Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol a chynghorau i sbarduno Cynllun Dinesig

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn galw ar arweinwyr cyngor i gefnogi cynlluniau ar gyfer Cynllun Dinesig Caerdydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
Stephen Crabb, Secretary of State for Wales, meets Roger Lewis, Chairman of Cardiff Capital Region Advisory Board

Stephen Crabb, Secretary of State for Wales, meets Roger Lewis, Chairman of Cardiff Capital Region Advisory Board. The two met to discuss the details of a City Deal for Cardiff.

Heddiw (dydd Llun 8 Mehefin), dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod wedi galw ynghyd arweinwyr cyngor o brifddinas ranbarth Caerdydd i sbarduno cynlluniau ar gyfer Cynllun Dinesig Caerdydd.

Bydd y cyfarfod - sydd i鈥檞 gynnal ar 11 Mehefin - yn dwyn ynghyd arweinwyr awdurdod lleol sydd, gyda鈥檌 gilydd, yn ffurfio鈥檙 rhanbarth a fydd yn manteisio ar fuddiannau cymdeithasol ac economaidd y Cynllun.

Daeth y cyhoeddiad wrth i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol gynnal cyfarfodydd gyda ffigurau amlwg o鈥檙 byd busnes, gyda鈥檙 nod o gynnal y momentwm ar gyfer sicrhau bod Cynllun Dinesig Caerdydd yn symud i鈥檙 cyfeiriad cywir.

Cyfarfu Mr Crabb 芒 Roger Lewis, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Nigel Roberts, Cadeirydd Cyngor Busnes Caerdydd, i drafod sut bydd y Cynllun yn cefnogi busnesau rhanbarthol.

Cadarnhawyd cychwyn trafodaethau yngl欧n 芒 Chynllun Dinesig gan Ganghellor y Trysorlys yn y Gyllideb ar 18 Mawrth. Mae cyn Gynlluniau Dinesig wedi cynnwys buddsoddi lleol a chanolog.

Dywed yr Ysgrifennydd Gwladol:

Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop; mae鈥檔 lle bywiog a fu unwaith yn grud i鈥檙 chwyldro diwydiannol ond sydd yn awr yn wynebu dyfodol cyffrous fel lle i fuddsoddi arian ynddo.

Mae eisoes yn elwa ar seilwaith digidol addas ar gyfer yr 21ain ganrif megis Cyfnewidfa Ryngrwyd Caerdydd 鈥� esiampl wych o Lywodraeth, busnes a phartneriaid lleol yn gweithio ynghyd.

Fy ngobaith yw y gwelwn Gynllun Dinesig Caerdydd, yn cael ei weithredu fel hyn - ond ar raddfa a fydd yn dwyn budd nid yn unig i bobl Caerdydd, ond ar hyd a lled y brifddinas-ranbarth.

Mae鈥檙 adferiad yn prysuro drwy Gymru benbaladr ac yma yng Nghaerdydd, mae gennym gyfle unigryw. Y dasg yn awr yw dwyn ynghyd y sector preifat, Llywodraeth Cymru, a鈥檙 cynghorau hynny sy鈥檔 ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ledled y DU, mae Cynlluniau Dinesig yn sicrhau buddsoddi sylweddol, gan fraenaru tir ar gyfer prosiectau seilwaith newydd a phennu gweledigaeth strategol glir ar gyfer ffynnu. Nid wyf am weld Cymru鈥檔 cael ei gadael ar 么l.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae鈥檙 arweinwyr a wahoddwyd yn cynrychioli cynghorau sy鈥檔 gwasanaethu Caerdydd; Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Dinas Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen a Bro Morgannwg.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mehefin 2015 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.