Stori newyddion

Cwtogi tollau pont hafren o hyd at 75 y cant

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig toriadau i dollau Pont Hafren.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Severn crossing.

Mae Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi y bydd gyrwyr a busnesau yn elwa o ostyngiadau arfaethedig i dollau Pont Hafren ar 么l i鈥檙 bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Roedd ar ymweliad 芒 Chymru gyda鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns.

Byddai cynigion y Llywodraeth yn haneru鈥檙 prisiau a godir ar yr holl gerbydau, gan wneud gwahaniaeth sylweddol i gymudwyr, teithwyr, a busnesau bach yn benodol, a byddai rhai gyrwyr yn arbed dros 75 y cant.

Bydd y gostyngiadau i鈥檙 tollau yn cael eu cyflwyno wrth i鈥檙 bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Bydd gyrwyr a busnesau yn arbed arian, a bydd hyn yn helpu i roi hwb i鈥檙 economi. Mae disgwyl i鈥檙 tollau newydd gael eu cyflwyno yn 2018.

Mae鈥檙 Llywodraeth hefyd yn gobeithio cael gwared 芒鈥檙 barrau a chael tollau agored ar Bont Hafren a fydd yn helpu i leihau tagfeydd yn ogystal 芒 chwtogi amser teithio.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol:

Mae鈥檙 Llywodraeth yn benderfynol o wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Prydain. Bydd gostwng y tollau ar Bont Hafren yn lleihau鈥檙 costau ar gyfer busnesau gan helpu i greu mwy o swyddi a masnach yng Nghymru a ledled de-orllewin Lloegr.

Bydd prisiau newydd y tollau a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau dyfodol a diogelwch y bont am genedlaethau, yn ogystal 芒 rhoi hwb i鈥檙 economi gan gynnig y gwerth gorau am arian i yrwyr a threthdalwyr.

Pan fydd y bont wedi dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rheoli gan Highways England.

Y cynnig:

  • Bydd ceir yn talu 拢3.00 yn hytrach na 拢6.70 鈥� gan arbed dros 50 y cant
  • Bydd bysiau bach a faniau yn talu 拢3.00 yn hytrach na 拢13.40 鈥� arbediad gwerth 75 y cant
  • Bydd lor茂au a bysiau mawr yn talu 拢10 yn hytrach na 拢20 - gan arbed 50 y cant

Bydd deiliaid y bathodyn glas a gyrwyr beiciau modur yn parhau i gael eu heithrio o鈥檙 tollau. Bydd yr arian a godir yn talu am weithredu, cynnal a chadw鈥檙 bont, yn ogystal 芒 thalu am welliannau yn y dyfodol.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Mae hwn yn newyddion ardderchog i bobl sy鈥檔 byw ac yn gweithio yng Nghymru ac yn defnyddio Pont Hafren, yn enwedig gyrwyr faniau a fydd yn talu 75% yn llai o arian.

Bydd yr arbedion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i鈥檙 rheini sy鈥檔 defnyddio鈥檙 bont yn rheolaidd a bydd yn hwb enfawr i gwmn茂au sy鈥檔 chwilio am gwsmeriaid newydd - nawr gallant fod yn llawer mwy cystadleuol.

Mae Pont Hafren yn borth hanfodol i mewn i Gymru ac mae gostwng y tollau鈥檔 dangos unwaith eto bod Cymru yn dal yn agored ar gyfer busnes.

Mae鈥檙 Llywodraeth hefyd wedi nodi cynlluniau i gynnig yr un gostyngiadau i ddefnyddwyr TAG electroneg, sef y rheini sy鈥檔 defnyddio鈥檙 bont yn rheolaidd. Mae鈥檙 cynigion yn nodi y bydd tollau TAG hefyd yn gostwng:

  • Bydd ceir yn arbed 拢65.12 y mis
  • Bydd bysiau bach a faniau yn arbed 拢183 y mis
  • Bydd loriau a bysiau mawr yn arbed 拢198 y mis

Bydd cael gwared 芒鈥檙 barrau a chyflwyno tollau agored ar Bont Hafren hefyd yn caniat谩u codi t芒l ar ddwy ochr y bont, a allai olygu y bydd pris croesi un ffordd yn cael ei haneru.

Roads media enquiries

Media enquiries 0300 7777 878

Switchboard 0300 330 3000

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2017