Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol yn cyd-gadeirio cyfarfod diogelwch tomenni glo gyda'r Prif Weinidog

Roedd y cyfarfod yn dilyn stormydd diweddar ledled Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Bu Simon Hart, yr Ysgrifennydd Gwladol, a Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cadeirio cyfarfod i drafod diogelwch tomennydd glo yn dilyn y stormydd diweddar. Roedd arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol yn y cyfarfod.

Cytunodd y Prif Weinidog a鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol y byddai eu llywodraethau鈥檔 gweithio gyda鈥檌 gilydd i asesu diogelwch tomennydd ar frys a sicrhau eu bod yn cael eu harolygu a鈥檜 monitro鈥檔 briodol. Cytunwyd ar y camau canlynol:

  • bydd yr holl asiantaethau perthnasol yn gweithio gyda鈥檌 gilydd i rannu adnoddau ac arbenigedd technegol o ran y gwaith o arolygu a monitro a byddant yn llunio set gyffredin o safonau ar gyfer asesu risg;
  • bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i bobl sy鈥檔 byw yng nghymoedd de Cymru am ddiogelwch tomennydd lleol, wedi鈥檌 chydgysylltu drwy un pwynt cyswllt.

Bydd Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU yn cydlynu鈥檙 gwaith hollbwysig hwn a bydd y cyfarfod yn ailymgynnull yr wythnos nesaf.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn dilyn y tywydd a鈥檙 llifogydd nad oedd modd eu rhagweld yn sgil y stormydd diweddar, mae gwaith brys yn cael ei wneud i asesu unrhyw risg i bobl neu eiddo ac i gadarnhau bod pawb sydd 芒 chyfrifoldeb cyfreithiol o ran y tomennydd yn cyflawni eu rhwymedigaethau diogelwch. Mae鈥檙 awdurdodau a鈥檙 asiantaethau perthnasol yn gweithio gyda鈥檌 gilydd ac mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran y gwaith hollbwysig hwn.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

Cefais gyfarfod 芒鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol i drafod sut y gall ein Llywodraethau weithio gyda鈥檌 gilydd i sicrhau bod tomennydd glo ledled Cymru yn cael eu rheoli鈥檔 gyfrifol. Rwyf eisiau sicrhau pobl sy鈥檔 byw鈥檔 agos at domennydd glo ledled Cymru ein bod yn cymryd y sefyllfa hon o ddifrif ac y byddwn yn parhau i roi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf iddynt.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2020