Adran 28 ar gyfer dioddefwyr a thystion bregus yn Llysoedd y Goron
Mae'r adran hon yn darparu'r opsiwn i achwynwyr bregus, yn ogystal a thystion, gan gynnwys plant recordio tystiolaeth ymlaen llaw cyn y treial.

Mae Adran 28 Deddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999 yn galluogi recordio tystiolaeth a chroesholi cyn y treial, yn amodol ar ddisgresiwn barnwrol.
Mae鈥檔 berthnasol i achwynwyr bregus (y cyfeirir atynt fel dioddefwyr) a thystion, waeth beth fo鈥檙 drosedd, ac mae鈥檔 cynnwys:
- pob tyst sy鈥檔 blentyn
- unrhyw dyst y mae ansawdd ei dystiolaeth yn debygol o fod yn llai am ei fod:
a. yn dioddef o anhwylder meddyliol
b. 芒 nam sylweddol ar ddeallusrwydd a gweithrediad cymdeithasol
c. ag anabledd corfforol neu鈥檔 dioddef o anhwylder corfforol.
Mae darparu鈥檙 gwasanaeth hwn wedi bod yn bosibl gyda chefnogaeth y farnwriaeth, cymdeithasau proffesiynol cyfreithiol, a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a thystion.
Sut mae鈥檔 gweithio
Lle mae鈥檙 barnwr yn rhoi cyfarwyddyd i鈥檙 perwyl hwnnw, mae a.28 yn caniat谩u inni recordio鈥檙 broses o groesholi dioddefwyr a thystion bregus cyn y treial llawn, heb fod yn y llys. Yna caiff y dystiolaeth honno ei chwarae yn ystod y treial, sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn golygu nad oes angen i鈥檙 unigolyn bregus fod yn bresennol.
Cwblheir recordiad a.28 yn agos at adeg y drosedd drwy amserlen hwylus, gan helpu i wella gallu pobl i gofio pethau a lleihau鈥檙 trallod a brofir gan rai tystion wrth roi tystiolaeth mewn llys llawn yn ystod y treial.
Bydd yr amddiffyniad a鈥檙 erlyniad yn bresennol yn y llys cyn recordio, yn ogystal 芒鈥檙 barnwr a鈥檙 diffynnydd.
Nid yw鈥檙 croesholi a recordir ymlaen llaw yn effeithio ar hawl y diffynnydd i gael treial teg.
Llysoedd sy鈥檔 cynnig y gwasanaeth a.28
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn Kingston-upon-Thames, Leeds a Lerpwl yn ogystal 芒鈥檙 broses o鈥檌 gyflwyno wedyn mewn safleoedd ychwanegol, mae鈥檙 cynllun wedi bod ar gael i dystion bregus mewn o leiaf un llys ym mhob rhanbarth ers yn gynharach eleni.
Mae鈥檙 mesur bellach ar gael ym mhob un o lysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr.
Tystion sy鈥檔 cael eu bygwth
Y llynedd, dechreuwyd cynllun peilot i brofi鈥檙 dechnoleg ar gyfer tystion sy鈥檔 cael eu bygwth (oedolion sy鈥檔 ddioddefwyr troseddau rhywiol a throseddau caethwasiaeth fodern) mewn tri llys lle mabwysiadwyd y cynllun yn gynnar (Lerpwl, Leeds a Kingston-upon-Thames).
Efallai y bydd yn cael ei gyflwyno鈥檔 ehangach yn amodol ar werthuso鈥檙 cynllun peilot hwn.