Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Pam fod yn rhaid i'r Deyrnas Unedig aros gyda鈥檌 gilydd
Stephen Crabb yn ysgrifennu ar gyfer y Western Mail ar refferendwm annibyniaeth yr Alban a sut y bydd Cymru yn flaenllaw ac wrth galon unrhyw ddiwygio cyfansoddiadol.

Yfory (18 Medi) mae pobl yr Alban yn wynebu鈥檙 dewis pwysicaf a wneir ganddynt erioed 鈥� penderfyniad i aros yn rhan o鈥檙 teulu o wledydd sy鈥檔 ffurfio鈥檙 Deyrnas Unedig neu fynd ar eu liwt eu hunain, a thrwy wneud hynny, ddod 芒鈥檙 holl syniad o Brydain i ben.
Hyd at funud olaf y pleidleisio bydd llawer ohonom ar draws y sbectrwm gwleidyddol yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr i annog ein cefndryd yn yr Alban i ddweud 鈥楧im diolch鈥� wrth ddyfodol yn seiliedig ar wahanu a rhannu. Mae pobl Cymru, o fwyafrif llethol, am i鈥檙 Alban aros yn aelod o鈥檙 teulu a pharhau i wneud y DU yn llwyddiant.
Ond yn y diwedd, dewis i bobl yr Alban ydyw.
Rhaid iddynt ddewis rhwng y cyfle a鈥檙 diogelwch o aros o fewn y DU neu adael am byth. Nid arbrawf, neu rywbeth i roi cynnig arni yw pleidlais dros annibyniaeth. Mae鈥檔 derfynol a di-droi鈥檔-么l.
Mae datganoli yn galluogi pob un o genhedloedd y DU i gael eu pwerau deddfu eu hunain gan sicrhau ar yr un pryd bod ganddynt lais cryf yn llywodraeth y DU hefyd. Mae鈥檔 cryfhau hunaniaeth, sefydliadau a diwylliant pob un o鈥檙 cenhedloedd, ac yn gwarchod yr undeb gwleidyddol ac economaidd mwyaf llwyddiannus a welodd y byd erioed. Nid cam ymlaen y tu hwnt i ddatganoli yw annibyniaeth; mae鈥檔 ei wrthod.
Dylai penderfyniadau ar newid cyfansoddiadol fod yn seiliedig ar ffeithiau nid ffantasi, ac ar farn wybodus. Mae鈥檔 ffaith bod gweithio gyda鈥檔 gilydd fel rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig, yn creu gwell cyfleoedd a swyddi mwy diogel 鈥� yn enwedig ym meysydd amddiffyn, ynni a gwasanaethau ariannol. Mae鈥檔 ffaith ein bod, gyda鈥檔 gilydd, yn Deyrnas Unedig o 63 miliwn o bobl a 4.5 miliwn o fusnesau sy鈥檔 golygu fod trethi, ad-daliadau morgais, biliau a鈥檙 鈥榮iopa bwyd wythnosol鈥� yn costio llai.
Gyda鈥檔 gilydd mae gennym economi fwy, gryfach a mwy sefydlog, yn gwarchod ein cyfraddau llog, prisiau nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal 芒 gwarchod ein gilydd. Rwy鈥檔 awyddus iawn i weld yr Alban yn aros o fewn ein teulu o genhedloedd. Does dim dwywaith ein bod yn well gyda鈥檔 gilydd.
Does dim dwywaith fod hon yn eiliad o drawma cyfansoddiadol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae Prydain wedi wynebu her i鈥檞 bodolaeth na welwyd ei thebyg o鈥檙 blaen, a bydd yn cymryd amser i wella a dod dros hynny. Mae un peth yn sicr: ar 么l yr wythnos hon ni ellir mynd yn 么l i鈥檙 status quo. Mae corwynt newid yn chwythu ar draws ein tirwedd gyfansoddiadol.
Drwy ddweud 鈥榙im diolch鈥� wrth annibyniaeth ddydd Iau, rydym yn cydnabod nad yw pobl yr Alban yn dweud 鈥榙im newid鈥�. Bydd pleidlais 鈥榥a鈥� yn arwain at fwy o bwerau i鈥檙 Alban ynghyd 芒鈥檙 sefydlogrwydd a鈥檙 diogelwch o barhau o fewn teulu鈥檙 DU.
Ond mae鈥檙 awydd am newid cyfansoddiadol yn tyfu mewn mannau eraill, gan gynnwys yma yng Nghymru. Bydd y ddadl gyfansoddiadol sydd i ddod yn llawer ehangach na fyddai llawer o bobl wedi鈥檌 rhagweld ar ddechrau ymgyrch y refferendwm.
Yr wyf o鈥檙 farn ei bod yn hanfodol edrych ar gyfansoddiad y Deyrnas Unedig fel un mater cydlynus am y tro cyntaf. Mae materion cyfansoddiadol pwysig i Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr y bydd angen edrych arnynt yn dilyn y refferendwm yn yr Alban.
Rwy鈥檔 benderfynol na chaiff Cymru ei gadael ar 么l pan ddaw鈥檔 fater o adnewyddu cyfansoddiadol. Bydd Cymru鈥檔 flaenllaw ac wrth galon pethau wrth i ni edrych eto ar ein fframwaith cyfansoddiadol.
Ar bob achlysur pan roddwyd cyfle i bobl Cymru bleidleisio am fwy neu lai o ddatganoli, maent wedi dewis mwy. Dyna鈥檙 cyfeiriad clir i deithio iddo ac rwy鈥檔 falch o fod yn rhan o Lywodraeth sydd 芒 hanes cadarn ar ddatganoli.
Ers 2010 rydym eisoes wedi cyflwyno un refferendwm llwyddiannus yng Nghymru a oruchwyliodd y symudiad tuag at bwerau deddfu llawn ar gyfer Llywodraeth Cymru ac rydym ar hyn o bryd wrthi鈥檔 pasio deddf i drosglwyddo pwerau trethu sylweddol i鈥檙 Cynulliad.
Rwyf wedi datgan yn glir fy mod yn ymroddedig i weithio gyda鈥檙 farn gyhoeddus mewn modd realistig, pragmatig a chyda meddwl agored er mwyn cyflawni setliad datganoli sy鈥檔 gweithio i Gymru. Mae consensws pendant yng Nghymru o blaid dyfodol yn seiliedig ar ddatganoli o fewn y DU nid annibyniaeth. Mae鈥檙 undod hwnnw鈥檔 rhoi man cychwyn cadarn i ni yn y ddadl sydd bellach ar gychwyn. Credaf mewn datganoli gyda diben iddo.
Mae Refferendwm yr Alban wedi arwain llawer o bobl i werthfawrogi am y tro cyntaf yr hyn y mae鈥檔 ei olygu i fod yn Deyrnas Unedig, a鈥檙 manteision sy鈥檔 deillio o fod yn rhan o deulu o genhedloedd. Rhaid i ni beidio 芒 cholli golwg ar hynny. Rhaid i鈥檙 dull tameidiog o weithredu o ran datganoli a fodolai yn y gorffennol newid i greu dull mwy cynhwysfawr sy鈥檔 ymateb i anghenion a dyheadau cenhedloedd unigol o fewn fframwaith y DU.
Yfory, bydd pobl yr Alban yn penderfynu nid yn unig beth fydd eu ffawd, ond hefyd beth fydd dyfodol Prydain, a dyfodol yr holl bobl ar yr ynysoedd hyn fel y maent ar hyn o bryd. Rydym ar fin cyrraedd pennod newydd yn ein hanes cyfansoddiadol ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd pobl yr Alban yn dewis aros ac ymuno 芒 phobl Cymru i lunio tirwedd ein Teyrnas Unedig i鈥檙 dyfodol.