Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cynnal derbyniad i ddathlu Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog

David Jones yn tynnu sylw at waith Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
"Welsh countryside"

Welsh countryside

I nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Cefn Gwlad (14eg i 20fed Gorffennaf 2014) cynhelir derbyniad yn San Steffan i dynnu sylw at waith Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan David Jones, AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Ymddiriedolwr Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog, yr Arglwydd Curry o Kirkhale.

Ers lansio鈥檙 Gronfa yn 2010 mae wedi darparu grantiau i gefnogi naw o brosiectau yng Nghymru a bydd cynrychiolydd o bedwar o鈥檙 rhain yn y Derbyniad. Mae 92 o brosiectau wedi cael eu cefnogi鈥檔 genedlaethol ac mae dros 拢3.8 miliwn wedi cael ei roi i helpu ein cymunedau gwledig, ein ffermwyr a鈥檔 pobl ifanc.

Mae Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog hefyd wedi rhoi cyllid brys i ffermwyr yng Nghymru, yn enwedig ffermwyr mynydd a gollodd nifer fawr o ddefaid a鈥檜 h诺yn wrth i luwchfeydd eira trychinebus effeithio ar rannau o Gymru.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf wrth fy modd fy mod yn cael cynnal y derbyniad yn Nh欧 Gwydyr heno (14 Gorffennaf) sy鈥檔 rhoi cyfle gwerthfawr i amlygu gwaith ardderchog Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog.

Mae eu gwaith yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys prentisiaethau a hyfforddiant i bobl ifanc, cefnogaeth ymarferol a bugeiliol i ffermwyr, cymorth busnes i fenywod a phrosiectau i addysgu plant ysgol.

Dywedodd Helen Aldis, Rheolwr Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog:

Mae Cymru yn ardal wledig bwysig iawn i鈥檙 Gronfa. Rydyn ni鈥檔 chwilio am ragor o brosiectau i鈥檞 helpu yn y rhanbarth 鈥� yn ogystal 芒 chysylltu 芒 chwmn茂au yng Nghymru i edrych sut gallan nhw ymuno 芒 ni a chefnogi ein gwaith.

Y materion mae Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yn mynd i鈥檙 afael 芒 nhw: mae incwm ffermio isel, dirywiad mewn cymunedau gwledig, mynediad i hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ac ynysu gwledig i gyd yn faterion mawr yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 rhain.

Cafodd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog ei sefydlu gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i gefnogi鈥檙 llu o sefydliadau ac unigolion hynod sy鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i gadw ffermwyr yn ffermio a鈥檔 cymunedau gwledig yn fyw.

Gwybodaeth bellach:

  • Cafodd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog ei sefydlu gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru sydd wedi ymrwymo ers tro byd i gefnogi ardaloedd gwledig sydd dan bwysau ym Mhrydain.
  • Cafodd ei sefydlu gan Fusnes yn y Gymuned ym mis Gorffennaf 2010. Hyd yn hyn mae wedi rhoi dros 拢3.8 miliwn mewn grantiau sydd wedi cael eu dosbarthu i dros 90 o brosiectau ar draws y wlad, gan roi budd uniongyrchol i 64,000 o bobl.
  • Mae鈥檙 prosiectau sydd wedi cael cyllid yn amrywio o brentisiaethau i gyw ffermwyr mynydd, hyfforddiant i bobl ifanc i gael cyflogaeth yn yr economi wledig, cynlluniau cludiant cymunedol mewn ardaloedd gwledig ynysig a phrosiectau i addysgu plant ysgol ynghylch o ble daw eu bwyd a pham bod cefn gwlad yn bwysig.
  • Yn ogystal 芒鈥檙 broses ymgeisio arferol, mae鈥檙 Gronfa hefyd yn gweithredu cronfa frys pan fydd yr angen yn codi.
  • Mae鈥檙 holl brosiectau鈥檔 canolbwyntio ar gefnogi鈥檙 bobl sy鈥檔 gofalu am ein cefn gwlad ac yn gwneud iddo weithio.

Mae Prosiectau Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yn cynnwys:

Addysg Ffermio a Chefn Gwlad:

Nod FACE yw addysgu plant a phobl ifanc am fwyd a ffermio mewn cefn gwlad cynaliadwy. Gan gynrychioli 13,250 o athrawon a 129 o ffermwyr mae鈥檔 elusen genedlaethol. Mae FACE wedi cael grant ychwanegol o 拢150,000 dros ddwy flynedd i ymestyn y rhaglen 鈥楳ae Cefn Gwlad yn Bwysig鈥�, drwy ymweliadau 芒 ffermydd neu weithgareddau yn yr ysgol fel tyfu neu goginio bwyd ffres.

Rhwydwaith Cymuned Ffermio:

Mae鈥檙 Rhwydwaith Cymuned Ffermio yn darparu cefnogaeth ymarferol a bugeiliol i helpu ffermwyr i ganfod ffordd gadarnhaol ymlaen drwy eu problemau. Mae鈥檙 prosiect yn delio 芒鈥檙 cyfle i gynnal ffermio Prydeinig yn yr ardaloedd sydd 芒鈥檙 angen mwyaf. Mae cyllid wedi cael ei ddarparu i gynyddu鈥檙 ymwybyddiaeth o鈥檜 gwasanaethau yng Nghymru drwy gynhyrchu llenyddiaeth yn Gymraeg ac yng Nghaint, Swydd Henffordd, a Swydd Gaergrawnt. Mae鈥檙 grant yn golygu bod mwy o fusnesau ffermio wedi cael eu cefnogi.

Pub is the Hub

Wedi鈥檌 sefydlu gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, mae The Pub is the Hub yn hwyluso prosiectau drwy annog a helpu trwyddedeion a chymunedau i gysylltu a rhannu eu profiadau a chydweithio i gefnogi a chynnal eu gwasanaethau lleol. Mae grant y Gronfa wedi golygu bod modd cyflwyno鈥檙 rhaglen hon yng Nghymru, gyda鈥檙 targed o gynghori 92 o gymunedau.

WiRE

Mae Menywod mewn Mentrau Gwledig yn sefydliad cenedlaethol sy鈥檔 cefnogi menywod gwledig sy鈥檔 berchen ar fusnes neu sydd eisiau cychwyn busnes ac mae鈥檔 darparu cymorth busnes a chyngor ar gychwyn busnes. Mae grant Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog wedi cefnogi eu Rhaglen Arwain Rhwydwaith. Eu nod yw datblygu sgiliau arwain arweinwyr rhwydwaith sy鈥檔 darparu cyngor 鈥榓r lawr gwlad鈥�.

Dyma鈥檙 cwmn茂au sy鈥檔 cefnogi鈥檙 Gronfa: Asda, Aquascot, Barbour, Barclays, Booths, Coutts, Dairy Crest, Dalehead Foods, Dovecote Park, Duchy Original, Ginsters, HSBC, Hunter, Jordans & Ryvita, Kerry Foods, Land Rover, Lloyds, McDonald鈥檚, Marks & Spencer, Moy Park, Musto, Produce World, Strutt & Parker, United Biscuits a Waitrose.

Mae鈥檙 cyhoedd yn gallu rhoi arian ar-lein yn Virgin Giving, yn Swyddfa鈥檙 Post neu drwy Neges Destun. Tecstiwch PCF i 70300 a bydd 拢3 yn cael ei roi i Gronfa Cefn Gwlad y Tywysog.

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Cefn Gwlad, mae Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yn annog pawb i fynd allan am dro a mwynhau a gwerthfawrogi cefn gwlad.

Dysgwch fwy am

Image courtesy of on Flickr, used under Creative Commons.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Gorffennaf 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.