddrysau caeedig oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd y pecyn yn chwarae rhan allweddol i sicrhau y gall y clybiau barhau mewn bodolaeth a gweithredu yn ystod y cyfnod anodd yma.
Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae clybiau yng Nghynghrair Cymru yn chwarae rhan allweddol yn eu cymunedau lleol, ac fel llawer o rai eraill, maent wedi bod yn cael trafferth yn yr hinsawdd sydd ohoni. Rwy鈥檔 falch iawn y gall Lywodraeth y DU helpu i ddod 芒鈥檙 Loteri Genedlaethol a鈥檙 awdurdodau p锚l-droed at ei gilydd i ddarparu ar gyfer y clybiau hyn a ph锚l-droed ar lawr gwlad yng Nghymru.
O Brestatyn i Ffynnon Taf, bydd y pecyn ariannol yn helpu i alluogi鈥檙 clybiau i barhau nes y gall y cefnogwyr ddychwelyd yn ddiogel.
Mae鈥檙 bartneriaeth yn dilyn menter debyg gan y Loteri Genedlaethol rhwng y Gymdeithas P锚l-droed Lloegr a鈥檙 Gynghrair Genedlaethol a hwyluswyd gan Lywodraeth y DU. Mae鈥檙 gwaith yn parhau ar bartneriaethau gyda Chymdeithasau P锚l-droed yr Alban a Gogledd Iwerddon.