Stori newyddion

Rhannu rhagor o wybodaeth am brisiadau ardrethi busnes

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA) wedi cyhoeddi manylion ynghylch sut y bydd yn gwella鈥檙 wybodaeth y mae鈥檔 ei datgelu am brisiadau ardrethi busnes.

Bydd y VOA yn rhannu gwybodaeth o safon uwch am brisiadau ardrethi busnes. Bydd hyn yn digwydd fesul cam:聽聽

  • Erbyn 2026, bydd talwyr ardrethi yn gallu gweld mwy o wybodaeth wedi鈥檌 theilwra am eu heiddo.聽

  • Erbyn 2029, bydd talwyr ardrethi yn gallu gweld gwybodaeth a thystiolaeth brisio fwy penodol.聽

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad yn 2023. Gwnaethom ofyn i dalwyr ardrethi, asiantau ac eraill pa wybodaeth yr oeddent am ei gweld yn cael ei datgelu o ran sut rydym yn prisio eiddo.聽

Meddai Carolyn Bartlett, Prif Swyddog Strategaeth a Thrawsnewid Asiantaeth y Swyddfa Brisio: 鈥淩ydym yn deall pwysigrwydd lefel uwch o dryloywder o ran prisiadau ardrethi busnes. Dangosodd yr ymgynghoriad fod safbwyntiau gwahanol ynghylch pa wybodaeth prisio eiddo y dylid ei datgelu.聽

鈥淩ydym wedi cydbwyso鈥檙 awydd gan rai pobl am fwy o dryloywder 芒 phryderon pobl eraill ynghylch cyfrinachedd eu data a鈥檙 ffaith bod yn well ganddynt wybodaeth symlach.鈥澛�

Darllenwch y crynodeb llawn o鈥檙 ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad.

Newidiadau i ardrethi busnes聽

Mae hyn yn rhan o set ehangach o newidiadau sy鈥檔 dod i ardrethi busnes yng Nghymru a Lloegr rhwng 2026 a 2029. Mae鈥檙 newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno fesul cam. Byddant yn cefnogi鈥檙 VOA i gyflawni ailbrisiadau eiddo yn amlach.聽

Mae鈥檙 newidiadau鈥檔 cynnwys dyletswydd newydd ar dalwyr ardrethi i ddarparu gwybodaeth am eu heiddo i鈥檙 VOA.聽

Disgwylir i鈥檙 ddyletswydd wybodaeth newydd ar dalwyr ardrethi gael ei chyflwyno ar 么l y 1af o Ebrill 2026. Bydd yn cael ei phrofi gyda niferoedd bach o gwsmeriaid fesul cam o鈥檙 pwynt hwnnw fel y gallwn wneud yn si诺r bod y system yn gweithio i bob talwr ardrethi.聽

Yna bydd y ddyletswydd yn cael ei roi ar waith yn ffurfiol ac yn orfodol i bawb erbyn y 1af o Ebrill 2029.聽

Nid oes unrhyw gamau y mae angen i chi eu cymryd nawr. Byddwn yn dweud wrthych am y newidiadau a phryd yr effeithir arnoch.聽

Mae鈥檙 ddyletswydd newydd yn golygu y bydd yn rhaid i dalwyr ardrethi roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn pen 60 diwrnod pan fo newidiadau i鈥檞 heiddo. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys newidiadau i鈥檙 canlynol:聽

  • y meddiannydd聽

  • y brydles neu rent聽

  • yr eiddo.聽聽

Bydd yn rhaid i nifer fach o dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth fasnachol unwaith y flwyddyn hefyd, os defnyddir yr wybodaeth honno i brisio eu heiddo.聽聽

Unwaith y flwyddyn, gofynnir i dalwyr ardrethi hefyd gadarnhau eu bod wedi rhoi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am unrhyw newidiadau i鈥檞 heiddo.聽聽聽聽聽聽

Meddai Carolyn Bartlett: 鈥淏ydd y newidiadau hyn yn ein helpu i ailbrisio eiddo bob tair blynedd. Mae ailbrisio eiddo鈥檔 amlach yn golygu y bydd biliau ardrethi busnes yn adlewyrchu amrywiadau yn y farchnad eiddo鈥檔 gynt. Bydd hyn yn gwneud y system yn un decach.鈥澛�

Mae newidiadau, a fydd yn cyflymu ac yn symleiddio鈥檙 broses Gwirio, Herio, Apelio, wedi鈥檜 cynllunio ar gyfer 2029, ar ddechrau鈥檙 rhestrau ardrethu newydd.聽聽聽聽聽聽

Gweithio gyda chi聽

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cadarnhau amserlen y diwygiadau ar 么l i amserlenni enghreifftiol gael eu cyhoeddi yn 2021.聽

Bydd yr amserlenni newydd yn rhoi amser i chi baratoi. Byddwn yn rhoi digon o rybudd i chi cyn i鈥檙 newidiadau i ardrethi busnes ddod i rym, a byddwn yn eich helpu i gael pethau鈥檔 iawn.聽

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio eisoes wedi bod yn gweithio gyda busnesau a鈥檜 cynrychiolwyr. Byddwn yn parhau i鈥檞 cynnwys wrth i ni ddylunio, adeiladu a phrofi鈥檙 systemau a鈥檙 newidiadau sy鈥檔 rhan o鈥檙 diwygiadau hyn.聽

Meddai Carolyn Bartlett: 鈥淓in nod yw adeiladu system sy鈥檔 gweithio i bob talwr ardrethi. Does dim ots a oes ganddynt un asesiad neu filoedd ohonynt, a dim ots a ydynt yn defnyddio asiant neu鈥檔 delio 芒 ni鈥檔 uniongyrchol.聽

鈥淏yddwn yn sicrhau bod y system wedi鈥檌 phrofi鈥檔 drylwyr gan dalwyr ardrethi cyn i ni gyflwyno鈥檙 gofynion newydd yn ffurfiol.鈥�

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Ionawr 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.