Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nodi Dydd y Cofio yn y Bathdy Brenhinol
David Jones yn bathu darn arian 拢5 arbennig i nodi Dydd y Cofio 2013

David Jones strikes Remembrance Day coin
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn ymweld 芒鈥檙 Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, De Cymru fore heddiw er mwyn cael taith o amgylch cwmni gweithgynhyrchu hynaf Prydain a bathdy allforio mwyaf y byd.
Croesewir Mr Jones gan Andrew Mills, Cyfarwyddwr Arian Cylchred y Bathdy Brenhinol, er mwyn mynychu seremoni Dydd y Cofio yng nghwmni staff a Chyfarwyddwyr y Bathdy Brenhinol. Bydd yn gosod torch wrth gofeb rhyfel y Bathdy Brenhinol i sain Y Caniad Olaf gan aelod o Fand y Grenadier Guards.
Yn ystod yr ymweliad, bydd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn bathu darn arian 拢5 arbennig i nodi Dydd y Cofio 2013, sy鈥檔 cael ei gyhoeddi gan y Bathdy Brenhinol er cof am arwyr brwydrau鈥檙 gorffennol a鈥檙 presennol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:
Mae Dydd y Cofio yn cynrychioli un o funudau mwyaf grymus ein hanes. Mae鈥檔 gyfle i ni oedi am funud i gofio鈥檙 dynion a鈥檙 merched hynny sydd wedi marw neu wedi dioddef mewn rhyfeloedd, gwrthdaro ac ymgyrchoedd heddwch ledled y byd.
Mae鈥檙 pabi coch yn symbol cyfarwydd o Ddydd y Cofio erbyn hyn. Mae darn arian arbennig Dydd y Cofio hefyd yn deyrnged deilwng i鈥檙 rheiny sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac yn arwydd o鈥檔 diolchgarwch i鈥檙 aelodau hynny o鈥檙 lluoedd arfog, yn ddynion ac yn ferched, sydd wrthi o hyd yn amddiffyn ein ffordd o fyw, yma a dramor.
Dywedodd Andrew Mills, Cyfarwyddwr Arian Cylchred y Bathdy Brenhinol:
Rydym yn croesawu鈥檙 ffaith y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yma yn y Bathdy Brenhinol i nodi鈥檙 achlysur gyda ni. Ar adeg fel hyn, mae anrhydeddu cyfraniad ein dynion a鈥檔 merched yn y lluoedd arfog yn arbennig o ingol i ni yma yn y Bathdy Brenhinol, sydd wedi bod yn gwneud medalau i filwyr ymgyrchoedd milwrol ers iddynt gael eu dyfarnu am y tro cyntaf i filwyr unigol yn dilyn Brwydr Waterloo yn 1815.