News story

RWM yn nodi ei ddull o werthuso safleoedd ar gyfer GDF

Mae diogelwch, cymunedau a鈥檙 amgylchedd yn ystyriaethau allweddol

Radioactive Waste Management

Bydd diogelwch, cyfleoedd i gymunedau, ac amddiffyn yr amgylchedd yn ystyriaethau allweddol wrth werthuso safleoedd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF).

Heddiw cyhoeddodd Radioactive Waste Management (RWM) ei ddull o werthuso safle GDF yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn ymgynghoriad cenedlaethol cynhwysfawr ac agored.

Dim ond gyda chymuned barod a safle addas y bydd cyfleuster o鈥檙 fath yn cael ei adeiladu. Bydd 鈥榝factorau lleoli鈥�, sy鈥檔 cael eu harwain gan bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth, yn sail i鈥檙 sgyrsiau y bydd RWM yn eu cael gyda chymunedau ac wrth werthuso pa mor addas yw safleoedd.

Mae chwe ffactor lleoli, sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 canlynol:

  • Diogelwch 鈥� mae鈥檔 rhaid i reoleiddwyr annibynnol sicrhau ac ardystio diogelwch. Ni fydd GDF yn cael ei adeiladu oni bai ein bod ni, a nhw, yn fodlon ei fod yn ddiogel.

  • Cymuned 鈥� mae cymunedau wrth galon y broses o leoli GDF, a bydd RWM yn ystyried cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd, llesiant cymunedol, a sut gall GDF fod yn gyson 芒 gweledigaeth y gymuned sy鈥檔 cynnig lleoliad ar gyfer y cyfleuster.

  • Amgylchedd 鈥� mae adeiladu GDF yn ymdrech fawr i amddiffyn yr amgylchedd. Bydd angen i鈥檙 broses o adeiladu GDF fodloni gofynion rheoleiddio annibynnol.

  • Dichonoldeb peirianyddol 鈥� bydd angen i RWM sicrhau bod lle i ddylunio鈥檔 gynaliadwy a bod modd adeiladu a gweithredu GDF mewn lleoliad.

  • Trafnidiaeth 鈥� cludo gwastraff, pobl a deunyddiau eraill yn ddiogel.

  • Gwerth am arian 鈥� mae dyletswydd ar RWM i sicrhau gwerth am arian.

Dywedodd Prif Weithredwr RWM, Karen Wheeler:

鈥淕DF yw鈥檙 ateb tymor hir gorau ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol etifeddol uwch ei actifedd yn ddiogel yn y DU.鈥�

鈥淒im ond gyda chymuned barod a safle addas y bydd cyfleuster o鈥檙 fath yn cael ei adeiladu, felly mae鈥檔 bwysig bod cymunedau a鈥檜 cynrychiolwyr yn deall sut byddwn yn gwerthuso pa mor addas yw safle.鈥�

鈥淢ae鈥檙 dogfennau gwerthuso safle rydyn ni鈥檔 eu cyhoeddi heddiw yn nodi鈥檙 鈥榝factorau lleoli鈥� y byddwn yn eu defnyddio i asesu addasrwydd wrth i ni weithio gyda chymunedau sydd 芒 diddordeb mewn archwilio manteision a goblygiadau cynnig lleoliad ar gyfer GDF.鈥�

Updates to this page

Published 18 February 2020