Datganiad i'r wasg

Croesfannau Afon Hafren yn ddi-doll ar 17 Rhagfyr 2018

Hwb Nadolig cynnar i gymudwyr, siopwyr a busnesau ar y ddwy ochr i鈥檙 ffin

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd tollau ar Groesfannau Afon Hafren yn cael eu diddymu ar ddydd Llun, 17eg Rhagfyr 2018, yn union mewn pryd ar gyfer gwyliau鈥檙 Nadolig, cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw (dydd Mawrth, 2ail Hydref).

Bydd y symudiad yn galluogi鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 teithio rhwng De Cymru a De-orllewin Lloegr i arbed arian ar siwrneiau gartref a thripiau siopa ar draws y ffin drwy gydol y cyfnod gwyliau.

Yn gyffredinol, bydd cael gwared 芒鈥檙 tollau yn cynhyrchu arbedion blynyddol i fodurwyr rheolaidd o fwy na 拢1,000 y flwyddyn ac amcangyfrifir y bydd yn ychwanegu hwb i economi Cymru o 拢100m bob blwyddyn. Bydd busnesau hefyd yn cael budd o鈥檙 cysylltiadau cryfach rhwng dinasoedd o Abertawe i Swindon, na fydd mwyach yn cael eu llethu gan rwystr ariannol rhwng y cymunedau.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Bu鈥檔 uchelgais ers amser hir gen i weld y tollau yn cael eu dileu, a chael gwared 芒鈥檙 rhwystr sydd wedi llesteirio ffyniant economaidd Cymru am fwy na hanner canrif.

Mae heddiw yn nodi cam pwysig ymlaen ym mhotensial economaidd Cymru, gan gynyddu ein hap锚l i fuddsoddwyr allanol, ond hefyd sicrhau nad yw busnesau, cymudwyr a thwristiaid ar ddwy ochr o鈥檙 ffin yn cael eu llesteirio gan ffi sy鈥檔 eu cyfyngu nhw o fwrw ymlaen 芒鈥檜 bywydau bob dydd.

Bydd cael gwared 芒鈥檙 tollau yn cadarnhau鈥檙 cysylltiadau cryf sydd eisoes yn bodoli rhwng econom茂au a chymunedau De Cymru a De-orllewin Lloegr, gan greu coridor twf ar gyfer ffyniant i flodeuo o Gaerdydd, drwy Gasnewydd i Fryste a thu hwnt.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

Bydd dileu tollau o鈥檙 pontydd Hafren yn helpu i drawsnewid yr economi yn ne Cymru a De-orllewin Lloegr, yn rhoi dros 拢1,000 y flwyddyn 么l ym mhocedi teuluoedd sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed.

Wrth ddiddymu tollau hyn byddwn hefyd yn lleihau costau i fusnesau ar ddwy ochr yr afon, yn rhoi hwb enfawr iddynt i helpu i greu cyfleoedd newydd a photensial newydd ar gyfer twf.

Mae鈥檙 penderfyniad yn dod ar 么l y newid ym mis Ionawr i leihau tollau ar y ddwy bont sy鈥檔 pontio鈥檙 Afon Hafren, yn golygu fod cymudwyr, gyrwyr a busnesau ar ddwy ochr yr afon wedi dechrau gwneud arbedion yn gynharach eleni.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Hydref 2018